Mae'n anodd dweud yn union pa bryd y dechreuodd fy niddordeb mewn hanes, ond mae'n bur debyg mai gwibdaith i Erddig tra'n ddisgybl yn Ysgol Bodhyfryd fu'r sbardun cychwynol. Fe ddylanwadodd y chwilfrydedd cynnar hwn 芒'r gorffennol yn fawr ar fy nghyfnod yn Ysgol Morgan Llwyd hefyd, ac ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd maes o law. Erbyn heddiw, rwy'n guradur yn Amgueddfa Werin Cymru - neu Sain Ffagan i chi a fi - gyda gofal arbennig am wisgoedd a thecstiliau.
Mae'n wir dweud fod Sain Ffagan yn un o drysorau ein cenedl. Pan agorwyd yr Amgueddfa dros hanner canrif yn 么l, dim ond y Castell a'r gerddi oedd i'w gweld. Heddiw, mae'r safle yn gartref i dros ddeugain o adeiladau o bob cwr o Gymru - gan gynnwys Sgubor Stryd Lydan o'n cyffiniau ni. Amgueddfa wledig oedd Sain Ffagan yn wreiddiol 芒'i bryd ar ddiogelu ffordd o fyw'r Gymru amaethyddol, uniaith Gymraeg. Bellach, y mae'r Gymru ddiwydiannol yn cael ei chynrychioli hefyd.
Dechreuais weithio yn Sain Fagan union flwyddyn yn 么l fel Dehonglydd Addysg i brosiect ailgodi Eglwys Sant Teilo. Efallai bod rhai ohonoch yn gyfarwydd 芒'r prosiect hwn - y mwyaf uchelgeisiol yn hanes yr Amgueddfa. Mae'r t卯m adeiladu wedi bod wrthi'n ddyfal ers 9 mlynedd yn adfer yr hen eglwys, a'r gobaith yn y pen draw yw ei chyflwyno fel eglwys Gatholig o'r flwyddyn 1520. Daethpwyd o hyd i haenau o furluniau ac olion croglofft a chroglen ganoloesol yn yr eglwys wreiddiol, ac mae'r rhain yn cael eu hail-greu gan grefftwyr yr Amgueddfa ar hyn o bryd.
Er mai'r adeiladau yw waw ffactor Sain Ffagan, y mae miloedd ar filoedd o drugareddau i'w canfod mewn stordai gerllaw yr Amgueddfa, ac mae oriau o dystiolaeth lafar ar gof a chadw yn yr archif. Gwisgoedd a thecstiliau sy'n hoelio fy sylw bellach - boed yn gwilt, yn ffrog neu'n garthen. Her fawr unrhyw guradur yw casglu ar gyfer y dyfodol, a phwy a 诺yr efallai mai'r wisg sydd amdanoch chi heddiw fydd yn mynd 芒 bryd yr Amgueddfa mewn blynyddoedd i ddod.
|