大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Glo M芒n
Llio Sulyn a Honey Llio'n marchogaeth i gasglu arian
Gorffennaf 2006
Fis Medi eleni bydd Llio Sulyn yn marchogaeth am 10 diwrnod o Borthaethwy i'r Fenni...

Mae pobl ardal Rhydaman yn gyfarwydd 芒 Llio Silyn. Hi oedd yn bennaf gyfrifol am y cyflwyniad Ugain Mlynedd Ymlaen yn Theatr y Glowyr gyda ieuenctid yr ardal rhyw ddwy flynedd yn 么l.

Mae'n gefnogwr brwd o Amnest Rhyngwladol ac mae Rhyfel Irac wedi ei dwysbigo i farchogaeth yn enw'r mudiad hwnnw.

"Dw i wastad wedi cefnogi Amnest, ac yn aelod o'r mudiad. O'n i'n meddwl ei bod yn rheitiach hel arian i godi ymwybyddiaeth ac i helpu achosion carcharorion ledled y byd mewn llefydd fel Bae Guantanamo ac Abwgrabi."

Mae'n dilyn 么l traed ei thad. Roedd tad Llio, Silyn Huws, yn ddarlithydd Cymraeg yng Ngholeg Harlech ac yn heddychwr a wrthododd wneud gwasanaeth milwrol yn 1957. Mae'n enedigol o Benrhydeudraeth and erbyn hyn yn byw yn Llandyfan. Mae'n fam i bedwar o blant, yn cyfarwyddo cwmni aromatherapi 'Gwenllian' a gweithio gyda theatr ieuenctid.

Bwriad Llio yw cychwyn o Borthaethwy fis Medi ar daith am 10 diwrnod gan ddiweddu yn Y Fenni. "Dw i am deithio tipyn ar y ffordd fawr, yn ogystal 芒 llwybrau marchogaeth fel bod pobl yn fy ngweld, ac mae croeso iddynt ymuno efo fi. Bydd lori yn fy nilyn a gallaf wedyn ei defnyddio fel swyddfa i hybu gwaith Amnest. Byddaf yn creu safle ar y we."

"Baswn wrth fy modd pe bai pobl yn fy nghefnogi drwy gasglu noddwyr, gallaf anfon ffurflenni drwy e bost...Bwriadaf greu arddangosfa hefyd ac ocsiwn o waith gwahanol artistiaid- boed yn feirdd, cerflunwyr ac ati. Dwi heb ofyn i bawb eto, ond hyd yn hyn mae'r ymateb wedi bod yn gret. Bydden yn creu rhywbeth arbennig ar themau Amnest."

Bydd Llio wedi trefnu bod ffarier ar gael rhag ofn bydd angen sylw ar ei chaseg "Honey". Bydd Llio a Honey yn galw yng Nghaernarfon; Porthmadog, Dolgellau; Machynlleth; Aberystwyth, Llanbed; Caerfyrddin, Rhydaman, Castell Nedd a'rFenni. Ffoniwch 01269 851870 am ffurflen noddi. Gellwch gysylltu 芒 Llio Silyn drwy e bostio: andrew.ogof@btintemet.com


Cyfrannwch

Jade Lewis o Llandybie
Mae llio wedi helpu fi mas pan roeddwn wedi gwneud sioe, roedd yn help mawr i fi a rydw i yn diolchgar iawn i hi xxxxxxxxx


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy