Sonnir am 拢8 miliwn o arian cyhoeddus mewn lle yn barod i'r fenter i adennill y fro ddirwasgedig i greu nifer o ffatr茂oedd a 300 o dai newydd. Bwriedir creu ffordd gefn i'r safle 240 acer i gysylltu Tanyfron 芒 Brymbo ac i'r A483 a phriffordd osgoi tref Wrecsam. Mae Paul Roberts (Prif swyddog datblygu economaidd cyngor Bwrdeistref Wrecsam) yn cyfaddef nad oes llawer i'w weld yn cymryd lle yn y fro ar hyn o bryd. Mae'r holl gynllunio a threfnu yn bwrw ymlaen yn y cefndir. Cofio'r colli swyddi Trist yw cofio am y golled o 2500 o swyddi a gollwyd ers cyfnod anferth Gwaith Dur Brymbo a chollwyd y gweddill o'r gweithlu o 1,200 yn nechrau'r 90au pan ddymchwelwyd y melinau dur a'i allforio i China lle y bu'r cyn-weithwyr yn cael eu cyflogi i ail adeiladu eu gweithdai a'u gwneud eu hunain yn ddi-waith yr un pryd! Mae'r WDA wedi clustnodi y rhan helaeth o'r 拢8m i ail-hawlio'r tir diffaith a llogi peiriannau enfawr i symud tir ac i sicrhau nad oes llygredd ar 么l. Edrych ymlaen Edrychwn ymlaen yn eiddgar i'r fenter enfawr uchelgeisiol hon i wella ein hardal a chreu nid yn unig fwy o waith a thai ond i wella ein hamgylchedd gwerthfawr. Mae rhan o'r fro sef dyffryn "Y Moss" oedd unwaith yn hagr a diffaith yn awr yn ddyffryn hardd a thirlun deniadol a chwrs golff a llwybrau cyhoeddus. Dymunwn y gorau am y dyfodol i'r fro sydd yn haeddu gwelliannau ar 么l aros cyhyd.
|