Gyda chymaint o drin a thrafod mewnfudwyr ar y cyfryngau y dyddiau hyn - a sylweddoli cymaint sy'n ein bro ni, yn enwedig o wlad Pwyl - mae'n deg i gofio y rhan bwysig a gymerodd y Pwyliaid tra'n ymladd yn erbyn y Natsiaid ar ein hochr ni yn yr Ail Ryfel Byd 1939-45.
Efallai y cofiwch i'r Almaenwyr gipio eu gwlad cyn i'r rhyfel gychwyn. Bu nifer ohonynt yn enwog am eu dewrder drwy'r rhyfel a chafodd nifer eu gwobrwyo. Wedi'r rhyfel, daeth llawer ohonynt i'n hardal a chodwyd yn Llannerch Banna ysbyty i'r Pwyliaid - a dilynodd teuluoedd y rhai fu'n ymladd ar ein hochr ni, i gartrefu yn ein bro.
Os ewch i Fynwent y Dref, yn Ffordd Rhiwabon, fe welwch y gofgolofn yn y llun, ac arni mewn Pwyleg, Saesneg a Chymraeg y geiriau: "Er cof am y milwyr Pwylaidd a'u teuluoedd na chawsant ddychwelyd i wlad Pwyl Rydd, ac sydd yn gorffwys yma ac mewn mynwentydd eraill yng Nghymru."
|