Fe'u gwelwyd yn marchogaeth ar hyd y ffordd ger Ysgol Fictoria ychydig o wythnosau'n 么l a roeddent yn destun edmygedd y cyhoedd, mae'n wir. Ond a oeddent yn cyflawni unrhyw bwrpas sy'n gwestiwn arall. Gallem feddwl mai'r unig adeg y bydd eu hangen mewn gwirionedd fydd yn ystod gemau p锚l-droed ar y Cae Ras a phur anaml y bydd hynny'n digwydd oherwydd cyn lleied sy'n mynd i gefnogi'r Dreigiau y dyddiau rhain.
Rhaid gofyn y cwestiwn felly, a ellir cyfiawnhau'r gost o 拢200,000 i sefydlu'r gwasanaeth ac yna 拢100,000 i'w redeg yn flynyddol? Go brin, gellid meddwl, a hynny yn wyneb y ffaith fod Pwyllgor Heddlu'r Gogledd wedi gofyn am godiad 0 5% yn yr arian a gant o'r trethi cyffredinol i redeg y gwasanaeth plismona yn y' gogledd yma. Hefyd mae'n debyg y bydd y Pwyllgor yma yn gofyn am 拢100 mil yn ychwaneg eleni dim ond i gwrdd 芒'r gost o geisio integreiddio'r pymtheg mil o fewnfudwyr estron sy wedi ffeindio'u ffordd i Wrecsam yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Cofiwch chi, mae'n braf gweld plismyn iawn o gwmpas y lle, er bod y rheini ar gefn ceffyl. Gallem feddwl fod y mwyafrif ohonynt yn gaeth i'w desgiau y dyddiau hyn, yn ceisio cael gwared o'r mynydd o bapur sy'n eu llethu bron, llawer ohono'n ymwneud a m芒n droseddau y mae'n rhaid i'r plismyn eu cofnodi er mwyn cwrdd 芒 thargedau penodedig. Mae'r stablau ym Mlasdy Erddig ac fe ddadorchuddiwyd plac yno yn ddiweddar gan Richard Brunstrom ar yr achlysur gan Ledi Gladstone, Cadeirydd Clwyd Riding Centre. Cynhaliwyd cystadleuaeth i blant ysgol yr ardal roi enwau ar y pedwar ceffyl-heddlu. Yr enwau buddugol oedd: Alfie/Taliesyn; Storn/Pwyll; Cocoa/Pryderi a Dusty/Rhiannon.
|