Cysylltiad rhyfedd rhwng perchnogion Roedd llawer o ddiddordeb gan David Davies mewn beiciau - gan gynnwys beiciau modur, ac mae hyn yn dod 芒ni at gysylltiad rhyfedd rhwng y perchennog cyntaf 芒'r perchnogion newydd a gymerodd ofal o'r lle fis Medi diwethaf.O Lundain y daeth William a Jessica i Frynaman. Yng Nghaerdydd y ganwyd ac y magwyd William, ac wedi mynd i Goleg Celf Caerdydd ac yna i Goleg yn Llundain bu'n gweithio yno dan gynllun Addysg Gymunedol yn dysgu pobl sut i gynllunio a gwneud dodrefn. Ond roedd ei fryd ar ddod nol i Gymru, ac yn arbennig i gymuned Gymraeg ei hiaith, ac yntau wedi gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg ei hun. Bu ef a Jess yn chwilio yn ddyfal dros gyfnod o ddwy flynedd am le oedd yn apelio atynt ond heb lwyddo. Tra'n teithio trwy Frynaman ar ei feic modur un diwrnod bu rhaid i William aros ar Hewl Stesion i holi am fenthyg spaner i dynhau'r drych ar ei feic - ac i ble aeth e i holi ? - ie wir i chi - i "Siop Laria"! Wrth sgwrsio 芒 Douglas, a chael benthyg spaner, clywodd fod y lle ar werth. Cael golwg o gwmpas, galwad ff么n ar frys i Jess yn Llundain, a dyna ddechrau ar bethau. Rhedeg siop a gwersi ioga! O Rwsia a Gwlad Pwyl y daeth cyndeidiau Jess i Brydain, ac yn Llundain y magwyd hi. Athrawes ioga a dawns yw hi gyda phrofiad helaeth yn y maes. Mae hi wedi dechrau dosbarth ioga yn Yr Aelwyd ym Mrynaman ar nos Iau rhwng 7 a 8.30 yr hwyr, ac os hoffech chi ymuno 芒'r dosbarth hwnnw yna galwch yn y siop i gael gair 芒 hi. Mae'n gobeithio symud ymlaen at weithdai perfformio hefyd yn y dyfodol. Bu'n dilyn gwersi Cymraeg mewn dosbarthiadau yng Nghanolfan Cymry Llundain am ddwy flynedd cyn symud ac mae hi'n awyddus i gael cyfle i ymarfer - y broblem yw fod pobl yn siarad braidd yn rhy gyflym iddi ar hyn o bryd ond fe ddaw pethau'n well. Mae yna aelod arall i'r teulu hefyd - cariad o gi defaid bach ifanc o'r enw Cwsg.Mae William a Jess yn awyddus iawn i werthu cynnyrch lleol yn y siop fel wyau, menyn, teisennau a bwydydd naturiol. Maen nhw hefyd yn gobeithio gallu gwerthu papurau a chylchgronau Cymraeg gan gynnwys cylchgronau'r Urdd. Maen nhw eisoes yn gwerthu'r Glo Man a chardiau Cymraeg. Rhywbryd yn y dyfodol fe hoffen nhw agor lle te lan ar lawr ucha'r siop, gan roi cyfle i bobl hamddena dros gwpanaid o de. Gobeithiant hefyd allu gwerthu peth crefftwaith Cymreig a m芒n anrhegion. Maen nhw'n bar ifanc croesawgar a diddorol, sy'n llawn brwdfrydedd ag awydd i ddod yn rhan o fywyd y pentref - ac yn esiampl wych o'r math gorau o fewnfudwyr i'r gymuned wledig Gymreig. Maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth felly galwch i mewn i'w gweld, bobl Brynaman a thu hwnt, fe gewch groeso cynnes. Pob hwyl a lwc dda i'r ddau yn eu menter newydd. M.T.
|