大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Glo M芒n
Fflur Wyn Seren Jephtha
Ebrill 2006
Wedi bod ar daith gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio yn Jephtha, bydd Fflur Wyn o ddyffryn Aman yn perfformio yn Theatr y Grand Abertawe ym mis Ebrill.
Tra'n gwneud ei debut gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru sdim dwywaith amdani - Fflur Wyn oedd seren y noson. Perfformiwyd Jephtha gan Handel, nid opera draddodiadol ond oratorio mewn gwisgoedd.

Cymeriad o Lyfr y Barnwyr yn yr Hen Destament yw Jephtha, ac fe'i ddewiswyd gan yr Israeliaid i'w harwain yn y frwydr yn erbyn yr Ammoniaid. Mae Jephtha yn tyngu, os bydd iddo lwyddo, y bydd yn aberthu'r creadur byw cyntaf y daw ar ei draws ar 么l dychwelyd. Pan ddaw Jephtha adref o'i goncwest, yn anffodus iddo fe, ei unig ferch, Iphis sy'n ei groesawu. Mae Jephthayn cyfaddef y llw a dyngodd cyn mynd i'r frwydr, ac wrth reswm mae'r gymuned gyfan yn arswydo wrth feddwl am aberth greulon Iphis.

Ond, diolch i'r drefn, daw angel i lawr o'r nef i ryddhau Iphis o'i dedfryd, ond mae'n mynnu y dylai hi dreulio gweddill ei hoes yn ddiwair. A rhan y ferch Iphis a bortreadwyd mor ddeheuig gan Fflur.

Hon oedd oratorio olaf Handel a thra'n ei chyfansoddi dirywiodd ei iechyd. Effeithiodd ei ddallineb ar waith y cyfansoddwr, ond llwyddodd i adennill digon o'i olwg i allu gorffen y cyfansoddiad. Fe gafodd yr oratorio ei pherfformio am y tro cyntaf yn Covent Garden ym 1752.

Mae llais y ferch ifanc o Frynaman yn gweddu i'r dim i gerddoriaeth Handel, a chafwyd perfformiad hynod o sensitif ganddi ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. Swynwyd y gynulleidfa gan ei llais pur a'i dehongliad o'r ferch ifanc Iphis. Yn ddi卢-os hi dderbyniodd y gymeradwyaeth fwya' gyda llawer yn dweud brysied y dydd y bydd yn 么l gyda'r cwmni.

Mae'r cynhyrchiad wedi ei osod yng nghyfnod yr ail ryfel byd yn hytrach na'r Hen Destament. Bydd Jephtha yn mynd ar daith i Birmingham, Briste, Milton Keynes a Lerpwl, ond y perfformiad olaf yn Theatr y Grand Abertawe ar 12 Ebrill.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy