Main content

Tir Mawr v Aberhafren

Trydargerdd: Cyhoeddi canlyniad

Sawl Brexitiwr fysa eisiau
I newid bylb er mwyn cael golau,
Pe doent i gyd ‘sa’n dal yn nos,
Achos doedd dim bylb i ddechrau.
Huw Erith (Tir Mawr)
8.5

(I diwn y gân o Sound of Music)
Hwyl fawr, ffarwel, auf Wiedersehen, gwbei
r’ym hoff o’r lle, y gwin, y bwyd, ond hei
rhaid mynd â’n pres, ddaw dim mewnfudwyr draw;
au revoir, adios, arrivederci, ciao.
Owain Rhys (Aberhafren)
8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bwrdd’ neu ‘bord’

Yr ardd roes y bwrdd ar waith,
A’r ardd hulia’r bwrdd eilwaith.
Gareth Williams (Tir Mawr)
9.5


Mae ’na bethe i’w deall.
Rownd y bwrdd, cawn gwrdd yn gall.
Mari George (Aberhafren)
9.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wn i fawr ddim am y gwartheg’

Mewn checkpoint Clawdd Offa'n Wyth Deuddeg,
Huw Leidr o Hafodygarreg
Hysbysodd y Sais
Yn groyw ei lais,
'Ni wn i fawr ddim am y gwartheg.'
Myrddin p Dafydd (Tir Mawr)
8.5


Ni wn i fawr ddim am y gwartheg
ond cefais i ddigon o goleg
i ddeall mai “m诺”
yw sut y maen nhw
yn dweud “How d’you do?” yn y Saesneg.
Rhys Iorewrth (Aberhafren)
8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell) yn cychwyn â’r ymadrodd ‘Dim ond’

Elin Llannerch- (yn canu'r anthem, Parc Eden, 11 Mehefin)
Dim ond y gerdd, dim ond gwên
yn codi o Barc Eden
i Gymru'r Fic, ac mae'r ferch
eto'n Ll欧n, y t欧'n Llannerch
yw cân ei llygaid cynnes.
Ond mae'n dagrau ninnau'n nes –
o dan y wên, daw yn ôl
ein hiraeth. Er mor wrol
yw ei chanu, daw pluen
yn dawel o awel wen
ei gaeaf a thrwy'n haf ni,
enillwn weld ei cholli.
Myrddin ap Dafydd (Tir Mawr)
9.5

(Ymweld â bedd Hedd Wyn am y tro cyntaf)
Dim ond ni a’r meini mud
sy’ yma. Dim yn symud:
awel haf ac arafwch
cysglyd ar weryd yn drwch;
ac o gylch y meini gwyn,
haul ac 欧d gwlad Belg wedyn.

Gwyrddni lawnt. Y gerddi’n lân,
a gyfuwch â draig fechan,
dyna weld ei enw o.
Anadl. Fan draw’n dadflino
ar y dalar mae ffarmwr
how-di-dow yn cario d诺r.
Rhys Iorwerth (Aberhafren)
10

Triban beddargraff gwerthwr neu werthwraig hufen iâ

Beddargraff dyn hufen iâ
Yn nainti-nain a fflêci
I'r haul drachefn aeth Toni;
Pan ddaeth drwy'i whipi'n l诺p-di-l诺p,
Daeth sg诺p i'r Cornet Wicli.
Gareth Williams (Tir Mawr)
9-

Mae’i fiwsig weithiau’n pasio
er nad oes dim byd yno
a’r hafau coll a phlant y stryd
i gyd yn rhedeg ato.
Mari George (Aberhafren)
9.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Gwyliau

Roedd Huw Hefin o Lanllyfni mewn sal诺n yn Euro Disney yn mynwesu potel wisgi yn y m诺g
Ger y bar fe safai’n sgwario yn ei hances a’i sombrero gan freuddwydio’n braf ei fod o’n gowboi drwg
Nid oedd Huw yn ymwybodol o’r p诺erau arall-ddynol oedd yn llechu yn yr het oedd ar ei ben
Ac, heb fwy o ymhelaethu, dyma godi’w wn a saethu a gwaredodd bawb o’u cyfoeth dder an’ dden.
Yna gwibiodd Huw drwy’r lolfa mewn i’r caffi bach drws nesa gan obeithio cael dihangfa.. d’oedd o’m haws
Yn ymestyn at y distia’ wrth y drws yn rhwbio’u dyrna safai dri o ffrindiau penna’ Mickey Mouse
Gyda’i feddwl chwim yn rasio rhoddodd gic yn ‘sennau Pluto ac aeth Donald Duck ar wastad ei ben ôl
Efo’i wn yng ngwddw Goofy aeth y ddau drwy’r drws o’r caffi gan anelu am faes awyr Charles de Gaulle
Gyda Goofy’n gaeth mewn berfa powliodd Huw i’r stesion ‘gosa i ddarganfod fod y trena’i gyd ar streic
Efo’r giwed yn ei ddilyn tarrodd bostman ar ei goryn ac i ffwrdd a fo (heb ofyn) ar ei feic
Dyma’r beic r’oedd o di’w fachu’n torri’i galon ac yn plygu, roedd y fyltshiars yn ymgasglu fry uwchben
Roedd Huw Hefin di’w gornelu ac am fynd o’r byd dan saethu pan ddaeth pwff o wynt a chwythu’r het o’i ben
R’oedd cael gwyliau yn anochel. Fe aeth Huw i garchar diogel, a’r sombrero gyda’r awel I Dibet
Lle mae pawb yn dechrae poeni gan fod dyn oedd newydd briodi wedi’w gario’i ffwrdd gan Ieti’n gwisgo het
Gareth Jôs (Tir Mawr)
9.5

Rhys Iorwerth aeth i’r Iwros mewn cronc o gampyr fan
Â’I basport â’i ddiodrant a phedwar ugain can.
Wel dyna ichi hanes i’r plant pan fyddant h欧n –
Rhys yn concro Ewrop, y fo’r deuddegfed dyn.
Fe’i gwelwyd mewn maes pebyll ym Mordeaux yn yfed gwin
Yn trafod Proust a Sartre efo boi o Ffos-y-Ffin.
Roedd wedyn ar y teli yn mynd trwy strydoedd Lens
Yn tynnu ar yr Ultras tra’n gwisgo dim ond trôns.
Toulouse oedd ei stop nesaf, a’r parti’n newid gêr,
Y fo ac Aaron Ramsey’n ymestyn at y sêr.
Y fan oedd nawr yn gwegian, yn drewi fel hen gi
Ond cariodd Rhys yn ddiogel i ferw Gay Paree.
Newidiodd yr olwynion a phunnoedd wrth y mil
Ac aeth a’i ganiau gweigion i fin ail-gylchu’n Lille.
Adref ddaeth pawb arall, i Tafwyl i gael hoe
Ond Rhys oedd benderfynol – “I Lyon af am sioe!”
Tro olaf sbotiwyd Ioro, roedd yn y Stade de France
Yn gwenu fel gwallgofddyn, a’i lygaid fel mewn trans.
Os ewch chi felly ‘leni i grwydro lonydd Ffrainc,
Edrychwch am y campyr fan, a’r bardd sydd ar y fainc.
(Aberhafren)

Llinell ar y pryd

Calon lân yw’r gân ar goedd
Yn Ewrop ein amseroedd
(Tir Mawr)

Calon lân yw’r gân ar goedd
Mudan fu hon am hydoedd
(Aberhafren)
½ marc

Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned: Grisiau

Dwi'n aml yn eu dringo fesul dwy.
Ar frys i fynd ymlaen, medd rhai, yn fawr
o giwiwr – ac o'r ysgol ddaeth y clwy.
Roedd stafell ddosbarth 'Nhad 'mhen draw'r ail lawr
a thestun sbort oedd hyd ei gamau bras:
yr 'hirgoes' oedd ei enw ar y buarth.
Gallai fod yn sychlyd, weithiau'n gras
wrth lolyn, eto nid oedd yn ei gyfarth
ddannedd. Ac fel mab i athro uwchradd,
pleidiol oeddwn i'r penbyliaid, awn
yn is i'r seler i gael bod yn gydradd,
honni dod o gyff gwahanol iawn.
Ond roedd fy mhytiau coesau, 'gen i go,
yn dringo fesul dwyris, fel gwnâi o.
Myrddin ap Dafydd (Tir Mawr)
10


(Mehefin 24ain 2016)

Mae e’n codi’n y nos
i eistedd ar y gris isa
a galw amdana i,
ei ofnau’n newid siap bob tro
fel y lleuad.

A dw i’n cario atebion
yn ôl i’r llofft,
yn addo eto,
y daw’r bore.

Ond heno
dw i’n h欧n dan ei gwestiynau
felly steddwn gyda’n gilydd
ar ebychiad o ris
ac yntau’n fy ngwylio’n
brathu
ewin o leuad.
Mari George (Aberhafren)
10

Englyn: Gornest (Ali a'i frwydr yn erbyn ei glefyd)


Nid oedd ymgiliad iddo – a hwythau'r
Dyrnau'n gawod arno
'n gyhoeddus, nes datguddio
'r dur oedd yn ei freuder o.
Myrddin ap Dafydd (Tir Mawr)
9.5

Rhy dawel ydi’r felan i ni gyd
weld ei gêm, sef cripian
tu hwnt i wên: gwneud hyn tan
enillith, a ni allan.
Rhys Iorwerth (Aberhafren)
9.5