Yn wir dealla Seimon mai'r unig aelodau o G么r Meibion Hwlffordd sy'n aelodau o G么r Yr Eisteddfod yw'r pedwar gafodd eu gwahardd o'r c么r. A'u trosedd? Gwrthod rhoi ymrwymiad i sefyll ar eu traed a chanu anthem genedlaethol Lloegr gydag arddeliad mewn cyngherddau. A hynny ym mlwyddyn y Jiwbili. Prin eu bod yn deilwng o dref sy'n gartref i'r arch-Frenhinwr, Dilwyn Miles. Ond na fe, Bois Bach o'r Wlad yw'r pedwar.
Y Gymraeg yn Nhyddewi Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall ei bod yn amhosib dod o hyd i'r un o ddisgyblion unig ysgol gynradd dinas Tyddewi sy'n medru cynnal sgwrs synhwyrol yn y Gymraeg.
Ond na fe am nad oes yna fawr o Gymraeg i'w glywed rhwng y staff pa ddisgwyl sydd i'r disgyblion fedru'r iaith? Mae yna eironi yn y ffaith iddi gael ei henwi'n Ysgol Bro Dewi yn ddiweddar.
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall bod llawer o bobol y diwydiant gwyliau yn ardal Tyddewi o'r farn bod ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst yn dipyn o niwsans.
Roedden nhw, mae'n debyg, wedi awgrymu y dylid ei chynnal naill ai ym mis Mehefin neu ym mis Medi rhag ei bod yn tarfu ar y cyfnod prysur o ran ymwelwyr. Diben penna'r wyl yn eu golwg nhw oedd rhoi hwb i'r diwydiant twristiaeth ar adegau slac ac y dylid felly ei theilwrio at y diben hwnnw.
Anwybyddu'r iaith Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall nad yw Cyngor Sir Penfro, yn wahanol i'r rhelyw o awdurdodau, fyth yn gosod 'yr iaith Gymraeg' yn bwnc trafod ar agenda unrhyw bwyllgor.
Yn 么l yr hyn a ddealla Seimon fe fyddai gwneud hynny yn d芒n ar groen y prif weithredwr. Does yna'r un cynghorydd yn meiddio annerch yr un pwyllgor yn Gymraeg. Yn 么l a ddealla Seimon rhywbeth i'w goddef tan y diwrnod y bydd yn trengi yw'r 'wes,wes' yng ngolwg prif swyddogion yr awdurdod.
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall nad oes yna ddim s么n o werth am ymweliad yr Eisteddfod 芒 Sir Benfro yng nghyhoeddiadau gwyliau niferus y cyngor sir.
Yn 么l yr hyn a ddealla Seimon doedd dim modd perswadio Adran Farchnata yr awdurdod y medrai ymweliad prif wyl ddiwylliannol y genedl apelio at ymwelwyr, boed o wledydd tramor neu o ardaloedd eraill yng Nghymru.
Cais i droi i'r Saesneg Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall bod un o famau plant y fro wedi gweiddi ar yr Archdderwydd i siarad yn Saesneg wrth baratoi ar gyfer un o seremon茂au yr orsedd adeg Y Cyhoeddi. Bu'n rhaid ei goleuo nad oes modd siarad Saesneg oddi ar y Maen Llog ac mai gwyl yn dathlu Cymreictod yw'r Eisteddfod.
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall fod rhai o aelodau C么r yr Eisteddfod yn byw yng Nghaerdydd a bod cymaint ohonyn nhw nes bod yr arweinydd yn medru cyfiawnhau teithio i'r brifddinas i gynnal ymarferion. Oni ddylid ail-enwi'r c么r yn G么r Eisteddfod Tyddewi Caerdydd?
Mae Seimon wedi ei syfrdanu o ddeall nad oes neb wedi olynu Elis Richards fel gohebydd pentref Llainrhyd ddu ar dudalennau Clebran. Mae'n anodd deall fod pentref lle'r arferai cymaint ddigwydd, yn arbennig i aelodau teulu Rhydwaddon, ddim yn cael sylw bellach.
Roedd plismyn yn byw a bod yno ar un adeg yn hebrwng aelodau o deulu Rhydwaddon i rywle neu gilydd. Ble mae'r pentref gyda llaw? Dealla Seimon fod un cyn-olygydd yn arfer dweud wrth drigolion i'r de o Efailwen ei fod rhywle rhwng Trewyddel a Monnington ac wrth drigolion i'r gogledd o Flaenffos ei fod rhywle rhwng Y Gelli a Threfelen, gan adael trigolion Crymych i ddyfalu.
|