Achlysur tawel a digyffro oedd yr etholiad ar gyfer Senedd Ewrop ar 4 Mehefin 2009. Pan es i i bleidleisio roedd mwy o swyddogion yn disgwyl am gwsmeriaid nag o bleidleiswyr. Roedd yn rhaid cyflwyno cerdyn etholiad gydag enw a rhif. Roedd swyddog yn ei gymharu 芒 rhestr o etholwyr a swyddog arall yn rhoi papur pleidlais i mi. Wedyn mynd i'r bwth er mwyn pleidleisio yn y dirgel a wedyn rhoi'r papur yn y blwch du oedd dan glo. Heddiw mae gan bawb dros 18 oed yr hawl i bleidleisio dim ond iddynt gofrestru. Mae'r hawl hyn yn hawl bu ymladd i'w hennill dros yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Ond erbyn hyn y drasiedi yw bod cyn lleied o bobl yn defnyddio'r hawl i ddewis ein cynrychiolwyr yn y Cynulliad, y Senedd neu Senedd Ewrop. Yn Wrecsam, fel yng ngweddill y wlad, roedd yn anodd dweud bod etholiad ymlaen o gwbl.
Roedd pethau'n wahanol iawn yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ychydig iawn o bobl oedd 芒'r hawl i bleidleisio. Dynion yn unig oedd ym meddu ar bleidlais. Roedd yn ofynnol i fod yn berchen ar dir ac i ddweud y gwir dim ond gan dirfeddianwyr a'u rhydd-ddeiliaid a'u tenantiaid oedd yr hawl i bleidleisio. Y tirfeddiannwr oedd yn penderfynu i bwy y dylai ei denantiaid bleidleisio a phetai dyn yn gwrthod fe fyddai'n colli ei fferm. Roedd yn rhaid hefyd i'ch bleidlais fod yn gyhoeddus. Y teuluoedd cefnog o dirfeddianwyr oedd yn penderfynu pwy oedd yn mynd i gynrychioli'i sir yn y Sendd a'r rhan amlaf fe fyddai cytundeb ar bwy fyddai'n mynd i Dy'r Cyffredin a felly nid oedd yn rhaid cynnal etholiad. Weithiau fe fyddai dau deulu yn ymladd am yr hawl i gynrychioli'r sir yn y Senedd a wedyn fe fyddai gornest galed, ddrud a chas ac ar adegau byddai'n ornest waedlyd.
Yn 1588, blwyddyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg a blwyddyn yr Armada, cynhaliwyd etholiad yn Wrecsam i ddewis cynrychiolwr ar gyfer Sir Ddinbych. Y dyn oedd wedi cynrychioli'r Sir yn y Senedd flaenorol oedd William Almer, Pantyokyn, sef Pant yr Ochain heddiw. Roedd Almer wedi cael cefnogaeth teulu Llewenni, y prif deulu yn y sir. Oherwydd hyn roedd ganddo gefnogaeth teulu Rug and theulu Plas y Ward. Gyda'r holl gefnogaeth, dros fil o bleidleisiau, roedd yn amlwg bod Almer yn mynd i gynrychioli'r sir. Ond roedd gan Almer elynion yn ardal Wrecsam - teulu Edwards, New Hall, Y Waun, teulu Puleston Emral a Brereton o Borras. Rhyngddynt dim ond 700 o bleidleisiau oedd ar gael.
Ond roedd ganddynt un fantais fawr gan fod Brereton yn Siryf y Sir a'r siryf oedd yn derbyn y 'writ' i gynnal etholiad ac yn penderfynu amser a lleoliad yr etholiad. John Edwards oedd y cynrychiolydd. Roedd yr etholiad i'w chynnal yn Wrecsam ar 8 Hydref yn Neuadd y Sir (Shire Hall) oedd rhwng Town Hill a High Street. Daeth holl gefnogwyr Almer i Wrecsam yn barod i gyhoeddi'u cefnogaeth i Almer yn Neuadd y Sir. Cyn 8yb mi lanwon nhw Neuadd y Sir gyda'r bwriad o rwystro cefnogwyr Edwards rhag mynd i fewn i bleidleisio a chael y Siryf i gyhoeddi Almer yn fuddugol. Ond roedd cynllun ar droed. Cynhaliwyd cyfarfod gan gefnogwyr Edwards yn nh欧 John Owen yn High Street.
Penderfynodd y Siryf, Brereton, gynnal yr etholiad mewn t欧 ar gyrion Wrecsam, Stansty mae'n bosib, cartref perthynas a chefnogwr i John Edwards. Fe wnaeth hyn heb hysbysebu Almer a'i gefnogwyr ac erbyn iddynt ddarganfod y cynllun a symud o Neuadd y Sir i Stansty roedd holl gefnogwyr Edwards wedi llenwi'r t欧 gan weiddi, "Edwards, Edwards!". Roedd cefnogwyr Almer tu allan yn gweiddi "Almer, Almer!" ond yn methu mynd i fewn i bleidleisio. Felly mae'r Siryf yn cau'r etholiad ac yn cyhoeddi Edwards yn fuddugol. Fe aeth Edwards i'r Senedd i gynrychioli Sir Ddinbych. Aeth Almer 芒'r achos ger bron Llys Siambr y Seren a chyflwyno tystion ond roedd y Senedd wedi cyfarfod, wedi cwblhau'r busnes a'r aelodau wedi dychwelyd i'w cartrefi cyn i'r Llys ddod i benderfyniad.
Roedd etholiad 1588 yn un cynhyrfus iawn a wedi creu diddordeb mawr i bobl Wrecsam er nad oedd ganddynt bleidlais. Rwy'n sicr y byddai'r fath yna o etholiad yn codi llawer mwy o frwdfrydedd heddiw ac fe fyddai aelodau'r wasg yn cael amser wrth eu bodd.
|