Mae Aelwyd Amanw ar gael unwaith eto at ddefnydd pobl Brynaman a'r cylch. Bu ar gau ers Tachwedd diwethaf er mwyn i'r gwaith o ehangu ac adnewyddu fynd yn ei flaen a rhaid dweud bod y lle yn awr yn bleser i'w weld - neu'r tu mewn o leiaf.
Mae gwaith enfawr wedi ei gwblhau - diolch i grantiau a dderbyniwyd gan Gronfa 1 WREN, Cronfa Adnewyddu Ardal, Y Gist Gymunedol, Cymunedau'n Gyntaf a Chyngor Cymuned Cwarter Bach.
Mae Pwyllgor yr Aelwyd yn arbennig o ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi cefnogaeth bob un o'r uchod gan na fyddai wedi bod yn bosib ariannu'r gwaith.
Yn ddiamau byddai'r adeilad wedi gorfod cau a hynny yn dristwch i lawer iawn o bobl sy'n gwneud defnydd cyson o'r lle nawr heb s么n am y llu sydd ag atgofion melys iawn o'r dyddiau a fu.
Rhaid diolch hefyd i gwmni TRJ am waith arbennig ac am Iwyddo i gael cwart allan o bob peint lle bo'r arian yn y cwestiwn!
Ar nos Lun, 30 o Fehefin cynhaliwyd noson agored
yn yr aelwyd er mwyn rhoi cyfle i'r bobi leol weld y
lle ar ei newydd wedd ac roedd hi'n hyfryd gweld y
lle'n llawn o blant a phobl o bob oed yn ymfalch茂o yn y gweddnewidiad.
Cafodd pawb bleser mawr o weld
nifer dda o'r plant sy'n mynd i'r dosbarthiadau dawns
a gynhelir yno yn perfformio yn ystod y noson.
Dyna Ran 1 o'r cynllun wedi ei chwblhau, ymlaen yn awr at Ran 2 sef y gwaith ar y tu allan - a'r gwaith o godi arian unwaith eto i dalu amdano!
Pan ddaw hwnnw i ben bydd lle diogel ar gael ar gyfer gweithgareddau o dan do neu yn yr awyr agored.
Wedi'r holl waith mae pwrs yr aelwyd nawr yn eithaf gwag a bydd rhaid gweithio'n brysur i gynnal gweithgareddau er mwyn rhoi golwg iachach arno. Gobeithio'n fawr y gwnaiff pobl Brynaman helpu gyda'r gwaith hwn.
Bydd yr agoriad swyddogol yn ddiweddarach yn y flwyddyn - yn y gobaith y bydd arian wedi dod i gwblhau'r prosiect cyfan, mewn ag allan, erbyn hynny.
|