大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Glo M芒n
Diwedd Pennod
Ionawr 2005
Pan werthwyd y Rose& Crown, Heol yr Hendre yn ddiweddar gwerthwyd un o adeiladau hynaf pentref Tycroes a gyda'r gwerthu daeth perthynas teulu'r Jenkins a'r 'Crown' am dros 120 o flynyddoedd i ben.

Mae'r Rose & Crown yn o leiaf 200 mlwydd oed ac y mae iddo hanes lliwgar dros ben. Cyfeiria'r Parch. Gomer Roberts ato yn ei lyfr ar hanes Plwyf Llandybie ac fe ddywed bod ysgol ddyddiol yno tua 1820 ac i'r fan honno y byddai plant Capel Hendre yn dod i gael eu haddysg.

Fel yr awgryma'r enw fe fu hefyd yn dafarn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyn oes y bws a'r modur mae'n ymddangos y galwai'r Goets Fawr yno ac yn stabal Y Crown y byddai'r ceffylau yn cael eu newid. Rhoddai hyn gyfle i'r teithwyr gael ymborth a diod cyn mynd ymlaen ar eu taith.

Yn 1899 priododd Jacob 芒 Rachel Jenkins. Brodor o Gwmgwili oedd fy nhad-cu, Jacob Jenkins, ac ar 么l priodi ymgartrefodd gyda'i wraig ifanc yn ei chartref yn y Rose & Crown. Ganwyd iddynt ddeg o blant. O'r pedwar plentyn cyntaf bu tri ohonynt farw cyn cyrraedd eu blwydd oed. Dim ond David Joseph, y cyntaf anedig a oroesodd blentyndod a bu e farw yn 诺r ifanc 16 oed ar 么l damwain yng Nglofa'r Rhos gerllaw.

Yn 1905 symudodd , p芒r ifanc a'u mab i fyw yng Nghwmgwill - i dy o'r enw 'Hollyview' ac yno yn 1906 ganwyd Emrys Jenkins. Y flwyddyn ganlynol symudodd y teulu yn 么l i'r Rose & Crown lle y ganwyd pump o blant - Mary Adeline, William, Edna May, Megan a Rachel Rona.

Mae'n ymddangos bod fy mam-gu yn afiach iawn - yn cael ei blino gan glefyd y siwgr ac yn ystod cyfnod geni Rona roedd yn goddef yn enbyd ganddo ac o ganlyniad ganwyd Rona 芒 nam meddyliol a chorfforol.

Bu mam-gu farw pan oedd Rona ond yn 15 mlwydd oed. Am y 41 mlynedd nesaf fe gafodd Rona pob tynerwch a gofal gan ei chwiorydd Adeline, May a Megan a'i Gw欧r Alwyn, David John a Goronwy.

Lle hapus iawn oedd y Rose & Crown gyda'r tair chwaer yn byw drws nesaf i'w gilydd ac yn eu tro yn edrych ar 么l Rona. Bob dydd Llun, Mercher a Gwener byddai Rona gyda fy mam a nhad, dydd Mawrth, Iau a Sadwrn gyda Anti Megan a Wncwl Goronwy. Cysgai bob nos gyda Anti Adeline a Wncwl Alwyn ac fe edrychai'r tair chwaer ar eu h么l ar yn ail Sul. Roedd fy nau gefnder, Eurof a Glanville, mwy fel brodyr i mi a Rona yn chwaer fawr - hi oedd brenhines y teulu.

Byddai ei brodyr Emrys a Will a'u gwragedd Annie a Doris yn dod i'w gweld yn gyson. Byddai hefyd yn falch dros ben i weld fy nhad-cu a'm mam-gu, John a Mary Thomas, Wernolau, tad a mam fy nhad, yn dod i'w gweld gan amlaf ar nos Lun. Canol yr wythnos cai ymweliad oddi wrth Mr. a Mrs. David Davies, Parkside, tad a mam Wncwl Alwyn, ac yna pob nos Sadwrn byddai Misses Eluned a Gwyneth Phillips, chwiorydd Wncwl Goronwy yn galw heibio. Roedd y teulu yn bwysig iawn i Rona.

Roedd yn berson ffyddlon a thriw iawn ac os byddai unrhyw un ohonom yn dweud rhywbeth cas am unrhyw aelod o'r teulu byddai Rona yn mynd yn anniddyg ac yn dechrau llefain.

Do, fe aberthodd y tair chwaer a'i gw欧r eu bywyd dros Rona. Roedd yn waith caled ac nid oedd yr adnoddau sydd ar gael heddiw i'w cael y pryd hynny. Barn y meddygon oedd na welai Rona 21 oed - bu fyw tan yn 74 ac un o'r prif rhesymau am hyn, heb os, oedd y cariad, y gofal a'r tynerwch mawr a ddangoswyd tuag ati gan ei theulu agos.

Fe ail-briododd Anti Megan a symud i Coventry ac o ganlyniad fe wnaeth y gofal o edrych ar 么l Rona drymhau ar ysgwyddau'r ddwy chwaer oedd ar 么l. Fe ddirywiodd iechyd Anti Adeline hi eto yn goddef o glefyd y siwgr - ac fel canlyniad roedd y baich yn ormod i mam ar ei phen ei hun.

Diwmod tywyll iawn yn hanes y teulu oedd Mai 20fed, 1977 - y dydd y trosglwyddwyd Rona i Ysbyty Hensol Castle ger Pen-y-bont ar Ogwr. Dwy ambiwlans yn troi i fyny i'w h么l a dim un o'r gyrwyr yn gwybod y ffordd. Cyn diwedd y flwyddyn honno bu farw Anti Adeline.

Erbyn hyn roedd Anti Megan wedi dychwelyd i Dycroes ac fe aeth hi a'm rhieni yn wythnosol am gyfnod o un blynedd ar bymtheg i weld Rona yn Hensol. Golygai hyn ymadael ar fore Mercher am wyth y bore, newid bws bedair gwaith a chyrraedd adre' am saith yr hwyr. Ar 么l cau Hensol Castle trosglwyddwyd Rona yn 么l i Gartref Plasybryn, Cwmgwill a bu yno tan ei marw yn 1996.

Gyda gwerthu'r Crown mae'r cyfan hyn yn byrlymu yn 么l i'r cof . Er y gwaith a'r gofal cyfnod hapus dros ben oedd hwn. Meddwl am y sbri adeg cywain gwair a lladd mochyn. Byddai Glanville, Eurof a ninnau yn disgwyl yn eiddgar bob amser i gael mynd i bysgota ac i'r sioeau ewn gyda Wncwl Goronwy. Doedd dim llawer o dai ar heol yr Hendre pryd hynny ond roedd yno gymdogaeth arbennig. Meddwl am gyfeillgarwch Mercia Anthony, ffrind oes i mam, Idris a Adeline John yn y Fron, Eifion Watkins a'i dad a'i fam drws nesaf yn Hendre Isaf, teulu Waunygors ac Arwel, Eluned a Eilir yn mynd 芒 fi i Ysgol Tycroes am y tro cyntaf.

Mae troeon yr yrfa yn rhyfedd iawn. Roedd tad mam yn ddiacon ym Moreia a'i mam yn Fethodist ac yn aelod yng Nghapel Hendre. Fel canlyniad roedd plant y Crown yn mynd i Moreia a Chapel Hendre ar yn ail Sul. Pan aeth mam dros saith deg mlynedd yn ddiweddarach i fyw yn Llys yr Ysgol, Saron ei chymydog oedd ffrind Ysgol Sul iddi yng Nghapel Hendre - Nellie Price.

Gobeithio y bydd y cartrefi newydd a gymer le y Rose & Crown yn llawn o'r un cariad a'r hapusrwydd a gefais i gan fy nheulu annwyl.

Elfryn Thomas


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy