Main content

Y Ffoaduriaid v Y Gl锚r

1. Trydargerdd

Pennill yn gwneud esgusodion

Pob hwyl yn arholiadau'r haf
ddisgyblion blwyddyn tri.
Mae Syr yn sâl- fe fydd am sbel
#c'estlavie
9 Gwennan Evans

I be'r awn innau i fotio?
Un groes fach nid yw'n cowntio.
Oedd angen NHS? Ta beth,
Ma' pawb 'run peth, sai'n becso.
9 Eurig Salisbury

2. Cwpled caeth i'w osod wrth fynedfa amgueddfa

Amgueddfa Auschwitz
Am i hyn ddigwydd unwaith,
ei gadw ar go' ydi'r gwaith.
9 Llyr Gwyn Lewis

Hir oes a fydd i drysor
Dy hanes di yn ein stôr.
8 1/2 Iwan Rhys

3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae rhai sydd yn hoff o bwyllgora'

Mae rhai sydd yn hoff o bwyllgora
ac eraill sy'n joio pysgota,
mi wn i am un
sy'n hoffi gwneud llun;
rhai rhyfedd yw'r defaid rownd ffor 'ma.
8 1/2 Casia Wiliam

Mae rhai sydd yn hoff o bwyllgora,
Gan fynnu troi popeth yn ddrama;
Mae'n syndod, myn Duw,
Eu bod nhw'n cael rhyw
Heb gynnig ac eilio yn gynta'.
9 Iwan Rhys

4. Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Ar lannau gwynion, mae'r haul yn gwenu'

'Ar lannau gwynion, mae'r haul yn gwenu'
d'wedwyd wrthym; fe'n hudwyd i werthu
ein nyth olaf, gwahanu â theulu,
a'n cario wedyn, dan feiddio credu,
dros fôr at well yfory - heb amau
na welwn ninnau mo'r glannau hynny.

Ar lannau gwynion, mae'r haul yn gwenu,
ar lawnt o ynys mae'r haul yn t'wynnu:
Ynys Afallon ei hun sy felly,
a hwyliaf ar adain fy nelfrydu
i'r lan. Ond ar ôl hynny, taith araf
drwy'r niwl 'gymraf, adre'n ôl i Gymru.
9 1/2 Llyr Gwyn Lewis

Ar lannau gwynion mae'r haul yn gwenu,
Draw dros y don, cawn ddal dwylo'n deulu,
A phan gyrhaeddwn y ffin, gwireddu
Y freuddwyd fawr - rhyw ryddid yfory;
Cawn am gyfnod yno dy ar gyrion
Ynys cysuron, Sussex a Surrey.
9 1/2 Eurig Salisbury

5. Pennill ymson gwneuthurwr neu wneuthurwraig racedi tenis

Mae 'nghalon fach yn torri'n ddwy
wrth wylio chwalu raced;
ond tymer ddrwg chwaraewyr brwd
sy'n fendith i fy mhoced!
8 1/2 Gwennan Evans

Crafu cefn a gratio cosyn,
Hidlo grefi, swatio pryfyn,
Chwarae gig cyfan air guitar...
'Sgen i ormod o amser sbâr?
8 1/2 Hywel Griffiths

6. Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Y Ras Noddedig

Roedd angen crayons newydd ar blant yr Ysgol Sul,
rhai glas i liwio'r forwyn Fair a llwyd i liwio'r mul.
Heb grayons, doedd dim pwrpas dysgu stori'r siaced fraith
ac roedd Moses wedi agor moroedd pinc a brown sawl gwaith.
Fe drefnwyd ras noddedig er mwyn cyflawni'r nod
sef cael crayons fyddai'n para dros y ganrif oedd i ddod.
A'r plantos aeth i'r Bala, trwy eira, glaw a gwynt
gan wneud bob cam yn droednoeth, fel gwnaeth 'rhen Fari gynt.
Fe ddaeth eu antur enbyd i sylw es-ffôr-sî
ac yna daeth i sylw yr NSPCC.
Ond mynnai'r plant bob amser eu bod am fwrw mlân
er bod eu gwadnau'n gwaedu a'u coesau bach ar dân.
Fe lenwyd eu bwcedi cyn cyrraedd Derwen-las
ac yna'n mart Machynlleth, fe ddaeth y cheque books mas.
Wrth Little Chef Dolgellau cawsant frecwast mawr yr un
(a ddeuai gyda chrayons, am ddim, i dynnu llun.)
Fel Mari Jones stopiasent mewn clawdd i wneud pi-pi
ac yno gwelsant garreg â'r geiriau ‘Bala-3'.
Mae cyfleusterau'r Ysgol Sul yn awr yn llawer gwell
ond rhai sy'n dal i fynnu'r a'th y plantos bach rhy bell.
9 Gwennan Evans

Cân ysgafn: Y Ras Noddedig
Chwi noddwyr hael, mae arnom
Angen help, rhag barddol siom.
Fel erioed, prinnach yw'r Glêr
O arian nag o hyder,
Felly mewn hyn o draethodl,
Am nawdd hael cynigwn odl.
(Cywydd di-gynghanedd yw;
Lot haws i'w sgwennu ydyw.)
Llanfihangel Genau'r Glyn -
Yno'r ras a wnaeth gychwyn,
Wedyn mlaen i Benrhiwllan,
Dan straen cymalau'n clecian,
A heddiw maith fu'r hewlydd
Ar ein taith lawr i Gaerdydd.
Ond heb gynhaliaeth sy'n fwy
Ni allwn gyrraedd Mynwy.
Och! Onid rownd derfynol
Heb Glêr ofer fyddai'n ffôl?
Gynulleidfa dda, rhowch glap
I rwystro barddol anhap.
8 Iwan Rhys

7. Ateb llinell ar y pryd - Arlein nid oes awyr las

Y Ffoaduriaid
Arlein nid oes awyr las
Ond i iaith mae gymdeithas
1/2 Gruffudd Owen

Y Glêr
Arlein nid oes awyr las
Ond yno mae llond dinas
Eurig Salisbury

8. Telyneg (heb fod dros 18 llinell) neu soned: Cip Sydyn

Yn dyner, dawel daw i'r sgrîn
dy lun, mewn du a gwyn.
A gwelaf, mewn hanner curiad
adenydd glöyn byw
dy lygaid a dy gysgod,
dy straeon a dy chwerthin,
dy enw a dy hoff si-hei-lw.
Fel petai rhywun
wedi gosod y cyfan
yn barsel annisgwyl
ar riniog fy myd.
Cyn i eiriau'r nyrs ddisgyn
yn araf amdanaf fel plu,
a ngwneud i'n slwj o eira oer.
Does dim parsel na glöyn byw.
Mae'r llun yn deilchion.
10 Casia Wiliam

Cip Sydyn
(Ar ôl gweld afonydd Cymru wedi'u mapio'n ddigidol)

Ar fap fe welais y wlad mewn düwch
Heb iddi arfordir na ffurf na ffin.
Os ydoedd o gwbl yn y tywyllwch
Ni theimlwn iaith Eryri ar fy min
Na'i phenrhynnau'n estyn o'r dwr llwyd, stond
Amdanaf. Yno'n ei habsenoldeb
Dychmygais ei phobol hithau - dim ond
Swigod mewn cors na fyn ddod i'r wyneb.
Nes i fellten hollti trwy'i holl feinwe,
A phwerdy Pumlumon godi'n dwr;
Gwefr ei gwythiennau fel cân y bore
A'i gwlith yn ddisglair. A gwelais drwy'r stwr
Rhwng Alaw a Gwy, Alyn a Chleddau
Am eiliad Gymru'n boddi mewn golau.
10 Osian Rhys Jones

9. Englyn: Albwm Sticeri

Albwm sticeri (Ewro 2016)
Os yw oes o obsesiwn yn wirion,
wedi gwario ffortiwn,
mae o hyd ryw werth, mi wn
i ddau fis o ddefosiwn.
9 Llyr Gwyn Lewis

Codi wna sticeri'r co'. Am hynny,
Fel mynach diwyro,
Yr wyf yn gymen heno'n
Gludo ein gwlad o dan glo.
9 1/2 Hywel Griffiths

Ffoaduriaid 73

Y Gler 72