Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un hynod o brysur a phwysig i'r Clawdd.
Ychydig dros flwyddyn yn 么l cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i drafod dyfodol ein papur bro, a oedd yn edrych yn fregus iawn ar y pryd.
Yn dilyn y cyfarfod, sefydlwyd t卯m newydd o olygyddion i baratoi cynnwys y papur a threfnu system e-bost, a th卯m o fyfyrwyr Chweched Dosbarth Ysgol Morgan Llwyd i roi'r cyfraniadau at ei gilydd, fel rhan o'u cwrs Bagloriaeth Gymreig.
Wedi cyhoeddi pedwar rhifyn o'r Clawdd ar ei newydd wedd fodern, mae'r amser wedi dod i'r t卯m cysodi gwreiddiol, sef Daniel Evans, Robin Jones, Aron Thomas a Mathew Harrison, roi'r gorau i'r gwaith er mwyn canolbwyntio ar
eu haroliadau a chyfweliadau Prifysgol.
Diolch galon iddyn nhw am eu gwaith caled dros y flwyddyn ddiwethaf sydd nid yn unig
wedi achub Y Clawdd, ond wedi ei sefydlu fel un o'r papurau bro gorau yng Nghymru.
Dangosir y t卯m newydd o Flwyddyn 12 sy'n cymryd y gwaith drosodd yn y llun: Carwyn Booth, Ffion Barnett, Lois Russell, Aled Jones ac Adam Jones
(James Pryce a Leah Penrhyn Jones yn absennol).
Hoffai'r t卯m golygyddol ddymuno'n dda iddynt wrth fynd i'r afael a'r gwaith cysodi ar y rhifyn hwn, ac i ddiolch o flaen llaw am eu gwaith caled.
|