Tra bod pawb am weld y datblygiad yn dod ag arian i'r clwb a sicrhau dyfodol disglair i Wrecsam, mae llawer hefyd yn poeni nad y clwb fydd yn elwa o'r datblygiad. Mae'r datblygiad wedi ei rannu'n dair rhan:
1. 510 o fflatiau - ar y maes parcio tu 么l i'r cae. 2. 330 o fflatiau - ar hen garej Dickens (siop y clwb. 3. Eisteddle newydd yn dal 5000 - ar safle'r Kop.
Mae'r rhan gyntaf o'r cynllun wedi cael caniatad llawn gan y cyngor. Mae'r ail ran wedi cael caniatad amlinellol ond does dim manylion am sut y bydd y stand yn cael ei godi heblaw am addewid gan brif weithredwr y clwb, Paul Retout, y bydd yn ei le erbyn 2012. Mae disgwyl i'r gwaith gychwyn ar y fflatiau, fydd yn cael eu gosod i fyfyrwyr tramor sy'n dod i Brifysgol Glyndwr, yn hwyrach yn y flwyddyn.
Ond mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam wedi mynegi pryder na fydd y datblygiad yn cael ei gwblhau, gan adael y clwb heb eisteddle 5000 o seddi fel yr addawyd. Mae pryderon hefyd ynglyn 芒 phwy fydd yn elwa o'r datblygiad, gan mai cwmni o'r enw Wrexham Village Ltd bellach biau'r safle a'r clwb.
Mae Paul Retout, sy'n gyfrifydd o Ruthun, ac Ian Roberts, adeiladwr o Ruthun, yn berchen ar Wrexham Village Ltd. Y cwmni yma, ac nid Clwb Peldroed Wrecsam, fydd yn cael yr arian o werthu neu osod y fflatiau.
Wedi nifer o dymhorau aflwyddiannus ar y cae, mae'r cefnogwyr yn awchu am lwyddiant a chael dianc o'r Blue Square Conference. A fydd codi'r fflatiau'n helpu'r ddihangfa yma? Amser a ddengys.
|