Ond daeth plant o gylch eithaf eang ynghyd i Frynaman ar ddydd Mawrth, 20 Tachwedd, gyda dau berfformiad am 10 y bore a 1 y prynhawn, i fwynhau perfformiad Cwmni Mega o "Macsen" gan Huw Garmon.
Dyma beth oedd gan rhai o blant Ysgol Gynradd Brynaman i'w ddweud:
Roeddwn i'n hoffi'r pantomeim oherwydd roedd e'n ddoniol iawn ac roedd yr actio'n wych
Roedd y gwisgoedd yn hyfryd ac roedd y canu'n swynol.
Doeddwn i ddim yn hoffi pan oedd Elen a Macsen yn cusanu.
Roedd y sioe yn ddoniol - yr ymladd, yr actio a'r caneuon.
Mwynheuais i y dam lle'r oedd Menai yn gwneud karate a hefyd lle'r oedd Pleb wedi brifo y sachson.
Gallwch ddarllen rhagor o sylwadau'r plant yn rhifyn Rhagfyr o Glo M芒n.
Cliciwch YMA am adolygiad o'r panto a manylion o'r daith
|