Cerddi Rownd 1
Trydargerdd: Cyfarchiad Sul y Tadau
Hiraethog
Am beidio’n hel ni i’r gwely; o drio
rhoid row, ond yn methu;
am weld aur mewn cwmwl du –
f’arwr, heddiw a ’fory.
Ffion Gwen - 9
Talybont
Heddiw, geiriau heb eu gorffen
sydd yn oedi uwch yr amlen.
Anodd 'leni sgwennu cerdyn
nad oes yno neb i'w dderbyn.
Anwen Pierce – 9.5
Cwpled caeth er cof am unrhyw wrthrych
Hiraethog
Oes faith o gymwynas fu
ei gael o dan y gwely.
Berwyn Roberts – 8.5
Talybont
A 'mol at ei ymylon,
i ble'r aeth y Toblerôn?
Anwen Pierce - 8
Limrig yn cynnwys y llinell: ‘Yng nghanol y lôn roedd ’na dractor’
Hiraethog
Yng nghanol y lôn roedd ’na dractor
a throl wedi troi ar ei hochor;
roedd y gyrrwr yn eista’
â’i ben rhwng ei goesa’
a fynta di ennill Fferm Ffactor.
Berwyn Roberts - 8
Talybont
Yng nghanol y lôn roedd 'na dractor,
Dau drelyr a chwech ecscafetor,
Rhyw whilber neu dri,
A phump JCB,
Un nafi, a phymtheg inspector.
Phil Davies - 8
Hir a Thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Y nos sy’n udo ei ensyniadau’
Hiraethog
Dic Penderyn
O dan oer waelodion yr eiliadau
griddfan sy’n hongian rhwng byw ac angau,
ciciodd i wadu y cyhuddiadau,
ymladd ei ladd gan raff o gelwyddau;
â gair y tyst am byth yn ei glustiau,
aeth yn annedwydd i blith eneidiau
heb hedd; yn unigeddau anhuno
y nos sy’n udo ei ensyniadau.
Rhys Dafis - 10
Talybont
18 Medi 1997
Bu llais y sais yn teyrnasu oesau;
y nos yn udo ei ensyniadau.
Ac heno’n nhywyllwch ein canhwyllau
a dwylo estron ar ei choronau,
ganed inni’n gnawd o enwau – wlad rydd;
gyda’n gilydd i godi’n y golau.
Gwenallt Llwyd Ifan – 9.5
Pennill ymson heddwas
Hiraethog
Rhyw hen joban ddigon pethma oedd y Glas, flynyddoedd ’nôl,
ond ’doedd gen i fawr o ddewis – gwisgo’r lifra’ neu giw dôl!
Na, ’doedd gen i’m brêns o gwbwl, ond roedd gen i draed fel cawr,
pâr o ddyrna’ praffa’r dyffryn, ac roedd gen i bastwn mawr.
Mi fu hwnnw’n fendith i mi lawer nos ar ben fy hun
pan oedd genod drwg y machlud yn cael trafferth efo’u dyn;
do, mi welis ddillad isa’ yn drybola hyd y lle –
ond y pastwn fu’n teyrnasu gan dawelu cyffro’r dre’.
Erbyn hyn, a fi’n heneiddio, dwi’m yn gw’bod ffordd i droi –
does ’na hogia fatha merchaid a sawl merch am fod yn foi;
dydi fiw ’mi godi’r pastwn – gyda phobun yn PC,
a’r hen fêt fu gynt mor weithgar heno’n hongian arna’ i.
Eifion Lloyd Jones - 8
Talybont
Daeth amser i ymddeol, a throi fy nghefn ar Efrog
Ar stumio’r gwir a chuddio ffaith, a phob gair bach celwyddog;
'Rôl oes o wasanaethu’r Force,
Gobeithio nawr caf gysgu’r nos.
Phil Davies – 8.5
Cân Ysgafn: Hel Achau
Hiraethog
F’enw i yw Iestyn – yn fab i Gav a Jane:
Tra oedd Gav yn werthwr wisgi, ei yfed o oedd Jane.
Ar ôl im gael fy ngeni, fu’r briodas ddim yn hir:
Dwi’n ama’ rhyw dair blynedd, os ’di pawb yn dweud y gwir.
Bûm am flynyddoedd lawer yn reit low key, rhaid dweud –
Cael gwraig a phlant a joban, fel bydd llawer iawn yn gwneud.
Pan ordeiniwyd fi’n Archesgob Caergaint mewn rhwysg a bri,
Dechreuodd pobol amau nad mab Gavin oeddwn i.
Roedd swyddfa Mr Churchill yn lle difyr iawn, ma’n rhaid -
Achos yno’n ôl pob tebyg y methodd Jane ddweud ‘Paid’.
Tra oedd Jane ar briodi Gavin, bu efo Mr Browne -
Does neb a 诺yr yn fanwl ai’n y bore neu’n y p’nawn.
Yn ddiweddar iawn fe brofwyd fod y stori’n fwy na si,
A ches wybod er mawr syndod mai mab Tony oeddwn i.
Fe allai greu embarás i’r Eglwys, ac yn rhwydd,
Fel plentyn anghyfreithlon, fe allwn golli’n swydd.
Ond pa wahaniaeth bellach pa linach, hil neu had?
Does gen i ddim amheuaeth o gwbl pwy yw Nhad.
Gwenan Prysor – 8.5
Talybont
Mae rhai yn siwr o’u hachau tra’n medru olrhain tras
I oes y tywysogion neu ddeilydd crand y plas.
Gall eraill frolio perthyn i gewri’r 大象传媒,
Ond methais â darganfod yr un o’ nheulu i.
Fe chwiliais drwy'r Llyfrgell ac ancestry.com,
Archifdai yr holl siroedd, gan deimlo aml siom.
Yn ofer bûm yn chwilio, a dyna’r rheswm, sbo,
Y caf fy ngalw’n f****d gan rai, o dro i dro.
Meddyliais ar un adeg taw cerddor oedd fy nhad,
Ac euthum draw i Leipsig i holi am ei stad,
Ond methu wnes, ysywaeth, ar waetha pob rhyw strach;
Rhaid bod na reswm arall fe’m gelwir yn Phil Bach.
Tybiais fy mod yn perthyn i Lynd诺r mawr ei barch,
Ond anodd profi hynny ac yntau heb ddim arch.
'Rôl Owain arall, falle, fu’n crwydro’r parthau hyn,
Y tarddodd y Cog Owen a gaf bob hyn a hyn.
'Rôl methu â darganfod yr un o’m tadau cynt,
Es draw i Sw Bae Colwyn ben bore ar fy hynt,
A gwelais i o’r diwedd, ar bolyn yn gwneud tric,
Greadur bychan barfog, fy nêm sêc, Mwnci Pric.
Phil Davies – 8.5
Ateb llinell ar y pryd: Mae lliw haul ym Mhwllheli
Hiraethog
Mae lliw haul ym Mhwllheli
Ym Mhen Llyn mae’n c’nesu ni
Talybont
Mae lliw haul ym Mhwllheli
Yn lliwio’n penillion ni
0.5
Soned: Siwgr
Hiraethog
Y cyffur melys
Gwargryma’r ddau yn fud o flaen y tân
gan syllu i fyw y fflamau oer a’u gwawd;
anwesa’r naill glawr brau adnodau mân
a’r llall yn troelli’i llwy rhwng bys a bawd;
y naill yn chwilio’i gof am ryw nos Sul
pan losgai fflam ei ffydd bob cwestiwn cas,
a’r llall yn troedio eto’r llwybr cul
a’i holl baneidiau melys, gwell eu blas.
Yn nwfn y fflamau heno y mae llun
y diafol sy’n eu holi am yr hynt
o’u blaenau: yn eu cadw ar ddi-hun
gan edliw cysur rhwydd y dyddiau gynt.
Wrth daflu’r beibl bach at ddiawl y fflam,
mae’i chwpan chwerw hithau’n ofni pam.
Eifion Lloyd Jones - 9
Talybont
Sgrech cyllell ar blat drwy’r t欧.
S诺n crafu gweddillion y noswaith i’r bin.
Distawrwydd wedyn,
pob cyllell a fforc yn eu gwelyau
yn y ddrôr.
Popeth yn dwt ac yn ei le.
Ac mewn cegin lle mae’r ddau
yn sipian eu paneidiau chwerw.
mae staen coffi yn y siwgr gwyn.
Phil Davies – 9.5
Englyn: Siwtcês / Cês Dillad
Hiraethog
O wermod crud y gormes – â’i obaith
yn wlyb ar ei lawes,
daeth yn un ‘och’ am loches
a’i fyd i gyd yn ei gês.
Berwyn Roberts – 8.5
Talybont
Anffyddlondeb/diwedd perthynas, a'r cês wedi'i bacio
Ei wead yw f'amheuaeth – a hwythau
ym mhwythi'i saernïaeth
yw’r brad dan y caead caeth
a ryda’n hymddiriedaeth.
Anwen Pierce – 8
Cyfanswm
Hiraethog - 69.5
Talybont - 70