Main content

Tanau Tawe v Ffoaduriaid

Trydargerdd: ‘Broliant i eiriadur Cymraeg newydd’

Tanau Tawe
Argo’l, mae hwn yn fargen! - Waw, Gomer!
Mor gymen pob dalen.
Dyma braw’, Gymry llawen,
O newydd daith ein hiaith hen!

Rhian Jones - 8

Ffoaduriaid
Fesul gair mae iaith yn darfod,
fesul gair mae llunio cofnod,
fesul gair y mae ei dysgu,
fesul gair y mae ei charu.

Gwennan Evans – 8.5

Cwpled Caeth yn cynnwys y gair ‘gwell

Tanau Tawe
Ai gwell yntau rhyw golled
I 诺r a’i waith yw ei Gred?

Iorwerth Mort - 9

Ffoaduriaid
Mae blino neu fodloni
yn lle gwneud yn well gen i.

Ll欧r Gwyn Lewis – 9.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Rwy’n siarad bob tro mewn damhegion’

Tanau Tawe
Rwy'n siarad bob tro mewn damhegion,
Rwy'n glyfar yn creu diarhebion,
F'efengyl yn braff,
F'esboniad yn graff,
A’m cyflog yn saff rhag y tlodion.

Robat Powell - 9

Ffoaduriaid
Rwy’n siarad bob tro mewn damhegion
i geisio diwyllio ’nghyfoedion.
Mae’r ddafad gyntefig
yn plesio’n enwedig
a dameg Samariad Tregaron.

Gwennan Evans – 9

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Ffenest

Tanau Tawe
Fy ffenest sydd yn estyn
Llun y dydd sy’n llonni dyn ;
Goleuni trwyddi’n treiddio
A'i egni yn coethi'r co,
A thrwy hon, golygon gaf
Weithiau'n hwyr, weithiau'n araf,
Ar riwiau gwyrdd yr awen,
Cwm y lliw sy’n cymell llên.

Fy achau yw llwybrau’r llun,
Ynni rhithiol fy mrethyn
Yn we gymhleth sy’n plethu
Defnydd a fydd ac a fu.

Ann Rosser – 8.5

Ffoaduriaid
Ben Nevis

Cawsom law di-daw drwy'r dydd
ac eira'n brathu'i gerydd,
y moelydd dan gymylau,
braw'r gwynt, a'r llwybr ar gau
heb ewin o amlinell
pen y byd, a'r copa'n bell.

Wedyn, wrth ddisgyn, fe ddaeth
un ennyd o wahaniaeth -
rhwygodd y llwyd ar agor,
gwelsom haul a glas y môr
a rhyw sglein, ar draws y glyn,
o dduwdod. Caeodd wedyn.

Ll欧r Gwyn Lewis – 9.5

Triban beddargraff blogiwr neu flogwraig

Tanau Tawe
Aeth blogiwr mwya'r dyffryn
I’r rhithfyd dan y priddyn;
Bydd iddo sedd tu hwnt i'r bedd
Mewn hedd ..... y fe a'i declyn!

Ceri Morgan – 8.5

Ffoaduriaid
Diflasodd Gymru gyfan
wrth flogio am ei hunan
ac yna bôrio’i hun a wnaeth
hyd at farwolaeth. Druan.

Gwennan Evans – 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Dwymyn Dwtio

Tanau Tawe
Ces gais yr wythnos diwetha’ i bicio i’r Cynulliad
I geisio clirio olion gwast pum mlynedd o wag siarad.
Y twndis pren yn orlawn o gaca wedi’i falu,
Cas fynd i fferm organig tsha Myddfai i’w wasgaru.
Tynnais we pry cop oedd hirfaith fel brawddegau Ll欧r Gwyn Lewis,
Gyrrwyd hi i’w nyddu eto gan hen hipis hirwallt, piwis ;
Llwch glo o’r Waun a’r Onllwyn yn drwch ar res o silffoedd,
A model traffordd wedyn a’i ‘Dinkys’ wrth y cannoedd ;
Gan un, C’mon Midffild a geid ar fideos bu’n eu gwylio
Liw nos ymhlith yr hogia’ i’w hatgoffa am eu henfro ;
Sawl stwb sigârs Havana’n nrâr un fu’n bur fawreddog,
O hyd yn drewi digon i gorddi llawer stumog ;
Mewn basged sbwriel arall ceid biliau bar rhyw westy
Ar gwr y Bae, ac yn eu plith cyfeiriad lodes lysti ;
O ambell gilfach arall, lle roedd fy mraich yn estyn,
Symudais luniau’r hen Lloyd George a thynnu’r llenni melyn ;
Gadewais ffeiliau Carwyn i gasglu llwch fel arfer
A geiriau gwawd o’r Rhondda, llond sach, yng nghornel seler.
Ond er fy ngwaith, caf alwad ’to yn ôl ym mis Mehefin -
Pan fydd y garfan borffor yn creu llanast anghyffredin!

Elin Meek – 9

Ffoaduriaid
Ar ddiwrnod gêm rygbi mi esh i reit sili ac yfad rhyw naw peint o sdowt
nes mod i yn piwcio a’m llygaid yn dyfrio a ngwyneb i’n debyg i drowt.
Drannoeth y miri, ar ôl i mi sobri cesh bwl reit annifyr o’r ffîar
roedd rhaid i mi dwtio, cael trefn ac anghofio a chwysu pob arlliw o’r bîar.
Ar ôl i mi godi a’m stumog i’n doji esh ati reit handi i llnau.
A wir wrth 'mi dwtio, tacluso a dystio roedd fel 'tawn i'n sgwrio fy iau.
Po fwyaf y taflwn y gorau y teimlwn ac felly es ati go iawn,
papurau a sanau, bag plastic, hen lyfrau - fel yna y treuliais y pnawn.
Ond rywsut neu’i gilydd (dwi’n c’fadda â chwilydd) mi esh i â phetha rhy bell;
mi deflais y llestri, y teciall a’r llenni, y cwbl ga'th fynd i le gwell.
Â’r bin yn gorlifo ni allwn i stopio - mi luchiais i bopeth i'r sach:
ta ta i Taliesin, pob nicyr, a'r 'sgodyn - un aur, yr hen g'radur bach.
A dyna lle’r o'n i yn llosgi y gwely pan glywais i s诺n wrth y drws -
yno’n dychwelyd yr oedd fy anwylyd yn barod am baned a sn诺s.
Mi geisiais esbonio mai’r dwymyn ddaeth heibio ac allwn i wneud dim ond llnau
ond roedd ein t欧 Amish a’r holl ogla polish yn ormod i 'nghariad bach brau.
Pan ddaw flwyddyn nesa’, a’r rygbi ar ddechra a minnau yn ysu am ddrinc,
ni af i hel cwrw rhagofn codi twrw a thaflu bob dim ond y sinc.

Casia Wiliam – 8

Ateb llinell ar y pryd: Rwy’n hoff o arian o hyd

Tanau Tawe
Er baw holl fancwyr bywyd
Rwy’n hoff o arian o hyd.

0.5

Ffoaduriaid
Er mor ddamniol o’n golud
Rwy’n hoff o arian o hyd.

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): St诺r

Tanau Tawe
Aeth tri chwarter canrif heibio
Ers Tair Noson y malurio.

Ond fe glywaf eto’r seiniau,
Bloeddio mawr am ddiffodd golau,
Teulu’n canu ‘Tipperary’,
Nâd y seiren trwy’n pentrefi.

Teimlaf hen gryndodau’r arswyd,
St诺r uwchben sy'n dal i ysgwyd,
Noson serog a’i thrywaniad,
Yn y pellter, cyfarth ffwydrad.

Braw yn hofran, braw yn aros,
Yn adleisio drwy’r aeafnos.
'Un ohonyn nhw' a glywaf,
A’r un cryndod oer a deimlaf.

Tybed, mewn gwlad arall heno,
A oes un yn dal i gofio
'Un ohonon ni' am eiliad
Uwch ei ben, a s诺n y ffrwydrad?

Ann Rosser – 8.5

Ffoaduriaid
Dros nos jest, disgynnodd Rhagfyr
yn liain bwrdd dros ei ddarn o dir
a rhoi taw ar chwynnu a chwysu,
sgyrsiau di-eiriau rhwng dwylaw a phridd.
A dros nos jest, daeth pryfaid genwair y dyddiau du
i wingo, yn gyson ddi-groeso, yn mwydo
ym mhob un o oriau’r nos nes gwneud misoedd
yn ddim ond un afon ddu.
Tan o’r diwedd, ac yntau ar y dibyn -
yn gafael ar y wawr gerfydd ei ewinedd glân -
daeth st诺r y gwanwyn, yn haul cynnar,
yn wyrddni, yn mynnu sylw, yn wyrth.
Yn ddigon o symffoni i foddi’r gaeaf maith.

Casia Wiliam - 9

Englyn: Gobennydd

Tanau Tawe
Arhosodd am air ein croeso – i wlad
Gwely oes i’w dwymo,
Ond rhewodd ei ben heno
Ar glai oer ei Galais o.

Robat Powell – 9.5

Ffoaduriaid
Mae'n troi ei ben eto heno - estyn
am ei chlustog, ceisio
ei chael yn ei freichiau o'n
dyner... ond nid yw yno.

Gruffudd Owen -9

Cyfanswm
Tanau Tawe – 70.5
Ffoaduriaid – 71.5