Yn byw mewn plasdy moethus, ac wedi ei eni 芒 llwy arian yn ei geg? Yn hollol anwybodus o'r byd cyfoes? Efallai eich bod yn iawn ar adegau, ond ambell dro mae eithriad! Mab i weinidog Methodist, wedi mynychu addysg-fannau gwerinol wladwriaeth yw Dafydd Hughes sydd newydd gael ei ddewis yn farnwr Cylchdaith. Yn yr iaith Gymraeg y cymerodd Dafydd y llw gerbron yr Arglwydd Ganghellor yn Nh欧'r Arglwyddi ar y 9fed o Fedi. Cofiwn Dafydd a'i deulu yn dda yn ein bro yma cyn ei ymadawiad i ardal Bae Colwyn fel Barnwr Llys Sirol. O 1971 i 1990 cyfreithiwr gyda Edmund Pickles & Upton, Wrecsam oedd Dafydd ac o 1990 i 2002, bu'n Farnwr Rhanbarth yn eistedd yn Llysoedd Sirol Caernarfon, Llangefni, Bae Colwyn a'r Rhyl. Cofiadur cynorthwyol bu am gyfnod byr wedyn. Bu rhieni Dafydd, y diweddar Barch Elwyn Hughes a'i wraig Gwen (Gweinidog capel Seion gynt) yn adnabyddus yn ein bro. Mae Ann, gwraig Dafydd, yn ferch i Mrs Mair Davies a'r diweddar Mr Hubert Davies. Er i'r teulu ymgartrefu yn ardal Llaneilian ers tro mae'r cysylltiad 芒 Wrecsam yn parhau. Mae chwaer Dafydd, sef Ann Hughes, yn lyfrgellydd yma. Tra yn Wrecsam, bu'n aelod o d卯m Talwrn y Beirdd Bro Maelor, a chyn Flaenor Capel Seion a Capel y Groes, ac yn Lywydd Meibion Maelor. Mae'r Clawdd yn llawenhau o ddeall am ddyrchafiad Dafydd Hughes yn Farnwr Cylchdaith yn Llysoedd y Goron a Llysoedd Sirol Gogledd Cymru a Swydd Caer, gyda'i brif lys yn Warrington. Mae'n fraint gennym longyfarch Dafydd yn galonnog ar ei lwyddiant ac fe anfonwn ein dymuniadau gorau iddo.
|