Tir Mawr v Y C诺ps
Trydargerdd: Neges i Ddyfarnwr neu Ddyfarnwraig
Tir Mawr
Ganolwyr, dyfarnwyr, reffaris,
Yr hufen, y rhai a alwyd
Rhai a gwybodaeth, crebwyll, graen,
Meurynod a ddyrchafwyd.
Huw Erith – 8.5
Y C诺ps
Cloff a thwp a hanner call!
Byddar, dwl a chwbwl ddall!
Tasa ti'm yn reffarî,
Sa'i di canu arnan ni!
Arwel Jones – 8.5
Cwpled caeth er cof am anifail anwes
Tir Mawr
Hedd, Hyfryd Hedd, hebot ti,
Julius fy mharot joli.
Myrddin ap Dafydd - 9
Y C诺ps
Er rhoi Pws dan R.I.P.
Wyth gwaith, achubiaeth geith hi.
Huw Meirion Edwards – 9.5
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae sôn y bydd g诺yl ym Mhwllheli’
Tir Mawr
Chaiff plismyn ddim gwyliau eleni;
Mae'r Fali ar binnau – a'r Nêfi;
Daeth rhybudd lliw crimson
O swyddfa Dêf Camron:
Mae sôn y bydd g诺yl ym Mhwllheli.
Huw Erith – 8.5
Y C诺ps
Mae sôn y bydd g诺yl ym Mhwllheli
I farnu rhwng jeli a jeli,
Eith gwobr y bobl
I jeli reit nobl
 wibl a wobl go secsi.
Arwel Jones – 8
Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘S诺n hallt yr wylo sy’n hollti’r waliau’
Tir Mawr
Aberfan 2016
Ar hyd y rhesi, tu cefn i'r drysau
S诺n hallt yr wylo sy'n hollti'r waliau;
Mae pytiau dannedd y cerrig beddau
Yno o hyd yn cnoi eu heneidiau;
Bydd galar, fel bydd golau ar fynydd,
Tra bo aelwydydd ym mhentre'r blodau.
Myrddin ap Dafydd - 10
Y C诺ps
Clyw hi’r sylfeini’n yr iselfannau
Yn chwalu eisoes, mae’n cyfri’i chleisiau,
Yn ail-fyw ei braw dan lyfu’i briwiau,
A’r t欧 fu’n gartref yn llawn hunllefau.
Fe feiddiodd unwaith faddau, – ond heno,
S诺n hallt yr wylo sy’n hollti’r waliau.
Huw Meirion Edwards – 9.5
Pennill ymson mewn iard sgrap
Tir Mawr
Mae’r pris ar ei isaf eleni
Gobeithio na fydda nhw’n sylwi
Fod corpws fy nghymar
Y tu mewn i’r ffrisar
Efallai ga’i denar amdani
Gareth Jôs - 9
Y C诺ps
Ydy wir, mae’n hen a rhydlyd
Heb ddim sbarc na lliw na bywyd.
Mae e’n dyllog a griddfanllyd;
Golwg shimpil arno hefyd...
Ie, ‘mhennill i oedd ar y radio
Ond faint ga’i am y CAR, y lembo?
Geraint Williams – 8
Cân ysgafn: Camsefyll
Tir Mawr
Mewn i’r ‘Fron’ fe ruthrodd Arthur eisiau menthyg gliw a chlwt,
Padell Ffrio a phot pupur ac fe aeth a nhw i’r cwt
Yn reit sydyn ar ôl hynny sylweddolodd Anti Gwen
Fod ‘na daclau yn diflannu mewn i’r cwt bob now an’ dden
Wedi mynd oedd stoliau’r gegin efo’r Kenwood Chef a’r wok.
D’oedd na’m plu tu mewn i’r cwshin, d’oedd na’m bysedd ar y cloc.
Yn y cwt heb gymryd seibiant wele Arthur wrth ei fainc
Wrthi’n adeiladu peiriant fydda’n mynd a fo i Ffrainc
Efo’i frechdan 诺y mewn cadach fe gychwynodd yn ddi-hid
Daeth i lawr y cae fel Alarch sydd yn methu codi sbîd
Fe fu bron i Gwen gael trawiad. Roedd o’n dwad am y t欧!
Ond r’ôl rhwygo trwy’r lein ddillad fe ymgododd megis pry
Ac wrth weld ei phegs a’i blwmar yn anelu am Toulouse
Yn druenus o ddi hydar cododd law o ben y drws
Roedd hi’n ornest glos ddychrynllyd draw yn Lens ar draws y môr
Ar ôl awr a phymtheg munud roedd hi’n dal yn gêm ddi-sgor
Daeth y bel i feddiant Rooney ( i ) fyny’r cae ar ben ei hun *
Er fod pawb yn sgrechian gweiddi d’oedd y reff ddim ar ddihun
Roedd y diawl yn siwr o sgorio, roedd ein breuddwyd bron ar ben
Be’ ddisgynodd ar ei ben o ond hen gegin Anti Gwen
Yr oedd pawb yn amau ISIS am y weithred sanctaidd hon
Tan i hufen heddlu Paris reprimandio Arthur Fron
Ar ôl crafu Wayne i’r stretshar a thacluso’r cae rom bach
Arthur Fron aeth am y carchar ac enillodd Cymru Fach.
Yn y carchar mae pot pupur ‘di diflannu’r wythnos hon
Rydwi’n amau’n gryf fod Arthur ar ei ffordd yn ôl i’r Fron
*Gweler ‘Laws of the Game’, rheol 11 – The offside rule
Gareth Jôs – 9.5
y C诺ps
Breuddwyd yn troi’n Hunllef
Breuddwydio wnes fy mod i, na chiciodd bêl erioed,
Yn cynrychioli Cymru, ar faglau, mewn pêl-droed,
A Jôs a Gareth Neigwl mewn lifrai lili wen
Oedd yno yn nhim Lloegr yn chwerthin ar fy mhen.
Ond pasiais fy ngelynion gan sgorio heb un hap,
A phwy a gadwai’r gôl i’r Sais? Yr arswyd! Myrddin ap!
Cymru’n bencampwyr Ewrop, Lloegr yn llyfu’r llawr
Er gwaetha’r help a gawsant gan glerwyr y Tir Mawr.
Ond yna daeth chwibaniad, un dreiddgar o’r tu ôl,
“Camsefyll,” medd y reffari. “Dim – dim. Ni saif y gôl”.
Dechreuais innau regi a thaeru â chryn nerth,
Gan feiddio galw’r reffari yn blentyn llwyn a pherth.
Trois ato i’w wynebu, a hynny yn ddi-fraw,
Yr oedd ei wep mor writgoch â’r cerdyn yn ei law;
Wel, Ceri Wyn oedd yno a’i wynrb yn llawn gwae,
A galwodd ar chwe phlismon cryf i’m hebrwng i o’r cae.
Fe ês trwy’r twnnel tywyll a nghalon yn fy nhin
A dod allan ym Mhwllheli ar ôl yr hirdaith flin ;
A phwy sy’n sefyll yma i farnu ‘nghynyrch brau?
Neb llai na’r Meuryn, Ceri Wyn. Mae’r hunllef yn parhau.
Dafydd Morgan Lewis – 9
Ateb llinell ar y pryd: Rwy’n hoff o hyd o’r hen ffôn
Tir Mawr
Ai ring dy ring fel cling on
Rwy’n hoff o hyd o’r hen ffon
0.5
Y C诺ps
Rwy’n hoff o hyd o’r hen ffôn
A dyr yn Aberdaron
Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned: Ysgwyd Llaw
Tir Mawr
Frelinghien, Nadolig 1914
lle roedd catrawd o'r Ffiwsilwyr Cymreig a Throedfilwyr Saxony yn wynebu'i
gilydd ar lan afon Lys
Yma y cododd tarth o'r afon, hel
o dan y coed a thaenu'i gneifion gwyn
yn heddwch dros y maes. Daeth ffurf mewn sbel
ar hyd y glannau gwyliadwrus hyn,
dilyn y llwybr tynnu gyda'i faich
o newydd da, ac yn ei iaith ei hun,
'Nac ofnwch!' galwodd, gan ymestyn braich
a llaw agored. Yna, cododd un
o'r ffos gyferbyn; dilyn llwybr llwyd
y bore ato; mentro derbyn gwres
ei law. Daeth mwy i'r maes i rannu bwyd
a chân – dwy iaith, dieithriaid, ond yn nes
wrth dynnu o'u pocedi gyfrinachau
yn eu cotiau gwlithog a'u cadachau.
Myrddin ap Dafydd – 9.5
Y C诺ps
Mewn dathliad ym Mhorthaethwy wedi bedydd fy ngor-nai
A deuai Cai yn llond ei dd’yflwydd oed
yn gwisgo gwasgod newydd smart, a chrys
‘go iawn’, a’r wên sydd wedi bod erioed.
Mae’r Fenai’n dawel wlyb yn s诺n holl frys
y plant yn heulwen Mai; y chwarae pêl,
a’r mentro i bob cornel sy’n yr ardd,
fel gwenyn, yn llawn antur dyddiau mêl;
a’r syndod ar wynebau mor, mor hardd.
Y ni’r oedolion yn y cysgod blin
yn gwylio Cai yn dod yn gyffro i gyd
a’i ddyfodol cyfan yn ei ddwrn; gwin
a bwyd a sgwrs, a ninnau’n dotio ar fyd
y diniweidrwydd bychan hwn… Ond braw
yw’r d’yflwydd cawr o ddyn yn estyn llaw.
Dafydd John Pritchard – 9.5
Englyn: Senedd
Tir Mawr
Er rhif y dannedd prifiant iddi hi,
Mae’n dda yn ei thyfiant
Bod Machynlleth ein methiant
Ynddi o hyd â’i hen ddant.
Gareth Neigwl - 9
Y C诺ps
Os gwan fu ers nos ei geni’n y bwlch
Rhwng bedd a chnwd Medi,
Daw hon i’w hoed ond i ni
Ennill rhyddid llwyr iddi.
Huw Meirion Edwards – 9.5
Cyfanswm
Tir Mawr – 73.5
Y C诺ps - 71.5