Y Gl锚r v Y Fforddolion
Trydargerdd: Adolygiad o unrhyw raglen deledu
Y Glêr
'Fflip!' medd Duw, wrth i Pawb a’i Farn
Lithro drwy’i ddwyfol rwyd.
Ond diolch Iddo am drugarhau
Drwy wneuthur Dewi Llwyd.
Osian Rhys Jones – 8.5
Y Fforddolion
Clywais am ladd a lladron
a chelwydd gan wleidyddion,
ac yna trais a chamdrin plant –
ein haeddiant yw’r newyddion.
8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair 'blaidd'
Y Glêr
O rannu'r 诺yn ar eu hynt,
Daw'r blaidd a'i drwbwl iddynt.
Iwan Rhys - 9
Y Fforddolion
Lle bo, yn niadell byd,
ddefaid, y mae blaidd hefyd.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ces gyngor gan 诺r sydd yn gwybod’ neu ‘Ces gyngor gan wraig sydd yn gwybod’
Y Glêr
Ces gyngor gan 诺r sydd yn gwybod
Na welwn eleni deilyngdod:
Dim cadair, dim medal,
Dim coron, dim Danial.
Peth cystal fod Chiz yn y Steddfod.
Osian Rhys Jones - 8
Y Fforddolion
Ces gyngor gan wraig sydd yn gwybod
dim byd am bob dim mae hi’n drafod,
a hi, 'n eno’r Tad,
ledled y wlad,
yw’r beirniad ymhob blydi 'steddfod!
8.5
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Tir Na N’og
Y Glêr
Welaist ti'r bar yn olau
O sêr coll heb amser cau?
Y dawnswyr gwydyr i gyd
Yn nhafarn mwynhau hefyd?
Glywaist ti Nia'n canu
Drwy wallt o aur i'r Llew Du
Am awen hir a mwynhad
A brolio byw i'r eiliad?
Weli di Osian drannoeth
Y canu hwyr ar fainc noeth
Yn dwyn ei ieuenctid o
I botel yn gaib eto?
Eurig Salisbury - 10
Y Fforddolion
Af yn ôl fy hun o hyd
i‘r afonig a’r funud,
i’r heulwen drwy’r canghennau
a gwên Awst dyrnaid o gnau.
Gwelaf rhwng y ddwy geulan
gamau iau ar gerrrig mân,
a brodyr o baradwys
ar y rhyd â’u byd ar bwys;
eu hafau sy’n byllau bach
a’u hencil yn ifancach.
Ynof mae’r crwt yn cronni
a d诺r nant fy Sadwrn i.
9.5
Triban beddargraff chwaraewr/chwaraewraig bowls
Y Glêr
‘Rol oes o lawern rolio
I’r gwter yn ddiwyro,
O’r diwedd daeth o hyd i’r nac -
Dod at y jac, a stopio
8.5
Y Fforddolion
Fe gafodd Jac ei daro
gan bêl oedd wedi gwyro,
ac fe gludwyd ef ar fat
yn fflat i rinc yn Seilo.
8.5
Y Gân: Y Rali
Y Glêr
(i’w chanu ar dôn Fflat Huw Puw)
Mae s诺n yn mynd drwy’r llaid, s诺n refs yn codi,
Nerfau i gyd yn gwichian, cydyrrwr bach yn gweiddi.
Ni fedra’ i yrru Honda, ar fy llw,
Rhaid imi fynd yn raliwr iawn mewn Subaru.
Subaru’n sgrialu heno,
S诺n llosgi teiars, mi fynna’ i fynd i ralio.
Mi wisga i helmed galed, ar fy llw,
Os ca’ i fynd yn raliwr iawn mewn Subaru.
Ond prynais yn y Werddon gerbyd egwan,
Sgidie’r brêcs ’di treulio, a chostiodd lot o arian.
Rwyf innau’n 诺r siomedig, ar fy llw,
Yn olaf yn y rali yn fy Subaru.
Subaru mewn garej heno.
S诺n fflam y weldar, a minnau’n methu ralio.
Ni wisgaf helmed galed, rhag creu strach,
A phart-exchangeo’r Subaru am Polo bach.
Iwan Rhys – 9
Y Fforddolion
Fe gaewyd llwybr cerdded gan bwyllgor cyngor bro
gan arbed punt yr wythnos trwy gadw gât ar glo.
Ni wnaeth y clo wahaniaeth i barau pnawn dydd Sul
a hoffai fynd i garu ar hyd y llwybyr cul;
fe weithien nhw rhyw dwll bach twt yn y ffens yn hawdd
a pharau ifanc, heini, yn cael jwmp bach dros ben clawdd.
Roedd siarad wedi dechrau gan rai o'r W.I.,
Old Age a'r Mothers' Union, a gwrddai ar nos Iau;
fe drefnwyd i gael rali gerllaw y gât ar glo
a heidiodd pawb â’i rycsac o bedwar ban y fro.
Ni welwyd y fath dyrfa mewn Berghaus a North Face
yn gwrthwynebu’r cyngor am geisio safio pres.
Siaradodd Iolo Williams tra’n sefyll wrth y glwyd
a hanner dwsin arall o hogia Edward Llwyd.
Bu’r siarad mlân am hydoedd, mlân a mlân am y cam,
gelwir y rhain yn ramblers , a nawr rwy’n gwybod pam.
Sgowser a ddaeth i ganu, hanner tenor ugain stôn,
a bloeddiodd ei grescendo, “You’ll never walk y lôn.”
Mae camfa yno heddiw i gael mwynhau cefn gwlad
lle bu fy mam yn dwad cyn iddi gwrdd â 'nhad.
Ateb y llinell ar y pryd: Ceir awyr las uwch Caerl欧r
Y Glêr
Allan â’r hen enillwyr -
Ceir awyr las uwch Caerl欧r
0.5
Y Fforddolion
Ceir awyr las uwch Caerl欧r
A’r Eidal yn lliw’r brodyr
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Brys
Y Glêr
Yli’r Eifl yn gwisgo'i chap!
Does fawr o hap ar fywyd.
Mae'r awyr wedi uwdo'n llwyd -
Ni thâl i ninnau symud.
Diogwn. Ond tric yw segurdod,
Bydd, toc, yr oriau’n bywhau,
A ddoe fel y niwl trwy'r ffenest
Yn prysur ymbellhau.
Gwyliwn eiliadau'n llithro
Trwy anwedd y gwydyr hwn,
A ninnau am eu cronni nôl
I'w cryndod llonydd, crwn.
Pan welwn ni gip o'r copa
Awn yno, law yn llaw.
Be gawn ni’n arafach na chusan
Rhwng cawodydd glaw?
Osian Rhys Jones – 9.5
Y Fforddolion
Roedd mis Hydref fel Mehefin,
awyr las a'r dail yn grîn,
am bod haf yn gwrthod gadael
neb yn oer a blin.
Ond weithiau mae'n ocê
amau sut a be'
pwy a pham a lle...
ac weithiau mae'n ocê i ddweud.
Roedd y sêr yn hawdd i'w cyffwrdd
er eu bod yn bell i ffwrdd,
fel 'tae amser wedi trefnu
i ti a finnau gwrdd.
Ond weithiau mae'n ocê
amau sut a be'
pwy a pham a lle...
ac weithiau mae'n ocê i ddweud.
A dw i'n chwilio am y golau
wrth i gwrs y byd fyrhau,
rhag i gwmwl fedru gwasgu
rhyngddan ni ein dau.
Oherwydd weithiau mae'n ocê
amau sut a be'
pwy a pham a lle...
ac weithiau mae'n ocê i ddweud.
9.5
Englyn: Dur
Y Glêr
Cwynais er gwaetha'r cyni - am nwyon,
Am niwed y ffatri,
Ond ddoe, yn ei chystudd hi,
Ro'n i eisiau'i ffwrneisi.
Hywel Griffiths - 10
Y Fforddolion
Rhown oesau’n y fwrneisi – i weithio
ein hiaith yn y ffowndri
a chynnal y gwreichioni
siwr o’r tân drwy'i siarad hi.
Cyfanswm
Y Glêr - 73
Y Fforddolion – 71.5