Beca v Aberhafren
Trydargerdd: Cwyn Swyddogol
Beca
Mêri, rwy’n ymorol arnoch,
Mae ein banc yn chware’r diawl:
Gwrthod ffurflen yn yr heniaith –
Gadael ninne yn y cawl.
Jamie.
Rachel James – 8.5
Aberhafren
Yn ymddiheurgar, llefarais fy nghwyn
o fy ngheg fach gwrtais
o garedig – a gwridais.
“So what?!” ebychodd y Sais.
Mari George – 9
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘gwaeth’
Beca
A'r haf ymhell o'm gafael
Na'm hiraeth mae gwaeth i'w gael.
Wyn Owens - 9
Aberhafren
O geiniog i geiniog waeth:
ai dyma yw byd amaeth?
Mari George – 9
Limrig yn cynnwys y llinell "Rwy'n gyrru fy nghar yn ofalus"
Beca
Rwy'n gyrru fy nghar yn ofalus
Mae'n gas gen i yrrwyr esgeulus,
Ond pam ymhob rheswm
Mae'r ceir 'ma'n un cwthwm
Yn f'erbyn ar draffordd beryglus?
Terry Reynolds – 8.5
Aberhafren
Rwy’n gyrru fy nghar yn ofalus;
ar sawl rownd-a-bowt rwyf yn garcus,
ond weithiau rwy’n bownd
o fynd bowt-a-rownd:
mae hynny’n renowned o ddansierus.
Rhys Iorwerth – 8
Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Bwystfil
Beca
Y mae’r och yn fy mreichiau
Nawr yn dweud stori ni’n dau;
Y crud o sgrechiadau croch
Yn ymdaenu amdanoch,
Ac hunllef y bonllefau
O enau cob nad yw’n cau
Ei lygaid; a’i olygon
Yn her i awdurdod hon.
Ai lol yw “Si-hei-lwli”?
A sigwyd hedd “Cysga Di”?
Er antur oriau’r crintach,
Ti yw’r epil, - bwystfil bach.
Rachel James - 9
Aberhafren
Llowc olaf. Herc o’r dafarn
i’w d欧. Mae hithau’n un darn.
Daw e, a myn ddistewi
ddwrn wrth ddwrn ei bloeddio hi.
Mae e’n celu mewn c’wilydd
o weld cleisiau dechrau’r dydd.
Yna min nos, camu’n ôl
i ferw’i wyll arferol.
Codi peint. Ond codi pen
wna’i wg tra cwyd pob swigen
i’r llowc olaf. O’r dafarn
i’w d欧. Mae hithau’n un darn.
Aron Prichard – 9.5
Triban beddargraff trefnydd angladdau
Beca
Yn awr, sdim isie leishens,
Top hat na lot o seiens,
Ond caf ryw hedd a fi mewn bedd
Yn gorwedd gyda' nghlients.
Eifion Daniels - 9
Aberhafren
Roedd Ned yn drefnwr perffaith
a’i drefn yn gelfyddydwaith,
a phan ddaeth galwad iddo ef
o’r nef, fe jeciodd ddwywaith.
Llion Pryderi Roberts – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Mynd ar Gwrs
Beca
Gan mod i yn weinidog a'm cynulleidfa'n wanllyd
Mi benderfynais fynd ar gwrs i geisio gwella'r clefyd.
Ac yno wir, roedd llond y lle, pregethwyr o bob enwad
A thîm o bump yn cynnig gair o gyngor i bob cennad.
Wedd un eglwyswr ar y cwrs yn achwyn am ryw lygod
Oedd yn ymweld â'i eglwys ef yn gyson a chreu difrod,
A'r cyngor gafodd, "Rhaid i chi eu derbyn yn aelodau
Ac yna'n siwr ni welwch rhain yn troedio eich cynteddau"
Methodyn oedd â phroblem fawr 'da menyw yn y cefen,
We'r babi bach wedd yn ei chwel yn ffaelu stopo llefen,
"Ewch mla'n a'r bychan i'r sêt fowr, mae'n siwr iawn o dawelu,
A chyn bo hir, bydd fel bob un o'r gweddill yno'n cysgu."
Wedd golwg sâl iawn ar un boi, Bedyddiwr nôl y wysfa
Fu mewn ysbyty bedair gwaith am operation hernia,
Tri chyngor roddwyd iddo ef, "Ewch adref ar eich union,
Peidiwch dringo i bwlpud serth, osgoi testunau trymion."
Ces inne gyfle'n hwyr y dydd, jyst cyn i'r cwrs i orffen
I son am gais a gefais i i briodi dwy ddish lloeren,
"Wel eich dyletswydd" medde nhw "yw gwneud eich gwaith yn symol,
Ac os priodas od fydd hon, bydd y reception yn rhagorol".
Terry Reynolds – 8.5
Aberhafren
O gwmpas y swyddfa fi oedd yr un swil,
yn cwrdd â phob dedlein, yn talu pob bil,
a phawb yn manteisio drwy ddweud “neith o’r job”
a finnau yn derbyn heb agor fy ngob...
... nes imi roi f'enw i fynd ar ryw gwrs
sy’n rhoi iti’r hyder i ddechrau pob sgwrs.
O'r blaen, pan ofynnai fy mos am fy ngwaith
mi fyddwn i yno ben bore cyn saith,
ond nawr mae'n reit lwcus cael ebost cyn deg
ac os bydd yn swnian, atebaf â rheg.
Mae Dafydd Acownts wedi gadael mewn sioc,
yn honni fy mod wedi chwarae â'i gloc,
a Gwenda’r ddesg ffrynt sydd ffwrdd o dan straen
ers imi’i hysbysu ei bod hi’n beth blaen.
Mae gwallt y dylunydd yn syrthio o'i ben,
a chuddio’n y stafell First Aid y mae Glen,
ac Idris IT sy’n rhacs jibidêr;
gallai llygaid Val Fawr fy lladd efo’u stare.
Peth braf yw cael hyder, mae talu'n ddiau.
Ond gwerth bygyrôl a’r swyddfa ’di cau.
Owain Rhys – 8
Linell ar y pryd: Ym Mhenygroes a oes un
Beca
Ym Mhenygroes a oes un
A mawredd fel ein meuryn
Aberhafren
Rwy ishe paned wedyn
Ym Mhenygroes a oes un
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Oedi
Beca
Cyn i’r dydd lithro o’m gafael
yn dawel dros Fanc Waun-gyd
a nodau’r fronfraith ddistewi
ym mrig yr onnen, mae’r byd
yn taflu’i gysgod yn araf
drwy’r eithin a thros y rhos
cyn oedi’n y bwlch annelwig
rywle rhwng y dydd a’r nos;
ac yn yr eiliadau hynny,
a’r dydd yn loetran yn fud,
mae’r galon yn llonydd, llonydd
Yng nghwlwm y rhwydwaith hud.
Rachel James – 8.5
Aberhafren
Dy ganfod
yn sefyllian ar gornel ebost,
a rhuban y neges drydan
yn crynu fymryn ar y sgrîn,
fel ’taet wedi chwifio llaw
i dynnu fy sylw.
Mae’n rhaid mai rhyw don o ynni
a agorodd gaead yr arch
ar ddamwain,
ond o nodi’r amryfusedd
hawdd yw galw ar lygoden o gi defaid,
a’th hysio yn ôl
i gorlan cynhebrwng
cyn gwaredu’r chwithdod.
Llion Pryderi Roberts – 9
Englyn: Trosedd
Beca
Os rhoid taw ar siarad diwyd yr iaith,
Megis rhith fai'n bywyd.
Wrth nacáu ei geiriau i gyd
Anghofiwn ein hing hefyd.
Wyn Owens - 9
Aberhafren
Ym mhawb mae coelcerthi mân, ond o rai
daw rhyw wres sy’n cripian
i’r wyneb pan fo’r hunan
nos a dydd yn ffwrnes dân.
Rhys Iorwerth – 9.5
Cyfanswm
Beca - 70
Aberhafren - 71