大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Y Clawdd
Golyfa yn Vietnam Elen Moore yn Vietnam (parhad)
Parhad hanes taith Elen Moore yn Fietnam. Yma mae'n s么n am ei phrofiadau yn Sapa, gogledd Fietnam.

Ar y siwrne fe wnaethon ni gael y cyfle i orffwys hanner ffordd yn nhy rhai o'r bobl oedd wedi bod yn cerdded gyda ni hyd hyn. Fe wnaethon ni eistedd ar ddarnau o bren ar y llawr yn yr ystafell syml ond cartrefol oedd efo lluniau yr oedd y plant wedi eu tynnu ym mhobman ar y waliau. Ar 么l ychydig mwy o drafod a chwpanau o de gwyrdd fe wnaethon ni gario ymlaen i gerdded.

Yr oedd y golygfeydd yn fendigedig yn cynnwys y l么n uchaf yn y wlad i gyd a nifer o 'waterfalls' anhygoel. Cyn inni ffarwelio gyda'r bobl fe wnaeth y plant roi anrhegion inni yn cynnwys breichledau arian a bagiau wedi eu wneud 芒 llaw.

Cyfnewid rhoddion

Rhoddon ni yr unig beth yr oedd gennym ni ar y pryd sef paced o fisgedi a thwb bychan o 'lip balm' ond yr oeddent yn hynod o ddiolchgar ac yn hapus o gael rhywbeth fel symbol o'n cyfeillgarwch newydd.

Yr oedd yn drist iawn gadael y bobl a oedd wedi bod mor garedig inni trwy gydol y dydd ond fe roddon nhw eu cyfeiriadau inni fel y gallwn sgrifennu atyn nhw a chadw mewn cysylltiad.

Yr oedd yn benwythnos bythgofiadwy ac fe wnaeth pob un ohonom fwynhau pob eiliad. Yr oedd yn bleser hefyd dianc oddi wrth y strydoedd prysur a s诺n y brifddinas am ychydig o ddyddiau. Ond er ein bod wedi bod yn Fietnam am wythnosau yn unig ar y pryd, pan wnaethon ni gyrraedd yn 么l yn Hanoi ar 么l ein penwythnos brysur, yr oedden ni yn teimlo fel ein bod wedi dod adref.

Ymweld 芒'r gogledd

Ar ein penwythnosau rydym yn ceisio gwneud y gorau o'n hamser yma trwy drafeilio i rannau eraill o Ogledd Fietnam. Gyda help ein ffrindiau, disgyblion ac ychydig o ymwybyddiaeth o'r iaith rydym wedi medru mynd i bobman hyd yn hyn heb ddefnyddio 'tour group', yn defnyddio bwsus a threnau cyhoeddus. Gall hyn fod yn brofiad rhyfedd ond doniol iawn ar adegau wrth gwrs.

Maent fel arfer yn llawn dop gyda phobl, plant, ieir a bagiau enfawr o reis hyd y lle! Y mae rhai yn mynd mor bell 芒 hongian oddi ar do'r bws mewn 'hammock' er mwyn cael lle ar y bws!

Ychydig o wythnosau yn 么l fe aethon ni i Mai Chao sydd yn ardal wledig iawn yn Fietnam ac yn hynod o brydferth. Pan wnaethon ni gyrraedd fe aethom ni am dro trwy dawelwch y caeau reis a'r mynyddoedd yn gwylio y bobl o'r 'White Thai Tribe' wrth eu gwaith.

Dim Saesneg

Er ein bod yn hynod o hapus yn byw yn Hanoi, yr oedd yn bleser dianc rhag s诺n y motobeiciau am benwythnos gyfan. Wrth inni gerdded yn bellach fe wnaethon ni gyfarfod nifer o bobl nad oedd yn gallu siarad Saesneg o gwbl, ond fe wnaethon pob un ohonynt ein gwahodd ni i fewn am gwpaned o de gwyrdd.

Ar 么l ychydig fe gawsom ein gwahodd i aros y noson mewn un o'r tai stilit gydag un o'r teuluoedd a oedd yn brofiad bendigedig. Ar 么l gadael ein bagiau yn yr ystafell fe aethon ni i edrych am y farchnad Mai Chao yr oedden wedi clywed amdani gan un o'r athrawon yn Hanoi.

Ond wrth inni gerdded i lawr y grisiau fe wnaethon ni sylweddoli eu bod wedi dod 芒'r farchnad aton ni! Yr oedd rhesi o fagiau, breichledi, sgarffiau a nifer o bethau eraill wedi dod o nunlle ac wedi eu rhoi allan ar ddarnau o bren tu allan i'n hystafell!

Ar 么l prynhawn blinedig o wario arian yn y farchnad fe aethon ni adref lle wnaethon nhw ddod 芒 llond bwrdd o fwyd traddodiadol inni a oedd yn hynod o flasus!

Perfformiad byrfyfyr

Yn dilyn swper fe wnaethon ni sylweddoli eu bod nhw wedi clirio ein bagiau i un ochr o'r ystafell ac yn paratoi i wneud perfformiad inni o ryw fath!

Fe wnaeth y bechgyn hongian drymiau oddi ar y to pren i wneud band bychan ac yna fe wnaeth y merched gychwyn canu a gwneud nifer o wahanol ddawnsiau traddodiadol i'r gerddoriaeth.

Yr oedd yn berfformiad bendigedig a chyn inni sylweddoli beth oedd yn digwydd yr oedden ni hefyd yn rhan o'r dawnsio a'r canu! Yr oedd yn ddiwrnod bendigedig ac yr oedd pob un ohonom ni yn drist iawn i adael. Yr oedd pawb yn y pentref wedi bod mor garedig ac wedi ein gwahodd i fewn i'w cartrefi heb feddwl ddwywaith.

Rwyf wedi mwynhau fy mhedwar mis yn Fietnam fel cyfanwaith mwy nag yr oeddwn wedi meddwl yn bosib a dwi'n edrych ymlaen at ddiflasu pawb efo mwy straeon o fy amser yma pan rydw i'n cyrraedd adref! Gobeithio bod pawb gartref yn Wrecsam yn iawn a gobeithiaf eich gweld cyn bo hir.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy