大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Clawdd
Regina, ffermwraig bananas o Ynys Dominica. Masnach Deg
Gorffennaf 2005
Dyma Regina, ffermwraig bananas o Ynys Dominica yn y 'Windward Islands' gydag Anna Jane o Gymorth Cristnogol yn Eglwys y Santes Fair, Wrecsam yn ddiweddar.
Mae Regina yn ffermio 2 acer o dir ar Ynys Dominica. Mae'n tyfu bananas yn ogystal 芒 chnau coconyt a llysiau. Ei phrif gnwd yw bananas sydd yn cael eu gwerthu drwy gynllun 'Masnach Deg' yn siopau Tesco ym Mhrydain.

Cyn y cynllun 'Masnach Deg' doedd Regina ond yn cael $8 am focs o fananas ar y farchnad rydd oherwydd cwmn茂au mawr yn tyfu nifer enfawr o fananas yng Nghanolbarth America ac yn gwasgu ar gynhyrchwyr i werthu am bris isel iawn.

Ers i Regina werthu ei bananas fel rhai 'Masnach Deg' mae hi'n cael $22 yn awr am bob bocs ac yn gallu prynu esgidiau a thalu am ofal meddygol i'w phlant. Mae'r gymuned leol yn awr yn gallu prynu peiriant torri glaswellt yn hytrach na defnyddio chwynladdwyr, ac mae system puro dwr yn cyflenwi'r bobl 芒 dwr gl芒n.

Mae'r ffyrdd wedi gwella ac fe all loriau ddod yn awr i gasglu'r bananas a'r cnau coconyt sy'n mynd i siopau 'Sainsburys' yn hytrach na bod y bobl yn cario'r bocsys ar eu cefnau.

Oherwydd y tywydd cynnes a gwlyb yn y Carib卯 mae'r bananas yn tyfu drwy'r flwyddyn ac yn cael eu cynaeafu yn wythnosol. Maent yn cael eu torri tra maent yn wyrdd ac wedi iddynt gael eu gwiriomaent yn cael eu pacedu mewn pecynnau o 5 - 6 banana 芒 label gyda rhif unigryw'r fferm a'r logo 'Masnach Deg' yn cael ei osod ar bob pecyn. Wedyn mae'r bocsys yn trafaelio ar lori i'r porthladd lle maent yn cael eu gosod ar gwch er mwyn teithio i'r wlad hon sy'n cymryd 8 - 9 diwrnod.

Mae llawer iawn o gynnyrch 'Masnach Deg' ar gael yn awr. Edrychwch am y logo a fydd yn eich sicrhau fod y cynhyrchwyr yn cael pris teg am eu cynnyrch.

Os ydych yn aelod o glwb; cymdeithas neu gapel, beth am sicrhau mai dim ond cynnyrch 'Masnach Deg' rydych yn ei weini. Mae llawer mwy o siopau'r ardal, gan gynnwys y 'Co-op' yn gwerthu te, coffi, siocled, sudd oren a nifer o nwyddau eraill 'Masnach Deg.'


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy