Main content

Talybont v Criw'r Llew Coch

Talybont v Criw'r Llew Coch

Trydargerdd: Amddiffyniad

Talybont
Hoff feuryn, rwyf yn crynu –
nid oes ’ma gân i’th iasu,
cans y mae afon Dyfu’n ddofn
a’r gerdd oedd ofn ei chroesi.

Anwen Pierce - 9

Criw’r Llew Coch
Yn Llangelynin gwelwn
Hen faen i gofio'r sipswn,
Hil Abram Wood a'i deulu lu
Pob Romani a barchwn.

Rhiain Bebb – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dant’

Talybont
Y dant yng ngwlâu y plantos
Dry’n wyrth yn nhrymder y nos.

Anwen Pierce - 9

Criw’r Llew coch
Un dant oedd gan fy Anti,
Bloedd o hith oedd ganddi hi.

Ifan Bryn Du – 8.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe wfftiais fanteision technoleg’

Talybont
Fe wfftiais fanteision technoleg,
Nes benthyg dwy robot o’r coleg.
Mae nhw’n glanhau y t欧,
A choginio i mi,
Ac rwy’n hoffi eu gwersi bioleg.

Phil Davies - 8

Criw’r Llew Coch
Fe wfftais fanteision technoleg,
Trigonomeg,Alcameg,Hwngareg,
Gramadeg,Telyneg,
Rhesymeg,Mytholeg,
Hidrostateg,Limigreg a Choleg!

Alun Cefne – 8

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Diogelwch

Talybont
Heibio’r byd, un bore bach
a’n hennyd yn gyfrinach,
aethom ar ras i’n traethell –
nyni a’r heli, ymhell
i’n gwales, lloches ein lli,
at wanwyn ’mysg y twyni.
A rhown y byd draw’n y bae,

i hudo mân funudau
ein hawr, a’u cadw’n hirach,
yn gofeb o’n bore bach,
hel a dal pob cwmwl du
o farian ein hyfory.

Anwen Pierce – 9.5

Criw’r Llew Coch
Refio oedd ar ochr y Foel
葌’i 葟g ar ongl anhygoel,
A’r tractor yn how-orwedd
Ar wair lle na allai’r wedd
Sefyll. Hafau n葟l safai
Nhad fel beirniad yn gweld bai
Arnaf; pob haf d’wedai “Paid,
Ar fy llw, ‘nenw’r enaid”.

O’r un fan t’ranaf innau
Eiriau tad, rhegi’r to iau,
Am y llethr na w葒l trem llanc,
A’r rhiw na w葒l yr ieuanc.

Tegwyn Pughe Jones – 10

Triban beddargraff swyddog marchnata

Talybont
Rôl oes o ddyfal werthu
A mynych hysbysebu,
O’r diwedd gyfaill daeth yr awr
I’th Brynwr mawr dy dalu.

Phil Davies – 8.5

Criw’r Llew Coch
Trwy f‘oes fe fûm yn mwydro
Yn brolio ac yn lliwio,
Ni allaf r诺an roddi sbin
O fewn y bin ‘rwyf ynddo

Ifan Bryn Du – 8

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Hel Pac

Talybont
Mae bysedd yr awrlais ar wyth, mae’r haul bron mynd i lawr
Er mwyn y dyddiau gynt fy ffrinds, rwy’n myned gyda’r wawr.
O ffarwel, mae’n fore braf, o ffarwel i chi,
Rwy’n mynd drot drot ar y gaseg wen, dros donnau oer y lli.
Mae nghalon bron â thorri, ond heddiw heibio’r af,
Er chwalu mae ngobeithion, fe fendiaf cyn ddaw’r haf.

Canllath o gopa’r mynydd wrth edrych dros y bryniau pell,
Gwelaf amser gwell i ddyfod, rwy’n mynd i wlad sydd well.
Ffarwel i Blwyf Llangywer, Aberystwyth, a Llangyfelach lon
Af dan ganu, i’r fro dirion, draw dros y don.
Yno bydd mynd ar y jazz band a mynd ar y ddawns,
A mynd ar y byrddau lle bydd chwarae, siawns.

Bydd hiraeth yn y môr a’r mynydd maith,
Ond ni fydd neb yn wylo, er bydd y siwrne’n faith.
Er nad yw nghnawd ond gwellt ac rwy’n fachgen ifanc ffôl,
Bydd glaswellt ar fy llwybrau i gyd cyn delwyf i Gymru nôl.
Rwy’n mynd i wlad y Saeson a’m calon fel y plwm,
Dan faich o ofidiau fy nghefn sydd yn grwm.

Mae’n anodd iawn ei gredu ond rwy’n gorfod hel fy mhac.
Am lên-ladrad ac anwybyddu’r mydr, fe gefais y sac.

Phil Davies - 9

Criw’r Llew Coch
Ffarwel i Foel y Feliarth. Cwm Twrch a thap y Cian,
Cyfnewidiais yr hen aelwyd am ful a charafán.
Wedi trigain mlynedd gyfan o godi’n nghap i’r drefn,
Fe ddaeth y dydd ,mae’n nhraed yn rhydd , telyn deires ar fy nghefn.

Cyt:-
Dilynaf dylwyth Abram hyd lonydd Cymru lân,
 rhyddid yn fy nghalon, a gobaith yn fy nghân.

I’r diawl a’r fân bwyllgorau, y capel, ysgol, Plaid!
Parhau yn barchus aelod o’r gymuned mwy ni raid.
‘Ròl oes o dalu trethi i goffrau’r hanner pan,
Caf fyw yn rhad ar rodd ein Tad baratowyd er ein rhan.

Cyt: Dilynaf dylwyth ayb

Rhof law i ambell ffermwr i gynhaeafu, chwalu tail,
Codi tatws, peintio beudai, gosod tarmac heb ei ail.
O lysiau’r clawdd mi bedlaf fy moddion, syml, rhad,
Ffrwythau natur a gynniga’ i’r anghenus lwyr iachâd.

Cyt: Dilynaf –ayb

Ac wedi’r hwyr y ffidl a’r delyn goda’r hwyl,
Pob cân a dawns yn sylfaen i feddwol, nosol 诺yl!
A phan ddaw’r alwad olaf at Gader Idris ‘af,
Ac yng nghysgod ei gogoniant, tragwyddol gwsg a gaf.

Cyt:-ayb

Alun Cefne – 9

Ateb llinell ar y pryd: O’r golwg ceir y golud

Talybont
O’r golwg ceir y golud
Ond y bai’n llygad y byd.

0.5

Criw’r Llew Coch
Heb ei weld o drem y byd
O’r golwg ceir y golud.

0.5

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Ailaddurno

Talybont
Brecwast ar y ffordd i Olympia

Wrth groesi’r trothwy
daeth s诺n yr herio am Spurs a Chelsea,
ymysg arogl y Latte a'r croissant
yn gwmwl o Bwyleg a Chockney.
Saif yr arwydd newydd
Cafe Paris
uwch y drws
yn cael ei baentio las tywyll.
Pob llyfiad o lesni yn hawlio'r presennol.
Hyn i gyd o dan olwg y llygaid mud
o'r bysus coch a’r tacsis du.
Fe welsant hwy y cotiau cynt
yn cael eu taenu;
melyn y Taj Tandoori
a gwyrdd yr Olympia Kebab.
Y mynd a dod sy’n lliwio
strydoedd Llundain.
Y llanw a thrai sydd, yn eu tro,
yn gosod haenau newydd
ac yn erydu
i adael olion ar ben olion.
Ac os edrychwch yn ofalus
fe welwch daeareg dyn yng nghlogwyni cymoedd
Pembroke Gardens, Radnor close, Penywern road .....

Phil Thomas - 9

Criw’r Llew Coch
Yn groes i’r graen
hi ddewisodd gwyrdd y carped
a briallu’r clustogau.
“Lliwiau’r gwanwyn.
Dechrau eto” sibrydodd.

Er iddi geisio maddau imi
ac er na chodais i fy llaw,
fin nos, a ni’n erthylu’n geiriau
i lenwi’r distawrwydd,
mae olion lliwiau’r hydref
yn aros ar ei boch.

Tegwyn Pughe Jones – 9.5

Englyn: Cardotyn

Talybont
Daeth y dur o’i llafur yn lli - oesol
ac fe gawsant ganddi
orau glas ei hurddas hi ;
a’i thâl wedyn, ei thlodi.

Gwenallt Llwyd Ifan – 9.5

Criw’r Llew Coch
I ogof ger yr eigion – enciliodd
Rhag hualau estron,
A’r haul ar bell orwelion
I Lynd诺r ar lan y don.

Gwerfyl Price – 9

Cyfanswm
Talybont - 72
Criw’r Llew Coch - 71