Roedd y gystadleuaeth yn agored i blant ysgolion cynradd ar draws gorllewin Cymru ac yr oedd dros 80 o geisiadau wedi eu postio at y beirniad sef Fiona Phillips o GMTV. Wrth ddanfon ei phenderfyniad yn ôl at bwyllgor gwirfoddol yr ŵyl dywedodd Fiona "Yr oedd yn benderfyniad anodd gan fod yr holl geisiadau mor dda. Mi benderfynais ar un Hannah gan ei fod yn syml ac yn drawiadol gan bwysleisio hwyl y diwrnod."
Y wobr oedd tocyn teulu ar gyfer Parc Oakwood a noddwyd gan y cwmni. Yn y llun fe welwn Hannah yn derbyn y wobr gan bwyllgor yr ŵyl. Fe fydd cynllun Hannah nawr yn cael ei roi i fyfyrwyr Coleg Sir Gâr ar gyfer creu Crys T yr ŵyl yn Awst 2006.
Meddau Cadeirydd y Pwyllgor Bill Davies " yr oedd yn wych i weld cymaint o blant yn danfon eu gwaith i mewn i'r gystadleuaeth sydd nawr yn ei thrydedd flwyddyn. Mae'r ŵyl yn ddiwrnod arbennig i'r teulu a gyda'r maes plant yn 3 erw o faint ac yn cynnal Gweithdai Plant, digwyddiadau dawns a ardaloedd chwarae, mae yna wahoddiad pendant i deuluoedd i ddod i'r ŵyl ar y 5ed o Awst."
Mae Hannah yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Clydau sydd ond yn 3 milltir o safle'r ŵyl ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Am fwy o fanylion am yr ŵyl cofiwch ymweld â'r safle we - www.celticbluerock.org.uk
|