Tir Mawr v Bro Alaw
Tir Mawr v Bro Alaw
Trydargerdd: Pennill yn cynnwys ystadegyn
Tir Mawr
Mae 85%
O'n X-pats yn ddi-lun
Am droi at unrhyw iaith
Heblaw ei iaith ei hun;
Manwél â thair o ieithoedd:
Fawlty – dim ond un.
Myrddin ap Dafydd – 8.5
Bro Alaw
Roedd yr hen drefn yn llygad am lygad,
Cyn Crist roedd hi’n ddant am bob dant:
Mae’r gymhareb yn Gaza ein cyfnod ni’n
97 am bob 3 yn y cant.
John Wyn Jones- 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘bras’
Tir Mawr
Barus yw’r bedd, bras yw’r byd,
A’r ddau sy ’run mor ddiwyd.
Gareth Williams - 9
Bro Alaw
Wrth fwynhau ein breintiau bras
Mynnwn eu troi’n gymwynas.
Richard Parri Jones – 8.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Nid ydwyf yn hoff o wamalu’
Tir Mawr
Mi ddeudodd y swyddog o’r heddlu
Na ddyliem ymarfer cynhedlu
Yn y parc, rhybudd clir,
Gobeithio ‘i fod o yn wir,
Nid ydwyf yn hoff o wamalu
Huw Erith – 8.5
Bro Alaw
“Nid ydwyf yn hoff o wamalu”,
Am betha’ sy'n codi'n y gwely,
Ond dwi'n llyncu cyffuria'
Sy'n cynhyrfu ceffyla'
A minna'n gwneud dim ond gweryru.
Ioan Roberts – 8.5
Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 9 a 15 llinell): Gwersyll
Tir Mawr
Carchar y Gwyddelod yn y Fron-goch yn dilyn Gwrthryfel 1916
Yn goleg dros ei gilydd
Ym mrwyn a grug Meirionnydd
Mae egin yr Erin rydd.
Lle mae'r corsydd yn cuddio
Ynni caeth sy'n h欧n na'r co',
Lifrai'r rhain fydd niwl y fro.
Y rhedyn fydd eu brodyr,
Eu gwlad yn d欧 ffoadur,
Stormydd ar fynydd yn fur.
O acen lawen leol
Gwerinwr, daw milwrol
Waith i'w hen iaith hwythau'n ôl.
Yn Arenig a'i bryniau
Duon, caiff i'w calonnau
Wyrdd win y Pasg ei ryddhau.
Myrddin ap Dafydd – 9.5
Bro Alaw
gyda chydnabyddiaeth i Eifion Wyn
Gwelais ei fen drwy’r llenni,
Gwyliais, ac yna gwelwi
Mewn ofn – mae’n fy nghomin i!
Hwn a’i blant parablus blin,
A’i ddiawliaid c诺n i’w ddilyn,
Wna hafoc â’m cynefin;
Caiff grwydro lle mynno mwy,
Mae’n fedlam lle mae’n tramwy
A’i faw hefyd â’n fwyfwy.
Haerllugrwydd yw’r holl hagrwch,
Hyd y llawr mae’i laswawr lwch
Yn warth ar ein prydferthwch.
Awn i ymbil, bob NIMBY,
Yn wrol â’n baneri,
I’w atal o’n hardal ni.
Richard Parry Jones – 9
Triban beddargraff geiriadurwr neu eiriadurwraig
Tir Mawr
Bu farw, (be.) ymadawodd,
mae’n gelain, fe ddiffoddodd,
Fe aeth o’r byd, mae gyda Duw,
Di o ddim yn fyw, fe drigodd.
Gareth Jôs - 10
Bro Alaw
Triban Beddargraff y Dr. Samuel Johnson
Cysegrodd dalp o’i yrfa
I osod trefn ar eiria’
Yn ddestlus iawn o A i Zed
Ond ‘Dead’ oedd ei air ola’!
Ioan Roberts – 9
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Trawsffurfiad
Tir Mawr
Dioddai Jac dan ofid marwol, roedd o’n brysur fynd o’i go’
O’r holl flewiach oedd ar bobol dim ond tri oedd ganddo fo
I ymwared Jac o’r felltith roedd ‘na ateb syml, rhwydd
Mewn cynhadledd hud a lledrith penderfynodd brynu g诺ydd
Roedd o’n ddiwrnod hir eithriadol, roedd hi bron a mynd yn nos
Cyn i’r clagwydd arallfydol benderfynu troi ei glôs
Gyda’i law mewn maneg rwber fe ledaenodd Jac y baw
Dros ei benglog llwm yn dyner, er mwyn gweld pa beth a ddaw
Dwing ! Daeth un blewyn bach i fyny, ‘mhen deg munud roedd ‘na saith
Yn ei ddrewdod aeth i’w wely tra bo’r tail yn gwneud ei waith.
Fore dranoeth roedd o’n dawnsio ac roedd Bet ei wraig yn dyst
Fod gan Jac lond pen o affro…a mwstash…a locsyn clust !
Ond yn fuan daeth yn amlwg fod y tail yn stwff golew
Ac roedd Jac yn mynd o’r golwg o dan gwrlid gwyllt o flew
Rhywle ‘ngharpiau rhacs ei ddillad dan y dryslwyn tuchai Jac
Doedd o ddim yn gweld na chlywad ac yn boeth fel cesail Yak
Daeth y doctor efo ffisig ond ymhen rhyw awr neu ddwy
Nid oedd syniad gan y meddyg i ba ben i wthio’r llwy
Ar bob diwrnod sy’n mynd heibio d’oes na’m drwg nad ydyw’n dda
Gan fod Jac yn cael ei gneifio’i godi pres at achos da
Gareth Jôs - 9
Bro Alaw
Fe gaed sawl cwyn yn yr iaith fain fod Môn Mam Cymru’n fwy fel Nain,
“Mae’r lle yn edrach wedi blino ac fe ddylech ei drawsffurfio.”
Yr oeddynt hwy yn fodlon deud be’n union roeddem ni i’w wneud,
A dyma nhw yn gyrru rhestr oedd yr un hyd â modiwletyr.
“Mae castell Cadw’n Beaumaris yn llitho’n ara bach i’r lli,
Mae yn bochio ac yn beryg, chwalwch o a gwerthu’r cerrig.”
“Datgelwch ble mae’ch mynydd mawr sy’n dal i dyfu at i lawr,
Os bydd angen gweld y mynydd gwasgwch ’rochra at ei gilydd.”
“Bydd rhaid llnau’r limrigau budur sydd yn nhoilet Harri Tudur,
Rhowch rai Saesneg yn fan hyn, fel sy’n awdl Ceri Wyn.”
“Cofiwch fod rhaid cnesu’r d诺r cyn golchi’r Marcwis ar ei d诺r,
Cymrwch bwyll wrth daenu’r polish, cofiwch fod ‘rhen dlawd yn ticlish.”
“Cliriwch harbwr Carrag Lefn, mae helicopdar ar ei chefn,
Wili’r peilot wedi’i dympio am nad oedd yn medru parcio.”
“Un syniad arall er enghr-aifft, gwnewch byramidiau fel rhai’r Aifft,
Yna’u rhoi yn nhwyni’r Berffro, nes i’r Brenin Arthur ddeffro.”
“Ma’ angan gneud dwy bombran hir rhwng y Werddon a’r hen Sir,
Un i fynd o Wlad y Medra, llall i smyglo’r Poitín adra.”
“Gan fod ein harian ni yn brin eich cais am dâl sydd yn y bin,”
Nid oes sôn am gael ad-daliad - felly stwffich eich trawsffurfiad!
Geraint Jones - 8.5
Ateb llinell ar y pryd: Y mae awr yn oes i mi
Tir Mawr
Heb ubain croch y babi,
Y mae awr yn oes i mi.
0.5
Bro Alaw
Ni ddaw un gwen eleni,
Y mae awr yn oes i mi.
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Crib
Tir Mawr
Mae'n fore'r addewidion, ac mae'n glir,
Mae golau ar ysgwyddau brig y tir
A gobaith ar bob camfa.
Llaw dros law, mae'r ddringfa yn un serth;
Mae pob blaen bys yn galw am y nerth
I afael yn y mynydd.
Pob troed yn rhydd ac ar ei silff ei hun
A'r pwysau'n rhannu'n rhwydd o un i un
A'n cyrff yn fyw wrth ateb.
Rhoi boch yr wyneb lle mae wyneb garw
Ar y graig, cael rhaff heb orfod galw
A chariad yn ei dolen.
Mae'n oes o fynd â'r naill a'r llall i fyny,
Mae'r cwlwm weithiau'n codi, weithiau'n tynnu,
Cyn sythu yn yr heulwen.
Myrddin ap Dafydd – 9.5
Bro Alaw
Stompio trwy’r mawn
a siglgamu trwy’r siglen,
troedio’r crawcwellt
cyn cyrraedd caledwch
a llechwedd llencyndod.
Sgrialu dros y sgrî
gan lithro’n dragywydd,
dwylo’n crafangio
i gydio mewn sefydlogrwydd.
Llithro a stryffaglio
dros arwedd y graig
gan ymestyn am afaeliad
a sicrwydd.
Cyrraedd,
sythu i weld tarth
yn codi o’r cwm,
neu grymu wrth i gaddug
gladdu’r haul.
Cen Williams – 9.5
Englyn: Isdeitlau
Tir Mawr
Os yw'n braf gweld ein tafod – yn llinell
A'r lle'n llenwi'n barod
I'w gwylio, ai'n y gwaelod
Isa'n fyw mae'r sain i fod?
Gareth Williams 8.5
Bro Alaw
Drwy’n tonfedd, yn slei heddiw – i’n nyth gain
Daeth y gog llawn ystryw,
Yno’i champ fu geni’i chyw
A gwadu mai cog ydyw.
Richard Parry Jones - 9.5
Cyfanswm
Tir Mawr - 73
Bro Alaw - 71