Ydy, mae'n demtasiwn. Mae'r newyddion bod David Taylor wedi ei benodi'n ymgynghorydd i Peter Hain bron yn ddigon i'm mherswadio i ail-gyhoeddi cywaith diwethaf y ddau. Ond na, na, na Delilah, dydw i ddim am wneud!
Ta beth, rwy'n amau bod y penodiad yn dweud rhywbeth am y berthynas agos rhwng cyn-gyflogwr David, Leighton Andrews ac Ysgrifennydd Cymru. Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod yn un o edmygwyr (prin, efallai) David. Rwy'n hoffi pobol sy'n byw a bod eu gwleidyddiaeth hyd yn oed os ydy hynny ar adegau yn eu harwain ar gyfeiliorn!
Heb os fe fydd y swydd at ddant David ond go brin y bydd e'n para'n hir yn NhÅ· Gwydr. Beth bynnag yw canlyniad yr etholiad cyffredinol mae'n weddol amlwg bod dyddiau Peter Hain fel Ysgrifennydd Cymru wedi eu rhifo.
O gofio hynny ac o gofio maint ei fandad mae ymdrechion Carwyn Jones i osgoi brifo teimladau Peter Hain braidd yn rhyfedd. Ond peidio brifo'r Ysgrifennydd Gwladol ac aelodau seneddol Llafur eraill yw'r unig esboniad y galla i feddwl amdano am atebion annelwig ac aneglur Carwyn ynghylch geiriad ynghylch refferendwm fydd yn cael ei drafod ar Chwefror y nawfed.
Esgus gwan yw'r angen i "ymgynghori a'r gwrthbleidiau". Mae safbwyntiau'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn eglur ac yn hysbys ers tro byd. Mae Carwyn wedi paentio'i hun mewn i gornel os ydy e'n credu y bydd y naill blaid neu'r llall yn rhoi esgus iddo oedi. Os nad yw'r broses staudol i alw refferendwm yn cychwyn ar Chwefror 9fed pleidiau'r llywodraeth, a phleidiau'r llywodraeth yn unig, fydd yn gyfrifol am hynny.
Ta beth am hynny mae'n anodd meddwl am unrhyw eiriad i gynnig yn cefnogi galw refferendwm na fyddai'n gorfodi i'r Prif Weinidog gychwyn y broses yn swyddogol yn unol â Deddf Mesur Llywodraeth Cymru.
Mae union eiriau'r ddeddf yn bwysig. Dyma'r ddau gymal perthnasol.
104 Proposal for referendum by Assembly
(1) This section applies if--
(a) the Assembly passes a resolution moved by the First Minister or a Welsh Minister appointed under section 48 that, in its opinion, a recommendation should be made to Her Majesty in Council to make an Order in Council under section 103(1), and
(b) the resolution of the Assembly is passed on a vote in which the number of Assembly members voting in favour of it is not less than two-thirds of the total number of Assembly seats.
(2) The First Minister must, as soon as is reasonably practicable after the resolution is passed, ensure that notice in writing of the resolution is given to the Secretary of State.
Nawr dywedwch fod y Cynulliad yn cymeradwyo cynnig yn galw am refferendwm eleni. Ydy Carwyn, mewn gwirionedd yn mynd i fynnu nad yw hynny'n golygu bod yn rhaid iddo roi rhybudd ysgrifenedig at Peter Hain? Rili, Carwyn? A beth fyddai ymateb y Llywydd i bwynt o drefn yn gofyn a oedd rheidrwydd ar y Prif Weinidog i ymddwyn yn unol â'r ddeddf?
Mae'n rhyfedd fod gwleidydd sydd ag enw am fod yn "bar saff o ddwylo" wedi rhoi ei hun mewn sefyllfa mor sigledig. Ond efallai na ddylwn ni synnu bod dyfodol cyfansoddiadol Cymru unwaith yn rhagor yn wystl i wleidyddiaeth fewnol y blaid Lafur. Mae hynny wedi bod yn wir am y ganrif ddiwethaf, wedi'r cyfan!