大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Y criw ar daith Taith yr Aelwyd
Rhagfyr 2006
O berfformio mewn cyngherddau i ddawnsio mewn clwb nos o i芒 a digon o Vodka, bu taith c么r aelwyd Crymych i wledydd y Baltig yn un pleserus a chofiadwy iawn!
Wedi wythnosau o drefnu ac ymarfer daeth yr amser i ni fynd ar ein taith hir ddisgwyliedig i wledydd y Baltig. Yn wir, roedd yr holl drefniadau ar ran Kevin wrth drefnu'r daith ac ar ran Catrin a Margaret wrth baratoi'r c么r wedi talu ar eu canfed, gan i'r daith fod yn un fythgofiadwy ... mewn sawl ystyr! Er i nifer ohonoch gael blas ar berfformiad y c么r yn ein cyngerdd ar lwyfan Theatr y Gromlech ar yr 16eg Awst, dyma grynodeb o'n taith oherwydd cafwyd tipyn o dalent oddi ar y llwyfan hefyd!

Dydd Mawrth 22/8/06
O'r diwedd dyma'r amser wedi cyrraedd, a phawb wedi ymgynnull ar iard Ysgol y Preseli am 10.00 o'r gloch nos Lun er mwyn mynd i faes awyr Stanstead. Trwy lwc a bendith, llwyddodd yr offerynwyr a Kevin i ddal yr awyren o drwch blewyn wedi iddynt gael trafferth yn mynd drwy'r system ddiogelwch llym. Wedi cyrraedd Tallinn, prifddinas Estonia, dyma ni'n ymlacio ychydig yn y gwesty cyn ein perfformiad cyntaf ar lwyfan awyr agored yn sgw芒r y ddinas. Ond erbyn i ni gyrraedd y sgw芒r, roedd hi'n pistillo bwrw felly bu'n rhaid i ni gysgodi a chanu o dan fwau Neuadd y Ddinas!

Dydd Mercher 23/8/06
Gyda'r tywydd llawer yn well, cawsom gyfle i weld rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd Tallinn drwy fynd ar wibdaith bws. Yn ystod y bore, buom yn ymweld 芒 safle G诺yl Gerdd y ddinas, sydd hefyd wedi bod yn lwyfan i enwogion fel Elton John, Rolling Stones a ch么r Aelwyd Crymych hefyd erbyn hyn! Yna buom yn ymweld 芒 nifer o hen adeiladau Tallinn. Roedd gennym brynhawn rhydd a dewisodd y rhan fwyaf ohonom gerdded o amgylch y ddinas, gan ymlacio mewn un neu ddau o Gafes Tallinn.

Cafwyd noson gofiadwy wrth i ni fentro i 'Troika' ac yn wahanol i'r noson gynt, penderfynodd rhai o'r dynion fanteisio ar y tywydd braf a gwneud perfformiad byrfyfyr cofiadwy ar y llwyfan awyr agored!

Dydd Iau 24/8/06
Dyma ni'n gadael Tallinn ac yn symud i Helsinki, y Ffindir. Siwrnai o awr a hanner oedd gennym ar y Seacat, ac nid oedd y daith arw hon wedi gwneud unrhyw ddaioni i'n stumogau. Wedi cyrraedd yr ochr draw, aethom yn syth i gartref Llysgennad Prydain i'r Ffindir, Dr. Valerie Caton, lle roeddwn yn perfformio mewn derbyniad yno. Aeth y derbyniad yn hynod o lwyddiannus, a braf oedd cael cyfarfod 芒 nifer o'r gwestai a hwythau yn canmol ein perfformiad. Wedi cyrraedd ein gwesty yn Helsinki, aeth nifer i bwll nofio'r gwesty, tra bu'r gweddill yn cael pryd o fwyd yno. Heddiw, clywsom am lwyddiant Betsan yn yr arholiadau TG.A.U. Llongyfarchiadau mawr iddi!

Dydd Gwener 25/8/06
Roedd y bore hwn yn hynod o dwym ac felly aethom am dro o amgylch Helsinki. Cawsom daith ddiddorol iawn dan ofal tywysydd o amgylch Senedd y Ffindir, cyn cael derbyniad swyddogol yn y State Hall lle gwnaethom gwrdd 芒 Dirprwy Brif Weinidog y Senedd. Yn y prynhawn aethom ar daith bws bleserus iawn dan ofal tywysydd o'r enw Lisa y gellir ond ei disgrifio fel 'haden'. Dangosodd Lisa brif atyniadau'r ddinas i ni a bu Sh么n a Dylan yn eu haddysgu hithau am Gymru hefyd! Cawsom gyfle i gerdded o amgylch y farchnad ger yr harbwr oedd yn gwerthu pob math o bethau, a bum fel c么r yn canu'r emyn Finlandia o flaen cofgolofn y cyfansoddwr Sibelius oedd wedi cyfansoddi'r d么n.

Y noson honno, aethom oll i'r 'Zetor Restaurant' lie cawsom bryd o fwyd gwych. Roedd nifer ohonom ar bigau'r drain drwy'r nos wedi inni glywed fod yna glwb nos wedi'i wneud o i芒 yn y ddinas, ac felly penderfynwyd bod rhaid i aelodau h欧n yr Aelwyd roi cynnig arno. Gydag Arwel a Shon ar flaen y gad yn arwain y ffordd, cyrhaeddom y clwb lle bu'n raid i ni wisgo cotiau a menyg am fod y tymheredd yn -5掳C! Er gwaetha'r oerni, cafwyd noson gofiadwy lawn wrth i bawb gael eu synnu gan sgiliau dawnsio Arwel ac Aled!

Nos Sadwrn 26/8/06
Roedd heddiw yn ddiwrnod rhydd i ni gyd. Aeth rhai allan i'r m么r ar daith i weld ynysoedd cyfagos, tra bu eraill yn ymweld ag amrywiaeth o atyniadau Helsinki neu yn siopa. Ond cysgodd Lon hyd 3.00 o'r gloch y prynhawn i wneud lan am yr hyn a gollodd hi neithiwr! Y noson honno, aeth nifer ohonom i Stadiwm Olympaidd Helsinki i wylio'r Ffindir a Sweden yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn athletau. Wedi dychwelyd i'r gwesty cawsom gyfarwyddyd i gael noson dawel, o gofio fod gennym gyngerdd pwysig drannoeth.

Nos Sul 27/8/06
Roedd pawb wedi treulio'r rhan fwyaf o'r dydd yn ymlacio yn y gwesty, ac roedd meddwl pob un ar y gyngerdd y noson honno. Roedd y gyngerdd yn cael ei chynnal yn Temppeliaukion Kirko, sef eglwys sydd wedi'i hadeiladu yn y graig, ac roedd cynulleidfa fawr yno. Roeddem yn canu ar y cyd 芒 Ch么r Sibelius, ac roedd holl aelodau'r c么r hwnnw yn mynychu Academi Sibelius. Mae'r c么r hwn yn enwog ar draws y byd, ac roedd hyn yn amlwg o'i berfformiad.

Cafwyd cyngerdd amrywiol a chynhwysfawr, gyda Morys Rhys yn gwneud gwaith amhrisiadwy wrth drosi o'r Gymraeg i'r Saesneg wrth gyflwyno eitemau. Wrth gwrs, cafwyd perfformiadau gan y c么r cymysg a'r parti merched. Yn ogystal 芒 hynny, cafodd y gynulleidfa ei diddanu gan eitem dawnsio gwerin/clocsio gan Catrin a Nia, ynghyd ag eitemau gan y band gwerin. Cafwyd unawdau swynol gan Trystan, Donna ac Einir, a bu Claire yn swyno pawb wrth chwarae'r delyn. Ond i nifer yn y gynulleidfa, clywed y c么r yn canu'r d么n Finlandia gan Sibelius oedd yr uchafbwynt, a phleser o'r mwyaf oedd clywed pobl yn canmol ein perfformiad wedi'r gyngerdd. Gyda phawb yn hapus 芒'r gyngerdd, aethom gydag aelodau C么r Sibelius yn 么l i'r gwesty am bryd o fwyd.

Dydd Llun 28/8/06
Dyma godi'n fore ar gyfer taith chwe awr mewn tr锚n i St Petersburg, Rwsia. Roedd bolie pawb yn dechrau troi wrth agosau at y ddinas a gweld milltiroedd ar filltiroedd o fflatiau uchel, llwm, a doedd geirie Des "...dyma un o'r dinasoedd mwya' dansierus ..." ddim yn ein cysuro rhyw lawer chwaith! Yn goron ar y cwbl, wedi cyrraedd St Petersburg, cawsom 'groeso cynnes' gan ein gyrrwr bws wrth iddo adael y dasg o lwytho'r holl gesys ar y bws yn nwylo diogel Shon Midway! Roedd y gwesty yn enfawr gyda phob peth dan haul yno ac roedd yr olygfa o'r ddinas o'r ystafelloedd yn anhygoel. Wedi derbyn cyfarwyddyd i aros gyda'n gilydd drwy gydol ein hamser yn y ddinas, penderfynwyd y dylid aros yn y gwesty am y noson gyda nifer yn mynd i weld sioe Rwsieg draddodiadol a oedd yn cael ei chynnal yno. Dyma'r noswaith pan gefais i a Gwen vodka gyda'n swper a ninnau ond wedi gofyn am dd诺r!

Dydd Mawrth 29/8/06
Wedi cael brecwast y gallaf ond ei ddisgrifio fel un 'anarferol' (pwdin reis, quiche a cabej), cawsom daith mewn bws o amgylch St Petersburg. Roedd y profiad o weld adeiladau fel 'Palas y Gaeaf' yn wefreiddiol a bydd yn si诺r o aros yn ein cof ni gyd am byth. Roedd y prynhawn yn rhydd, felly wrth reswm, roedd rhaid i Helen, Margaret ac eraill i fynd i siopa tra aeth y gweddill ohonom i ymweld a chofgolofn Lenin. Roedd llawer ohonom ddim yn gwybod am hanes Lenin, felly cawsom wers hanes gyflym gan Phil Higginson wrth droed y dyn ei hun.

Y noson honno, cawsom bryd o fwyd ar gwch a oedd yn teithio ar hyd afon Neva, a bu DJ Shon Midway, Arwel 'Ifaciwi' Dole a Catrin 'Colli laith' Davies yn ein diddanu. Ac yn wir, parhaodd y canu tan oriau m芒n y bore.

Dydd Mercher 30/8/06
Roedd diwrnod hir o'n blaenau! Daeth 6.00 o'r gloch y bore'n rhy gynnar i rai ohonom, ac ni chafodd Dylan ddigon o amser i baco'r Russian Dolls hyd yn oed! Tr锚n hen-ffasiwn iawn oedd gennym i'n cludo yn 么l i Helsinki, ac felly bu'n rhaid i mi a phump aelod anffodus arall o'r Aelwyd eistedd ar golau ein gilydd am bron i chwe awr! Roedd gweddill y dydd eisoes wedi'i drefnu, ac roedd pryd blasus o gig carw yn ein disgwyl yn Helsinki cyn i ni ddechrau ar ein siwrnai ar y Seacat nol i Tallinn. Gan mai dyma noson olaf y daith, trefnwyd ein bod yn mynd allan am fwyd gyda'n gilydd i fwyty Eidalaidd. Cafwyd noson dawel ar 么l rialtwch ein noson olaf yn St Petersburg, a chyflwynwyd anrhegion i Kevin a Catrin, Margaret a Morys, a Des a Helen am eu gwaith caled wrth drefnu'r daith ac am eu cyfraniad at lwyddiant y cyngherddau.

Roedd y dydd Iau yn dod a'n taith i ben, ac ar y siwrnai o Stanstead i Grymych dyma Morys yn adrodd penillion yn s么n am aelodau a digwyddiadau'r daith. Yn bendant, bu'r holl brofiad yn un buddiol a phleserus i bawb. Gyda threfniadau'r gwestai a'r gweithgareddau dyddiol wedi cwblhau'n drefnus ymlaen llaw, llwyddwyd i sicrhau gwyliau hapus iawn. Ond yn ychwanegol at y trefniadau, roedd cwmn茂aeth dda pawb a oedd ar y daith yn sicrhau gwyliau ardderchog. Edrychwn ymlaen at y daith nesaf!

Gwen Davies a Meleri Thomas


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy