Criw'r Ship v Y C诺ps
Criw'r Ship v Y C诺ps
Trydargerdd: Proffwydoliaeth
Criw’r Ship
Gwelais, yn neiliach gwaddod paned, neges glir.
"Bydd Arwel yn fuddugol heno, bydd yn wir."
Arwel Roberts – 8
Y C诺ps
Rhywfodd bu’r C诺ps yn boddi – ger y lan
Mewn gwir loes, ond ‘leni
Fe awn ymlaen i’r Fenni
I ddwyn aur ein blwyddyn ni.
Iwan Bryn James – 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘mai’ neu ‘taw’
Criw’r Ship
Aros o hyd mae’r hiraeth
am mai trai sy’n cuddio’r traeth.
Elis Dafydd – 9.5
Y C诺ps
Er mai arwr yw’r Meuryn,
Mae nhw’n deud na ’di o ’mond dyn.
Huw Meirion Edwards – 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae’r esgid yn gwasgu ymhobman’
Criw’r Ship
Mae'r esgid yn gwasgu ymhobman
A 'nhrowsus a 'nghrys i yn gwegian.
Deud gwir, tasa’r pwythau
Yn rhoi'n y botymau,
Gallent dynnu'ch llygadau chi allan.
Arwel Roberts - 8
Y C诺ps
Mae’r esgid yn gwasgu ym mhobman
Ond mae het sydd yn llawer llai coman
Mae’r Banama Wen
Yn codi cur pen
Nes bod yr holl gonmen yn griddfan.
Arwel Jones – 8
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Gwledd
Criw’r Ship
Gwahoddiad i 糯yl Fwyd Caernarfon - Mai 14eg 2016
Hwrê! Bydd y dre yn drwch
o betha' da. O! Deuwch
yn llawen ac yn lliaws
draw i'r Cei, i drio'r caws
a’r gwin. Bydd croeso’r gwanwyn
ar y Maes, stondinwyr mwyn
yn gadwyn fendigedig
â'u bara, a chatwad a chig.
Dan y Castell, mae’n gwella.
Dewch am sgram ar garlam ‘gia!
Rhyw dd诺r-dynnwr i’r dannedd
‘di’r 诺yl hon, dewch draw i’r wledd!
Nici Beech – 9.5
Y C诺ps
Roedd hi’n frechdan a hanner
A f’enw i arni. Er
Hen hyrddwynt blin Iwerddon
A’r glaw hallt, argoelai hon
Fyd gwell rhwng dwy dafell dynn,
Nirfana’n ir o fenyn.
Dan Graig Glais fe’i daliais, do,
Un eiliad rhwng fy nwylo –
Eiliad a’i llond o wylan
A wyddai werth ysgwydd wan,
Un ewn, â gwledd a hanner,
Yn troi ei swch tua’r sêr.
Huw Meirion Edwards – 9.5
Triban beddargraff swyddog cysylltiadau cyhoeddus
Criw’r Ship
Giamstar ar sgwennu geiria
A deud llawer mewn llunia
Ond wedi twîtio cwpled caeth
Fe ddaeth ei deadline ola!
Nia Môn - 8
Y C诺ps
Mae’n debyg sgwennodd Betsan
Feddargraff gwych i’w hunan.
Ond gwag yw’r garreg; thalodd neb
Am gofeb i’r hen sguthan.
Geraint Williams – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Tri Chynnig i Gymro
Criw’r Ship
Ddydd Mercher, tra'n cael cawod,
Yn noeth a gwlyb a chrebach,
Chwaraeais gyda'r nobyn
I gael d诺r oedd dwtsh yn boethach.
Ond diolch i'r sebon hylif,
Fy mysedd oedd yn llithrig.
Mi drodd y d诺r yn lafa
Ac esgorodd hyn ar banig.
A'm llygaid yn llawn laddar
Palfalais am y cyrtans,
Ond rhwygodd rheiny'n sydyn
A chollais innau'm balans.
A dyma fi yn swpyn
Ar lawr y bath yn gwingo,
Yn noeth ond dwtsh yn lanach.
Mistêc yw myltitasgio.
Ond gwaeth, och, gwaeth na hynny
Yw gwybod mod i'n Gymro
Ac felly'n mynd i ddiodde'r
Holl artaith ddwywaith eto.
Arwel Roberts – 8.5
Y C诺ps
Dywedais wrth dylwythen deg fod bywyd braidd yn ddiflas,
Ac nad oedd bod yn Gymro'n sbort, yn wir roedd o'n embaras.
Ail-ddarllediadau Es Ffôr Si, colofnau Gwilym Owen,
A thrafod rygbi yn ddi-baid wnai 'mywyd yn aflawen.
"Cei droi yn Sais," medd hithau'n fwyn, "o wneud tair tasg lwyddiannus,"
A neidiais at y cyfle hwn a hynny'n orfoleddus.
Tasg un oedd bwyta brecwast llawn, a hwnnw yn 'full English',
Yn ail rhaid darllen yn ddi-feth, waith Kippling gyda pholish.
Bardd ymerodrol Prydain Fawr oedd hwn, a phrydydd medrus,
Er gwell na'i gerddi meddai rhai yw ei gacennau melys.
Cyflawni y ddwy dasg a wnes, a hynny'n ddigon parod,
A llithrai geiriau gwrol 'If' yn heriol dros fy nhafod.
Yn olaf rhaid oedd canu clod i Liz a hithau'n neinti,
A hefyd gael gan Dîm y C诺ps ymuno i'w chlodfori.
Cyd-ganu yn yr Albert Hall ‘God Save the Queen’ ’fo gusto,
Gan wybod fod y teyrn a'i phlant a'i chorgis i gyd yno.
Fe gododd PAWB, eisteddais i, o ngheg ni ddeuai'r alaw
Tra canent hwy y geiriau'n rhwydd, arhosais i yn ddistaw;
A gan i'm eistedd ar fy nhin, heb foli'r Queen a'i llinach,
Rwyn dal yn Gymro bach o hyd, a dyna fyddaf bellach.
Dafydd Morgan Lewis – 9
Ateb llinell ar y pryd: Mae’r Kop yn morio ‘Walk On’
Criw’r Ship
Wedi’r sisial digalon,
Mae’r Kop yn morio ‘Walk On’.
Y C诺ps
Rhoi i Sgowsars esgusion,
Mae’r Kop yn morio ‘Walk On’.
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Casglu
Criw’r Ship
Nid peth newydd yw heddiw. Fe’i crëwyd
gan bob un a soniodd, ddoe, am ‘fory’:
mae machlud neithiwr yn ddechrau llinyn arian
a all ein harwain i bob ddoe a fu erioed
ond bod y rhelyw’n ddall yn wyneb amser:
yn methu gweld dim mwy na’u heddiw’u hun.
Ond nid felly fo, a allai syllu ar lawysgrif
a gweld trichan corff yn gelain yng Nghatráeth;
a bod yn dyst i ladd yr hogyn yn Rhyd Forlas.
Nid felly fo, a leibiodd laddedigion ddoe
i’w gyfansoddiad a’u dadeni’n fyw:
y fo a fu’n hel hanesion fel sêr i’w sach,
yn hogi llwch yr oesau’n llewyrch newydd
cyn ffrwydro’i ddysg yn gawod dyner drosom.
Nid felly fo, yr henwr mwyn a’r t’wysog ola
â geiriau’n ymfyddino yn ei ben.
Ac am i’r geiriau hynny ymffurfio’n greigiau,
cawn sicrwydd na ddown ni – nac yntau – byth i ben.
Elis Dafydd - 10
Y C诺ps
Y mae rhywun yn rhywle o hyd
yn casglu’n goreuon i gyd,
yn hawlio’n rhuddin hefyd.
Ac eto, eleni, fe gipiwyd
y ddawn a welodd mewn llechi llwyd
awen a chymuned, galar a gobaith ac aelwyd.
Y ddawn honno a fynnodd, a ofnodd
ac a ddathlodd y cyfan, rywfodd,
yn nyfnder dyfnaf Bod. Y ddawn a ryfeddodd
ar yr eiliad, yr un eiliad honno a aeth,
a aeth am byth, a’i hôl fel tywod rhydd a chaeth;
yr eiliad fawr ei hymyrraeth.
Nid chwys yn unig, nid jyst job o waith; fe gredai’n yr awen,
fe gredai mewn jôc, mewn dagrau, gair a chystrawen;
fe’u casglodd i gyd, yn gofeb, yn rhodd, yn Bair Ceridwen.
Dafydd John Pritchard – 10
Englyn: Gorchymyn
Criw’r Ship
Paid a deud!
Rho dy fys ar dy wefusau cariad,
rhag cerrynt y geiriau
clên, rhag y torri c'lonnau
a s诺n y môr o gasàu.
Nici Beech – 9.5
Y C诺ps
Wrth reddf cadwn ddeddf un ar ddeg, yr un
Na roed ar y garreg –
I ni beidio bob adeg
Gael ein dal – a’i galw’n deg.
Huw Meirion Edwards –9.5
Cyfanswm
Criw’r Ship - 71
Y C诺ps – 72.5