Nos Wener 6ed Mawrth daeth cefnogwyr Masnach Deg i'r Arcade yn Rhydaman i fwyta Banana Split Masnach Deg Enfawr. Roedd aelodau Clwb Hwyl Hwyr, sef Clwb Cristnogol ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 i 6 sydd wedi ei drefnu gan Gapeli tref Rhydaman yno.
Ymgais i greu record byd o ran bwyta bananas Masnach Deg oedd hon. Y prif drefnwyr oedd aelodau Eglwys Efengylaidd Rhydaman gyda chefnogaeth Clybiau Ieuenctid Cristnogol y dref.
Yn gyntaf roedd yn rhaid adeiladu'r banana split drwy dorri bananas, wedyn rhoi'r hufen ia ar eu pennau. Yna ychwanegu'r hufen ac yn olaf y saws mefus a siocled. Roedd y canlyniad yn gampwaith ac yn wir cadw at y term Banana Split Enfawr. Braf oedd gweld cymaint yno, yn blant, ieuenctid ac oedolion.
Roedd y gweithgaredd hwn wedi ei drefnu gan glybiau ieuenctid capeli ac eglwysi'r dref, ond yn agored i bawb. Roedd y banana split yn barod i'w bwyta am 6.00 a cafodd pawb hwyl arbennig yn llanw eu boliau. Pa well ffordd o godi ymwybyddiaeth Masnach Deg sy'n ceisio sicrhau bywoliaeth deilwng i gynhyrchwyr y trydydd byd, a chael hwyl arbennig yr un pryd. Yn y lluniau gwelir aelodau Clwb Hwyl Hwyr yn mwynhau'r achlysur.
|