Main content

Hiraethog v Criw Alexandra

Trydargerdd: Maniffesto Bardd Cenedlaethol

Hiraethog
Yr Athro Gwyn Thomas

Cannwyll i’n canu cynnar – a’i eiriau’n
llawn miri diweddar;
trodd ddail crin ei werin wâr
yn afiaith â’i iaith lafar.

Eifion Lloyd Jones 9.5

Criw Alexandra
Bardd Cenedlaethol?
Dwi hefo Warhol -
Credaf y dylai pawb gael bod,
a hawlio'i chwarter awr o glod!

Ifor ap Glyn – 9

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘wrth’

Hiraethog
Nodwedd wrth grafu ydyw
y rhwbio all fynd i'r byw.

Rhys Dafis - 9

Criw Alexandra
I gynnal gwlad fy nhadau
Rhaid wrth ddur y bur hoff bau.

Llion Jones – 9

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Un bore yn Ysgol Glan Morfa’

Hiraethog
Un bore yn ysgol Glan Morfa,
Mi welis i gath amser chwara’;
“Bow-miaw”, meddai’n sydyn,
“Miaw-bow”, meddai wedyn;
Mae cwrcyn dwyieithog yn hunlla’.

Berwyn Roberts – 8.5

Criw Alexandra
Un bore yn Ysgol Glan Morfa
ymfyddinodd y plant yn un dorf a
throi ar Mr Smith.
Ddaeth o ddim yn ôl byth,
mae o bellach yng nghartref Angorfa.

Geraint Lovgreen – 8.5

Cywydd (heb fod dros 12 llinell): Talu’r Pwyth

Hiraethog
O Dduw, sut allwn ddeall
natur terfysgwyr y fall?
Anwylom eu hanialwch,
estyn llaw dros dwyni llwch
i freintio, goleuo’u gwlad,
rhoi iddynt ein gwareiddiad
heb geisio blingo; nid blys
ond dylanwad haelionus
er mwyn darn o’r manna du;
a rhoesom drwy air Iesu
lun byd heb Allah na Baal –
a’u diolch ydy dial.

Rhys Dafis - 10

Criw Alexandra
Awr ddreng yn rheng yr angau
un nos o haf, a nesáu
mae hwn, o'r cyfreithio maith,
at wely caled talaith.

Ei gwehelyth sy'n gwylio,
ddant am ddant, ei ddiwedd o,
yn gorwedd mewn gwisg oren
yn sownd wrth y fatres wen.

Ac wedi rhyw weddi rwydd
i'r eneidiau, mae'r nodwydd,
i bwytho ei gosb eithaf,
yn nesáu, un nos o haf.

Ifan Prys – 10

Triban beddargraff therapydd harddwch

Hiraethog
Mor bur a glân dy ddelwedd -
Hysbyseb am hirhoedledd -
Ond heddiw dyma chdi islaw
A baw o dan dy ’winedd.

Gwenan Prysor - 9

Criw Alexandra
A botox a chemega
Yn dod mor rhwydd â byta
Roedd ei chrimêtio’n syniad gwael –
Nawr adfail yw’r amlosgfa.

Emlyn Gomer – 8.5

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Cinio Blynyddol

Hiraethog
Cinio blynyddol staff Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Mae’n draddodiad sefydledig i fosus yr HSE drefnu cinio yn flynyddol, i’r staff gael sbort a sbri;
Mae pawb yn licio’r syniad fod o’n digwydd yn y dydd – ’does neb rhy keen ar ddreifio nos â’i holl beryglon cudd.
Fe wneir y risg asesiad tua blwyddyn ymlaen llaw, a’r unig beth nas gwyddir yw a fydd hi’n bwrw glaw;
Ond petai hi’n digwydd bwrw, yn rhew neu’n eira mawr, ceir cyfeiriadur cyflawn a mynegai ar ei glawr.
Rhaid cael carped yn y gwesty rhag i neb fynd ar ei dîn – cyfuniad anffortunus yw llawr pren a Mr Sheen.
Bydd pawb yn parchu’r rheol o velcro yn lle zip, a fydd ’na neb yn gwisgo tei os nad ’dio’n un ’fo clip.

Gazpacho yw’r cwrs cyntaf – ’cofn i rywun losgi’i geg – mae pawb yn cofio’r flwyddyn pan ddigwyddodd hyn i ddeg;
I’r prif gwrs fe geir salad – heb wy, does dim rhaid dweud – a phawb yn ymwybodol beth all salmonella’i wneud;
Tua hanner ffordd drwy’r cinio fe geir ymarfer tân – pawb allan yn nhrefn yr wyddor, ac yn gwirioni’n lân;
Aiff pawb yn ôl yn drefnus i eistedd wrth y bwrdd - gan gario ’mlaen i fwyta, fel pe na buont rioed i ffwrdd;
I’r trydydd cwrs fel pwdin bydd rhai’n cael Arctic Roll; choc ice i’r rhai mwy mentrus, a’r lleill? Dim byd yn ’tôl;
Yn goron ar y cyfan, fe weinir tê a mints – mae espresso braidd yn risgi, cappuccino’n codi gwynt.

Does neb yn mentro’r gwinoedd a phawb yn sticio at dd诺r – mae’n siwr ’sa un neu ddau yn iawn ond angan bod yn siwr;
Fe godir i’r llwnc destun efo glasiad bach o laeth: “Iechyd da a diogelwch, gobeithio fod neb ddim gwaeth”
Ni soniwyd ’rioed am ddisgo – byddai hynny’n mynd rhy bell – rhagweld damweiniau ymlaen llaw yn syniad llawer gwell.
Wrth reswm, gwneir adroddiad gydag argymhellion plaen i osgoi pob camgymeriad a wnaed rhyw dro o’r blaen.
Pawb adra’n gwisgo’i slipars o flaen y tân cyn saith, yn teimlo i’r digwyddiad fynd fel diwrnod da o waith.
Mae ’na rywbeth reit gysurlon mewn cael cadw i’r un drefn, ac ymhen blwyddyn arall, gwneud yr union beth drachefn.

Gwenan Prysor – 8.5

Criw Alexandra
Llythyr ddaeth yn fore iawn, ac arno stamp swyddogol
Yn erfyn arna’i fod yn berson gwadd mewn d诺 blynyddol;
Doedd gen i fawr o fynadd, ond yn sydyn – blwmin ’ec!
Mi sylwais ar y papur dair llythyren – CCC!

Cyngor y Celfyddydau! Cydnabyddiaeth gan fy nghyhoedd!
A phrawf unwaith ac am byth nad jyst beirdd caeth gaiff fynd i’r nefoedd!
Cyngor y Celfyddydau! Gorfoleddais megis morlo,
Ac fel chwyrligwgan ar gocên saernïais speech i’w llorio.

**

Dwi ’di s’nwyro ar fy union fod ’na rwbath yn sgi-wiff
Gan fod mwy neu lai bob gwestai yn dod ata i am sniff;
Ac wrth iddynt f’amgylchynu ’mond cynyddu mae f’amheuon
Nad fy nghlywed i’n areithio ydyw bwriad y cyfeillion...

Nes sylweddolaf, gydag arswyd pur, fy nghamgymeriad:
Cymdeithas Canibaliaid Cymru yrrodd y gwahoddiad,
Ac oherwydd dall uchelgais fu’r un ff诺l mor hawdd ei hudo,
Ac o ganlyniad - fel y person gwadd – y fi di’r cinio!

**

Tra’n troelli’n slo ar sgiwar rwy’n eu gwylio’n yfed sgrympi
Ac yn cymdeithasu’n llawen tra’n gloddesta ar fy rymp i;
O Dduw, un ffafr cyn marw – rho i’m ceg un tamaid sbâr
Imi weld ai gwir fo’r adnod – ydio’n blasu fel cyw iar?

Emlyn Gomer – 8.5

Ateb llinell ar y pryd: Gwn nad oes na gwyn na du

Hiraethog
Gwn nad oes na gwyn na du,
I ddod o gyfaddawdu.

0.5

Criw Alexandra
Byw’n lliwgar ond difaru,
Gwn nad oes ond gwyn na du.

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Mân Us

O lwch i fwrllwch
ac o don i’r dyfnder
y “chwâl y gwynt”
tua Chanan;
o rwbel aelwyd
mewn carpiau rhynllyd
at gragen rydlyd
llawn ofn a’i ddrewdod,
trwy donnau anferth
ffyrnigrwydd y nos
at lannau’r wawr...
i gyfri’r colledion.

Yn weddill syn
wrth ffens y ffin
ger “afonydd dyfroedd”
Canan y cyfiawn,
pob ymbil a gweddi
ar glustiau byddar
fu’n pesgi eu crefydd
mewn temlau aur;
a’r salmydd dryslyd
yn holi ei Dduw:
pwy yw’r
annuwiolion?

Eifion Lloyd Jones – 9.5

Criw Alexandra
Er cof am Gwyn Thomas

Mân us ein dyddiau segur a chwâl o flaen y gwynt;
ond nithiodd yntau'r eiliadau gwenith,
a melino'i brofiadau'n flawd,
canys dyna fara ei fywyd.
A hwn a wnaeth yn fawr o'i amser,
o fore gwyn tan nos...

Ac efe a ganfyddai wenith i'w ddeheulaw
pan welai eraill ddim namyn us,
a'i hulio gerbron ei bobl, yn eu hiaith hwythau,
(a bys ei law aswy'n ategu ei bwynt!)
Bu'n gyfrwng unigryw i'r hen rymusterau,
a gwenai yn wyneb jôcs gwael yr angau...

Bydd s诺n ei gerddi'n dal i grafu'r nos,
wrth redeg heno ar domennydd yr hil
ond ciliodd ei lais yn ôl i'r geiriau.
Ac o fore gwyn tan nos,
mae'r ffôn yn canu gwrogaeth
mewn t欧 sydd hanner gwag...

Ifor ap Glyn – 10

Englyn: Botwm

Hiraethog
Lle bu llinyn, mae un ôl: atalnod
ar bennod ddibynnol.
Ond rhag cam, gofal mamol
ddeil yng nghwlwm botwm bol.

Ffion Gwen - 9

Criw Alexandra
Y mae arf rhyngof â gofid y byd,
ag un bys caf newid
y llun heb fwrw fy llid,
ail-weindiaf i’r hen lendid.

Llion Jones – 9.5

Cyfanswm
Hiraethog – 73.5
Criw Alexandra - 73