Talybont v Y Ffoaduriaid
Trydargerdd: Cywiro Camgymeriad
Ga i gynnig ’to yw ’myrdwn,
ces fy nhwyllo. Ga i bardwn?
Y mewn a’r mas a’m gwnaeth yn gibddall -
plis, o plis, ga i bleidlais arall?
8.5
Anwen Pierce (Talybont)
"Wales sneak above Three Lions"
yn ôl y Daily Mail.
Ni sleifiom, ac am unwaith,
y ni sydd biau'r bêl.
Gwennan Evans (Y Ffoaduriaid)
8.5
Cwpled: yn cynnwys y gair /rhaw’ neu ‘pâl’
Rhiwbob bras a dyfasom
cans ar raw y daw y dom.
9.5
Phil Thomas (Talybont)
Mewn twll yng nghwmni twyllwyr,
mynnwn raw, ond mae'n rhy hwyr.
Gruffudd Owen
9.5 (Y Ffoaduriaid)
Limrig: yn cynnwys y llinell ‘Os nad yw e'n sioc mae e'n syndod’
Os nad yw e'n sioc mae e'n syndod
i bawb sydd ddim yn ein nabod,
ond i bobl fel chi,
sy'n gyfarwydd â ni,
ein doniau sy'n hysbys yn barod.
Phil Davies (Talybont)
8.5
Os nad yw e’n sioc mae e’n syndod
i’r Saeson na chawsant deilyngdod.
Nid ydynt, fel ni
â phrofiad di-ri
o golli - peth da ydi Steddfod.
Casia Wiliam (Y Ffoaduriaid)
8.5
Cywydd: yn cychwyn â’r ymadrodd ‘Ar ôl’
Ar ôl i’r brwydrau olaf
ryddhau hualau yr haf,
dof yn ôl mewn gorfoledd
i’w choel hi ac awch y wledd.
Ond cyfandir o hiraeth
sydd yno yn troedio traeth.
Branwen y bore unig,
a brad Efnisien yw brig
y don hir sy’n dod yn ôl
ar dwyni anghrediniol.
I’w chalon rwy’n dychwelyd
o’r drin gyda’r fyddin fud.
Gwenallt Llwyd Ifan (Talybont)
9.5
Ar ôl y ffair a’i helynt
a’i lol i gyd, a’i hel gwynt
i sach, ar ôl bustachu
mynnu fôt am ‘hyn a fu’,
mae’r cyfan allan bellach.
Ofnaf fod yr afon fach
ar fin troi’n llif casineb,
a rwan hyn, yn nhir neb,
o hen slag ein hynys lwyd
dôr ar agor a rwygwyd
yn annhymig. Dw i’n amau
na ddaw chwaith un modd o’i chau.
Llyr Gwyn Lewis (Y Ffoaduriaid)
9
Triban BEDDARGRAFF PERCHENNOG SIOP TRAETH
Mae’r cerdyn wedi’i bostio
a’r bwced wedi’i gicio,
a’r castell tywod nawr yn llwch;
ei gwch sydd wedi hwylio.
Phil Thomas (Talybont)
9
Roedd hwn yn codi ffeifar
am hufen iâ heb weffar;
fe gostiai rhaw saith punt naw deg,
gwynt teg ar ôl yr Uffar!
Gruffudd Owen (Y Ffoaduriaid)
9
Cân ysgafn: Ymddeoliad
’Rôl deugain o flynyddoedd yn chwysu dafnau gwaed,
daeth amser i ymddeol; rhoi slipars am fy nhraed.
Ond y bore cyntaf adref, cyn i'r tegell ganu'i gân,
fe dorrwyd ar fy hawddfyd gan ddrysu'r hwyliau'n lân.
Roedd twll yn nho y garej - rhyw lathen dda o grac,
a dwr o dan y landar yn gollwng lawr y bac.
Y plastar oedd yn yfflon tu ôl i sied yr ardd,
a dechreuais ddwedyd pethe ychydig yn ddi-wardd.
’Rôl dringo'r to'n sigledig a bwced yn fy llaw,
yn fuan sylweddolais na fedrwn guro'r glaw.
Cymydog alwodd heibio i lenwi'r crac â phitsh,
ond yn hytrach na goleuo aeth pethe'n dywyll bitsh.
Rhyw foi to fflat o Dywyn rhodd gyngor hawdd ei gael -
Y diwrnod hindda cyntaf fe ddeuai yn ddi-ffael.
Chwi gofiwch aeaf llynedd - tri mis o blincin glaw -
roedd y garej fel Niagra cyn iddo ddyfod draw.
Trwy'r holl drafferthion yma, ro’n i mor fflat â'r to,
ond nawr, â ni’n dau’n ddiddos; rwy'n mynd i ddechrau 'to.
Felly ’nôl â fi i'r gegin i droi y tegell mlân,
Gan estyn am fy slipars a gwrando ar ei gân.
Phil Davies (Talybont)
8.5
Mae Wil yn byw mewn bwthyn yn nghyffinia’ y lôn goed.
Fo ‘di hit-man hynaf Gwynedd, dros ei bedwar ugain oed.
Bu wrthi ers blynyddoedd yn cael pres gan ambell fam
am garotio beirniaid steddfod os oedd rhywun yn cael cam.
Wrth gael panad ddeg a sgonsan, cafodd Wil ryw alwad flin
oddi wrth dywysog Cymru, isio gwarad ar y Cwîn.
Hen hulpan sych, hirhoedlog, oedd ei fam, medd Charlie bach.
Doedd na’m gobaith am ddyrchafiad tra bo honno’n fyw ac iach.
"Matricide a Regicide... duwcs... canpunt" medda Wil
"ac anghofiwn am y VAT pan ddown at dalu’r bil."
Ymlwybrodd Wil i’w selar, er mwyn chwilio drwy ei stôr
am ‘Fodus Operandi’, a dewisodd wn twelve bore.
(Nid y dewis mwyaf cynnil, ond roedd opsiynau braidd yn brin.
Hyd yn oed wrth wisgo’i sbectol tydi Wil yn gweld fawr ddim.)
Mewn coedan ger y palas, nythai Wil tra’n nelu’n gam...
Ond os Llwynog oedd rhen Charlie, yna bleiddiast oedd ei fam.
’Rhen Garlo gath ei saethu - talodd Lisi dipyn mwy
i Wil am gael teyrnasu am ryw ddegawd fach neu ddwy.
Ymddeolodd Wil i blasty, lle caiff eistedd ar ei din
yn cyfri’i bres a chanu gyda gwên ‘God Save the Queen!’.
Gruffudd Owen (Y Ffoaduriaid)
9
Llinell ar y pryd :
 ni heno’n y canol
Do bawb, fe gefais lond bol
(Talybont)
Ar roi’n plant yn y fantol
Do bawb, fe gefais lond bol
(Y Ffoaduriaid)
0.5
Telyneg : Tro Gwael
Tap, tap, tap,
y pryfyn yn torri ar y tawelwch.
Dyddiadur
yn llechu o dan y gobennydd,
yn llawn ‘sgrifen coesau corryn
a’r drwydded yn y drôr.
Tap, tap, tap.
Bore arall,
Ac un gair yn waedd ar draws y dudalen.
Y sgriblan yn tyllu trwy’r dyddiau di-liw.
Rhestr,
syniadau,
cynlluniau.
Tap, tap, tap.
Nodi enwau’r rhai fu‘n chwerthin i gefn llaw,
y llygaid yn pylu a’r wên yn diffodd
wrth iddo gerdded i’r ‘stafell.
Pob tro gwael,
pob esgus a roddwyd,
siom,
brad.
Tap, tap.
Cau’r clawr yn glep
fel ergyd.
A’r pry’n gaeth yn llinynnau'r we.
Phil Thomas (Talybont)
9
Gwisgodd ei grys West Ham
er ei fod yn rhy fach yn barod
i ddangos fod yr anrheg
pen-blwydd yn plesio.
Daeth â’i albwm sticeri
fel y gwelai mor ddiwyd y bu.
Bu’n ymarfer,
yn gyrru’i fam o’i cho‘
â swn y bêl
yn dyrnu talcen y ty.
A neithiwr,
gwyliodd y gêm
fel bod ganddo sgwrs.
Ond ar ei ben ei hun
ar fainc yn y parc
y treuliodd y bore
yn magu’r bêl yn ei gôl.
Gwennan Evans (Y Ffoaduriaid)
10
Englyn: Gloyn Byw/Pili Pala
Ni ddaw eilwaith oni ddaliaf - ei rhith
cyn daw rhu y gaeaf
i fynnu’r un addfwynaf,
na ddaw ’nôl o ddoe ein haf.
Anwen Pierce (Talybont)
9.5
Cassius Clay
Gan bod cyffion aflonydd - ei enw'n
gadwyni cywilydd,
dyrnai'r hawl i dorri'n rhydd,
i wneud enw'n adenydd.
Gruffudd Owen (Y Ffoaduriaid)
10