Mae canolfan siopa newydd Wrecsam wedi agor ar hen safle lle bu gynt ffair geffylau ac wedyn safle archfarchnad ASDA. Hawlier y daw Wrecsam i'r 100 uchaf o ganolfannau siopau Prydain Fawr! Holwyd gan rai paham na roddwyd to gwydr ar y ganolfan er mwyn cysgodi'r ymwelwyr rhag tywydd garw ac oerni? Bydd ar agor hyd hanner nos bob noson gan gynnwys nos Sul, ac ar nos Wener a Sadwrn hyd 2 o'r gloch y bore. Tybed a fydd o fendith i gadw ieuenctid y fro oddi ar y strydoedd, neu ynteu a fydd yn felltith drwy adael iddynt wastraffu mwy o'u hamser yno? Yn 么l y s么n mae cais am agor clwb nos ar hen safle M&S gynt. Tybed a fydd canol yr hen dref yn gwagio efallai ac yn llawn o siopau wedi cau, neu tybed a wnaiff y datblygiad ddenu busnesau newydd i'w llenwi? Mae crefftwaith o waliau llechi i'w hedmygu ac yn creu awyrgylch arbennig yn y ganolfan, yn enwedig o amgylch y rhaeadr d诺r sy'n llifo o ris i ris yn steil y 'Spanish Steps'.
Mae bysus pob chwarter awr ar gael i gario siopwyr o ganol y dref. Clywir cwynion yn barod bod y ganolfan newydd yn rhy bell o orsaf bysus Stryd y Brenin ac o'r canolfannau siopau erall. Beth yw eich barn chi am y ganolfan newydd? Sut ydych chi'n meddwl bydd hi'n effeithio ar ganol tref Wrecsam?
Defnyddiwch y blwch isod i ddweud eich dweud.
|