Main content

Tir Iarll v Beirdd Myrddin

Tir Iarll v Beirdd Myrddin

Trydargerdd: Datganiad i’r wasg

Tir Iarll
Datganiad i’r wasg gan y Prifweinidog

Nid wyf yn dweud nad dweud wyf,
Ond yn dweud nad dweud ydwyf …

Aneirin Karadog – 8.5

Beirdd Myrddin
Petai Pres Offis Stryd Downing yn cynganeddu, datganiadau fel hyn fyddai ganddynt -

Ei hestyn o dan glustog i dyfu
wnaeth David â'i geiniog;
fel rhith, fel lledrith daeth llog
i'w feddiant yn anfoddog.

Margaret Rees – 8.5

Cwpled sy’n cynnwys y gair ‘arth’

Tir Iarll
2116

Rhith yw iâ, ac mae’r arth wen
yn wylo dan yr Heulwen.

Gwynfor Dafydd - 8.5

Beirdd Myrddin
A glywi di s诺n diarth -
s诺n y brain sy'n Aber Arth?

Aled Evans - 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wn a yw’n gelwydd neu beidio’

Tir Iarll
Ni wn a yw'n gelwydd ai peidio
Fod safon cwrteisi'n dirywio;
Ac felly rwy'n cynnig
Rhoi pen ar fy limrig
Yn fan'na, os nad ych chi'n meindio.

Gwynfor Dafydd – 8.5

Beirdd Myrddin
Ni wn a yw’n gelwydd neu beidio
Fod pob Tori yn giamstar am dwyllo.
Can’s dodji yw Dave
Ac mae cannoedd fel ef,
Â’u miliynau hysh-hysh wedi’u cwato.

Ann Lewis – 8

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): G诺yl

Tir Iarll
Daw heulwen dros y Fenni
â golau’n hiaith; a’n g诺yl ni
a dywynniff fel dinas
yn rîl hir dan awyr las.
Y geiriau i gyd fel gwawr goeth,
geiriau’n fylbiau gafaelboeth.

Daw, rhwng 'strydeb ein pebyll,
Fflachiadau golau’n y gwyll,
Hen deulu i gronni a’u gr诺n
o’n gaeafau. A gofiwn
eu golau nhw trwy’n g诺yl ni?
Eu gwawl yw’n g诺yl eleni.

Aneirin Karadog – 8.5

Beirdd Myrddin
Hen gred yn nyfnder ein gro,
Yn henach na dihuno,
Ei hiaith o'n cylch yn greithiau
Ei gwisg amdanom mewn gwae.
Ein coel mewn troad calan
A dawns sydd ynom yn dân.
Mae rhythmau a geiriau gwâr
ein doe yn ddwfn mewn daear,
A daw llef rhyw hen grefydd
Eto ac eto o'r gw欧dd,
Yn llef sy'n mynnu'i defod
A balm i gysuro'n bod.

Gwynant Hughes – 8.5

Triban beddargraff beirniad Eisteddfod yr Urdd

Tir Iarll
Hunaf mewn hedd di-gecru
ymhell o’ch cwyn a’ch hefru,
dewch ata’i nawr i edliw pam
os cawsoch gam am nadu!

Dafydd Emyr – 8.5

Beirdd Myrddin
Mewn 'Steddfod uwch 'steddfodau,
Hwn ddaeth yn ail i angau,
Cas delyn aur a phar o glocs
Mewn bocs, tu hwnt i famau.

Bryan Stephens – 8.5

Cân: Fy Nheulu

Tir Iarll
Bûm wrthi’n hel fy achau
Ymhlith bucheddau’r saint,
Cans yno mae pob ‘Davies’ –
Yr enw mwya’i fraint.
Roedd Twm T欧 Mawr yn sgolor,
Athrylith mawr ei fri...
Dim ond ei glopa penfoel
A etifeddais i.
Roedd hen, hen wncwl Nedw’n
Chwaraewr rygbi mawr,
Ond clun llawn crydcymalau
Ges innau gan y cawr.
Enillodd Jim T欧 Capel
Gadeiriau am ei waith...
Rwy’n ffaelu cynganeddu
Na’n ffaelu odli’n iawn.
Ac felly beth a ddwedwn
Wrth Nedw, Twm a Jim?
Fy neges i’m cyndeidiau
Yw ‘diolch am ddiawl o ddim’!

Emyr Davies - 9

Beirdd Myrddin
Ar gyfer fy mhriodas, fy nheulu ddaeth ynghyd,
o Gwmpengraig a Beddau a phedwar ban y byd.
Cefnderwyr, cyfnitherod, pob un 'di magu plant
a phob won jac o'r rheini’n bell o fod yn sant.
Wncwls a modrybedd a gw欧r o dan y fawd,
pob un o gyff carennydd yn rhannu 'ngwaed a’m cnawd.
Rhai’n dlawd a rhai’n gyfoethog, fel annwyl wncwl Rich,
gas eistedd nesa' ataf er bod ei wraig yn wits.
Rhai’n dwp a rhai’n alluog, rhai’n hyll a rhai yn hardd,
rhai’n dew a rhai yn denau ac ambell un yn fardd.
Daeth cangen Dyffryn Mawddwy yn gynnen o wallt coch
i ymladd ac i ymlid y toffs a’u lleisiau croch.
A Rhydian o Dde’r Eidal, a phawb yn holi pam
fo’i groen o liw’r olewydd tra Cymry’i dad a’i fam?
Daeth Aled y boi caled, efe yw’r ddafad ddu,
ond gwynaf un o’r gwynion yn llygaid ei famgu.
Daeth ffermwyr ac athrawon, dyn llaeth, dyn glo a saer,
troseddwyr a chyfreithwyr, boi tacsi a dau faer.
Ac er bod rhai’n fonheddig a rhai yn blant y llwyn,
‘roedd un peth yn gyffredin, roedd gan bob un r’un trwyn.

Meirion Jones – 8.5

Ateb llinell ar y pryd: Fe es i ar fws i hol

Tir Iarll
Fe es i ar fws i hol
Y ddawn i droi’n farddonol.

Beirdd Myrddin
Fe es i ar fws i hol
Ryw asyn o Ffostrasol.

0.5

Telyneg: Briwsion

Tir Iarll
“Crymbl riwbob. Tyd Cadi fach agor dy geg i Dad,
tsh诺, tsh诺, ma’r trên yn dwad, dwad mewn i’r twnnel, 藞na hogan dda!”
A’r llond ceg o ddeall yn wên i gyd.

Rwan dwi’n craffu trwy wydr p诺l, syllu’n ddieithr ar y cysgod siapiau
o gylch y llais sy’n hwrjo’r bwyd llwy, yn hudo’r anfwytadwy.
Yng ngwacter yr oriau mân dwi’n troedio d诺r fy nryswch
a daw pysgod cyfarwydd heibio, geiriau yn un haig o ystyr
cyn i’r twyllwr du* ddod eto ar ei helfa a chwydu’i inc
dros fy nghof a’u traflyncu.

“Crymbl riwbob, Dad, eich ffefryn chi, dowch. Agorwch. Plîs. tsh诺 tsh诺?”
Ac ar yr heli clywaf lais o’r tu hwnt i drai pell. O lle doist di Cadi fach?

Mae llanw’r adnabod yn crynhoi a dagrau hallt yn torri hyd ein gruddiau,
a dwi’n agor fy ngheg iddi... ac am eiliad fer rhyngom,
mae’r briwsion o ystyr yn ei bwyd llwy
a’r gegiad o’r hyn a fu
fel manna sych
o’r nef.

* Un o’r termau Cymraeg am ‘Squid’.

Dafydd Emyr – 8.5

Beirdd Myrddin
I Gretel a'i thebyg

A'i byd bach hi dan warchae
Fe ffodd yng nghwmni'i brawd
I chwilio byd bach newydd
Tu hwnt i'w muriau tlawd.
Fe gasglodd ei holl fywyd,
Yr hyn y bu un waith,
Cyn cydio'n dynn mewn tafell
I'w chynnal ar ei thaith.

Ac fesul cam gadawodd
Y briwsion yn y llaid
Er mwyn i'r rhain ei harwain
Yn ôl hyd lwybrau'i thraed.
Ond adar ddaeth yn farus
I wledda ar ei strach
Gan besgi ar y briwsion
Fu'n rhifo'r camau bach.

Aled Evans - 9

Englyn: Cyfri

Tir Iarll
Aeth fflam wen y fellten fud yn dywyll;
Un, dau... ac mewn ennyd,
Clatsien yn gynnen i gyd –
Awyrgylch yn troi’n ergyd.

Emyr Davies - 10

Beirdd Myrddin
Rhywle bydd Cymro olaf, ei eiriau
yn oeri yn araf
a'i lais a'i holl ddwedyd claf,
di-enw fydd amdanaf.

Aled Evans - 9

Cyfanswm
Tir Iarll - 70
Beirdd Myrddin – 69.5