大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Clawdd
Evan Kenffig Jones Portread o Evan Kenffig Jones
Un o hoelion wyth yr ardal - o ddechrau'r ganrif ddiwethaf - Evan Kenffig Jones.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Iorwerth Davies o Benybont-ar-Ogwr am yr erthygl ddiddorol hon ar un o gewri'r ardal yma, sef Evan Kenffig Jones, gwr a hanai o Fynydd Cynffig, Ger Port Talbot ac a ysgrifennodd y llyfr diddorol yna ar hanes Eglwys Annibynnol Brymbo, sef Harwt a Bryn Seion.

Gyda llaw, mae cysylltiadau gan Iorwerth a Wrecsam yn gymaint 芒 bod brawd ei hen, hen daid yn byw yn y dref tua 1850 - 1877 (yn 4 Percy Road,) sef Edward Davies (Iolo Trefaldwyn) 1819 - 1877. Hwyrach y cawn erthygl amdano gan Iorwerth rywbryd yn y dyfodol.

Y mis hwn byddaf yn rhoi sylw i 诺r arall a anwyd ym Mynydd Cynffig ac a ddaeth i amlygrwydd hefyd yng Ngogledd Cymru lle y bu'n gwasanaethu fel gweinidog gydag enwad y Bedyddwyr.

Cefndir yn Ne Cymru

Ei enw ef oedd Evan Kenffig Jones a anwyd ym Mryndu, Mynydd Cynffig ym mhlwyf Margam ar 20 Mai, 1863 yn fab i John Jones a hanai o Gwrtycelyn yn Llangynog, Sir Gaerfyrddin. Un o ferched tref Caerfyrddin oedd Hannah, ei fam.

Ymddengys fod teuluoedd y tad a'r fam wedi eu huno fel llawer o rai eraill o Sir G芒r i Forgannwg gan ap锚l y fywoliaeth a gynigid yno yng nglofeydd cymoedd y De. Ymddengys hefyd fod John Jones, y tad, wedi priodi Hannah Griffiths ym Mhen-y-bont ar Ogwr oherwydd ceir cofnod o'r achlysur ym 1857.

Ychydig iawn o amser fu'r teulu yn byw yn y Bryndu cyn iddynt symud i Gwm Ogwr lle yr oedd y tad yn gweithio ym mhwll glo'r Ocean yn Nantymoel. Ym mhen ychydig flynyddoedd 'roedd y teulu wedi symud eto, a'r tro hwn i Flaenllechau yn y Rhondda Fach.

Ceir cofnod o'r teulu'n byw yn Chapel Row, ym Mlaenllechau yng Nghyfrifiad 1881 gyda'r tad a'r ddau fab Evan Kenffig a David yn gweithio yno fel glowyr. Yn ogystal 芒'i waith fel gl枚wr yr oedd n Jones, y tad, yn gweithio ar y tir ac yr oedd yn grefftwr gwlad. Cadwai wenyn a byddai'n arfer y grefft o grydda ac mae'n amlwg ei wedi bod yn gryn ddylanwad ar Evan Kenffig, y mab.

Galwad i'r weinidogaeth

Mewn rhifynnau o'r Llenor ym 1946 ceir ysgrif gofiannol gan Evan Kenffig Jones o dan y pennawd "Nhad" a rydd ddarlun gwych iawn o fywyd amlochrog y tad yn ogystal 芒 chipolwg ar arferion ardal Cwm Ogwr.

Ym 1890 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Calfaria ym Merthyr Vale ac yno y'i hordeiniwyd. Ym mhen blwyddyn union yr oedd wedi symud i Brymbo yn sir Ddinbych fel gweinidog y Tabernacl. Bu'n gwasanaethu yn yr ardal ddiwydiannol honno am bron i ugain mlynedd gan wneud enw mawr iddo'i hun fel ymladdwr tros y gweiniaid, y drwgweithredwyr, carcharorion ac heddychwyr ac fel lladmerydd dros ddirwest.

Amlygodd ei hun yn y byd addysg a bu'n aelod cyfetholedig blaenllaw o bwyllgor addysg Cyngor Sir Ddinbych. Gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd rheolwyr ysgolion y Bwlchgwyn a Brymbo ac yn ddiweddarach fel un o reolwyr cyntaf ysgol Grove Park yn Wrecsam. Bu'n aelod o senedd Coleg y Brifysgol ym Mangor am flynyddoedd lawer.

Herio'r uchelwyr

Evan Kenffig Jones oedd un o'r rhai cyntaf yng nghylchoedd Wrecsam i herio hawl y tirfeddianwyr a'r uchelwyr lleol i wasanaethu fel cynghorwyr sirol a cheir hanes am un o'r gornestau hyn yn Gyda'r Hwyr, cyfrol o ysgrifau gan E. Tegla Davies. Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif a'r bymtheg 'roedd Tegla yn ddisgybl-athro yn ysgol y Bwlchgwyn, sydd heb fod nepell o Frymbo, ac Evan Kenffig Jones oedd cadeirydd y Bwrdd ysgol yno.

Penderfynodd Evan Kenffig sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad i'r Cyngor Sir yn erbyn Venables Kyrke, g诺r plas y Glasgoed a oedd wedi gwneud ei arian allan o'r mwyngloddiau plwm yn yr ardal honno. Ni feiddiai neb ymgeisio yn erbyn Kyrke: Ond mentrodd "gwr ieuanc 芒 chudyn barf a phen blaen ganddo i wrthwynebu gwr y plas"

Evan Kenffig Jones oedd hwnnw a phan gyhoeddwyd canlyniad yr etholiad yn ysgol y Mwynglawdd gwelwyd fod Kyrke wedi ennill - ond pedwar ar ddeg yn unig oedd ei fwyafrif. Siomwyd g诺r y plas pan sylweddolodd cyn lleied ei fwyafrif ac aeth ati i erlid cefnogwyr Evan Kenffig. Bu ffrwgwd mawr wedi i ganlyniad yr etholiad gael ei gyhoeddi a chyrchodd cefnogwyr E. K. Jones i wawdio a dirmygu cefnogwyr Venables Kyrke.

Ennill y dydd

'Roedd Tegla ei hun ar gwr y fintai gynhyrfus ac onibai i'w ysgolfeistr ddod heibio a'i alw ato byddai wedi ei wysio gan wr y plas am greu cynnwrf. Gwysiwyd y gweddill a fu'n rhan o'r cyffro ond fe'u hamddiffynwyd yn y llys gan Wyn Evans, cyfreithiwr galluog o Wrecsam.

Ef enillodd yr achos a daeth y llanciau'n rhydd. Yr oedd hyn yn ormod i 诺r y plas a chiliodd ef a'i deulu. Daeth cyfle a thro'r gwerinwr i gynrychioli'r ardal ar y Cyngor sir. Evan Kenffig Jones oedd yr allwedd i'r newid a'r llwyddiant mawr hwn yng ngwleidyddiaeth ardal Bwlchgwyn a Choedpoeth.

Bu Evan Kenffig yn weinidog ym Mrymbo o 1891 hyd at 1913 a gwnaeth gyfraniad neilltuol i'r ardal fel gweinidog ac fel arweinydd cymdeithasol. Yr oedd hefyd yn ddirwestwr pybyr. Ymladdai yn erbyn y bragwyr mewn llysoedd trwyddedu a byddai'n ennill yn aml trwy ei daerni a'i ddyfalbarhad.

Dywedir fod un o'r cyfreithwyr a gynrychiolai'r bragwyr wedi dweud fod E. K. Jones "cystal ag ugain o'n dynion ni." Bu'n gadeirydd 'Undeb Dirwest Gwynedd am naw mlynedd.

Ymgyrch heddychol

Mae'n debyg mai fel heddychwr y gwnaeth ei gyfraniad cymdeithasol mwyaf nodedig. 'Roedd Rhyfel Byd Cyntaf ar fin cychwyn ac Evan Kenffig Jones wedi symud erbyn hyn i fugeilio eglwys Tabernacl y Bedyddwyr yng Nghefn Mawr. Yr oedd nifer o fechgyn ieuanc ei eglwys wedi'u galw i wasanaethu yn y fyddin.

Yr oedd rhai i gydnabod yn wrthwynebwyr cydwybodol hefyd byddai yn ymweld 芒 hwy mewn gwersylloedd charchardai. Fe'i hamddiffynnai hwy mewn llysoedd barn. Brwydrai hefyd yn erbyn trais gormes a phob anghyfiawnder. Ysgrifennai'n gyson i'r wasg dros yr achos heddwch a thros hawliau dynol a chyhoeddodd Atgofion am Dri Rhyfel, cyfrol yng nghyfres Pamffledi Heddychwyr Cymru.

Awdur toreithiog

Yr oedd yn awdur toreithiog. Cyfrannai erthyglau i'r cyfnodolion Cymraeg a Saesneg ac y mae rhai o'r ysgrifau hyn fel "Ffrindiau drigain mlynedd yn 么l" a "Rhai o geffylau'r pwll glo" a ymddangosodd yn y Western Mail ym 1939 yn rhoi darlun byw iawn o fywyd y gl枚wr ym Mlaenllechau yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddodd hefyd nifer o gyfrolau sylweddol ar hanes lleol fe Harwt a Bryn Seion, hanes eglwys Annibynnol Brymbo, The story of Eduction in a Welsh border parish 1934' a 'A short sketch of the history of the Baptist Chapel at Llanidloes 1908'. Ef a ystyrir fel yr arbenigwr mwyaf ar lythyrau Cymanfaoedd y Bedyddwyr a cheir casgliad enfawr o'i bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Fel y gellir disgwyl yr oedd yn flaenllaw yng ngweinyddiad Undeb y Bedyddwyr a bu'n ysgrifennydd a chadeirydd Cymanfa Dinbych, Fflint, a Meirion. Ef oedd llywydd Undeb y Bedyddwyr ym 1928. Wedi iddo ymddeol ym 1934 aeth i fyw i Wrecsam a pharhaodd i weithio'n gymdeithasol ac fel awdur. Fe'i hanrhydeddwyd gyda doethuriaeth gan Brifysgol Cymru ym 1937. Bu farw ar 18 Gorffennaf 1950 yn 87 mlwydd oed.

Nid oes amheuaeth fod y g诺r hwn a anwyd ym Mryndu, Mynydd Cynffig wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru ac fel y dywedwyd amdano mewn hanesyn yng nghyfres "Arweinwyr Ddoe" yn Seren Cymru ym 1956.

"Apostol heddwch, arwr mawr dirwest, lluniwr doeth a medrus ym myd addysg, hanesydd a hynafiaethydd medrus. Bedyddiwr selog a digymrodedd, pregethwr coeth a gweinidog rhagorol, brwydrwr na freuddwydiai am ildio'r dydd."

Ie, un felly oedd Evan Kenffig Jones.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy