Tir Iarll v Aberhafren
Tir Iarll v Aberhafren
Trydargerdd yn hysbysebu tocynnau ar werth
Aberhafren
Ar werth. Dau docyn dethol. Mae un i deithio tua’r ne’, a’r llall i le gwahanol. Rhowch showt.
@duw @diafol
Owain Rhys - 8
Tir Iarll
Ar werth, ar werth, dewch ar ras!
"Wncwl, ma'r Willy Woncas
'n ail-wampio'u Oompa-Loompas!"
Onid aur nawr bydra'r dant
yn eleni'r dilyniant?
Dafydd Emyr – 8
Cwpled caeth i’w osod wrth fynedfa llyfrgell
Aberhafren
Mae’r iaith sy’n marw weithiau
yn nhop yr Aes yn parhau.
Llion Pryderi Roberts - 9
Tir Iarll
Heria dy hun â llyfr da,
mae grym i’w gario o’ma.
Aneurin Karadog – 9
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Es ati bnawn Sadwrn i arddio’
Aberhafren
Es ati bnawn Sadwrn i arddio
ond doedd gen-i’m clem sut i docio
na thrin yr un pot
a Medwyn wyf not.
Mae nawr gen-i hot-tub a phatio.
Rhys Iorwerth – 8.5
Tir Iarll
Es ati bnawn Sadwrn i arddio
Rôl gwrando ar Boris yn sbowto:
'Heb Frwsel i'n dala
Ein sbrowts fydd yn gwella
A'r moron yn elwa, rwy'n addo!'
Emyr Davies – 8
Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Anobeithiwn am yr un hen bethau’ neu ‘Anobeithiaf am yr un hen bethau’
Aberhafren
Ar ôl 15 mlynedd yng Nghaerdydd, mi fyddaf yn symud yn ôl i fyw i’r gogledd cyn hir
Anobeithiaf am yr un hen bethau:
unig a gwledig fydd goleuadau
bach y dre’, ac i be’r af i’r bariau?
Eto rhywle, ar fy nghrôl o’r deau,
mae Caernarfon calonnau. A min nos,
y sêr yn agos ar wenu hogiau.
Rhys Iorwerth - 10
Tir Iarll
Samariad
Rhyw gwmwl isel oedd hel meddyliau;
Anobeithiwn am yr un hen bethau
A'r manion mawrion yn troi am oriau.
Stori debyg i'r holl ystrydebau
Yn ei gwaith a gâi hithau'r Samariad,
Ond drwy un alwad, dôi darn o olau.
Emyr Davies – 9.5
Pennill ymson wrth sefyll arholiad ysgol
Aberhafren
Ga’ i bapur sy’n fy siwtio i
am draeth, am ddringo coed,
am gicio pêl, am gerdded ci?
Dw i ’mond yn saith mlwydd oed…
Mari George -9
Tir Iarll
Mae sawl cerdd dda ar y cwrs Lefel A –
dysgais bob un o’r cerddi hyn.
Felly crynais, oedais a gwrido
wrth weld cerddi Ceri Wyn.
Gwynfor Dafydd – 8.5
Cân ysgafn: Mabolgampau
Aberhafren
Ti’n llwyddo i ollwng wy o’r llwy
a does ’na’r un drychineb fwy;
yn sgipio tua’r llinell wen
a’r rhaff yn flerwch dros dy ben
a hogla gwair ac awyr gam
wrth iti faglu ganol llam.
Am glec y gwn ti’n aros oes
a’r sachau’n crafu ar dy goes;
dros dywod, naid i ben draw’r byd
dim ond i landio ar dy hyd
ac ar draws gwlad mae’n siwrna faith
a mam a dad â llygad llaith.
Y jwgs o sgwosh, brechdana jam,
y lluchio pêl heb wybod pam
a buwch goch gota ar dy fys
yn trio holi be ’di’r brys
i yrru’r ferfa fesul troed,
i syrthio’n fflat fel gwnest erioed.
Gornestau bach i’th g’nesu cyn
y ras go iawn, a’th fyd yn wyn.
Rhys Iorwerth - 9
Tir Iarll
Fore dydd Sadwrn, cad fawr a fu –
holltwyd yr ysgol yn bedwar llu.
Gweiddais innau, yn fawr fy most:
“Cystadlu wnaf, waeth beth fo’r gost,
ym mhob un dim o gampau’r dydd!”
Bloeddiodd ein byddin, ag ychydig ffydd,
tu ôl i mi, wedi’r araith ddi-nam.
Ac ymhen dim, ces wybod pam...
Gollyngais y baton, baglais ar fy mhicell,
a cholli’r can metr i Dania-drigain-tunnell.
Cwympais deirgwaith yn ras y clwydi,
a herciodd Hanna heibio – un goes sy’ ganddi!
Naid isel oedd fy naid uchel, naid fer oedd fy naid hir –
fe’m trechwyd i gan Glen, ac ni all yntau weld yn glir
(hynny yw, mae’n ddall), ac i rwbio’r halen yn y clwy,
fe enillodd wedyn ras yr 诺y ar lwy.
Daeth y brain ar ôl y brwydro,
ond cyn iddynt gychwyn rhuddo,
fe gofiais yn sydyn fy mod i’n fardd –
canaf am flwyddyn i’m gorfoleddau hardd.
Gwynfor Dafydd – 9
Ateb llinell ar y pryd: Liw nos fe ffarweliwn ni
Aberhafren
Liw nos fe ffarweliwn ni
Ac wedyn haul ar godi.
Tir Iarll
Liw nos fe ffarweliwn ni
 golau rhethreg Ali.
0.5
Telyneg: Potel
Aberhafren
Cerddaf yr holl draethau
dan rwyd o fore
yn corddi cregyn dy eiriau,
taflu neithiwr.
Gweld dim
rhwng y sbwriel sych
ond dau aderyn
yn cerdded oddi wrth ei gilydd.
Mi roddwn haf o haul
am gael dy weld,
agor neges,
agor dy law.
Ond dw i mor styfnig
â'r môr
ac arhosaf i'r llanw nesa
ddod â gwydr pigog fy nial
atat ti fesul darn.
Mari George - 10
Tir Iarll
Dechreuwyd y grefft o botelu llongau gan forwyr ryw 150 o flynyddoedd yn ôl, fel modd o ddygymod â chyfnodau hir ar y môr
Drwy’r fordaith a’i thaith wyllt
rhwng dannedd yr angau a’i don,
mae’n bwrw ei waith, drwy fad, cymen, brau,
mewn i botel sy’n dawelach
ei moroedd. Er yn drwm ei hiraeth
hyd ei hymylon, yn hon mae’n haf
braf. Er taw brifo
wna min ei amynedd,
ar linynnau ei orwel newynog
a gorwel y botel mor bell,
yn y manylder mae 'na eildon
a wthia ei lwyddiant yn ôl at borthladdoedd
ar dir ei dad …
Drwy ymestyn mae’n codi’r mastiau,
tynna eilwaith ac mae’r gwynt yn ei hwyliau,
llong a’i cheinder a ollynga uwch y wendon
ar ei mordaith, ac mae ei thaith hi
yn y tawelwch a botelwyd.
Aneirin Karadog – 9.5
Englyn: Gwisg
Aberhafren
Wedi’r gwaed a’r ergydio, y dillad
sy’n dwll, ond rwyf heno’n
s诺n y fyddin ddiflino’n
ail-fyw’r cyrch yn lifrai’r co’.
Aron Prichard – 9.5
Tir Iarll
Ewro 2016
Mi dynna' i'r crys amdanaf, yna mynd
Draw am iard bois mwyaf
Ein hysgol, a phan wisgaf
Y lifrai hwn, ni lwfrhaf.
Emyr Davies – 10
Cyfanswm
Aberhafren – 73
Tir Iarll - 72