Fe fu'n eisteddfod genedlaethol i'w chofio i Trystan a Gwydion Griffiths, Felinfach, gerllaw Gelli, gan i'r ddau ennill prif wobrau yn ogystal ag ysgoloriaethau i hyrwyddo eu doniau.
Trystan Llyr oedd enillydd Gwobr Rhuban Glas Osborne Roberts ac ysgoloriaeth Côr Meibion Llundain i gantorion rhwng 19 a 25 oed yn ogystal ag Ysgoloriaeth David Lloyd a Jean Skidmore a roddwyd i'r tenor mwyaf addawol.
Dangosodd ei addewid i'r beirniaid trwy ennill yr Unawd Lieder, ei ddyfarnu'n ail yn yr Unawd Oratorio ac yn drydydd yn yr Unawd Gymreig. Cyfanswm y gwobrau ysgoloriaeth oedd £720.
Camp Gwydion Rhys oedd ennill Gwobr Richard Burton yng nghystadleuaeth y Fonolog trwy lefaru darn o waith Aled Jones Williams a chyfieithiad o ddarn gan Jim Cartwright. Dyfarnwyd iddo hefyd Ysgoloriaeth Wilbur Lloyd Roberts sy'n werth £600 i'w wario ar hyfforddiant pellach.
Yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd eleni, enillodd Gwydion y gystadleuaeth Unawd o Sioe Gerdd a thrwy hynny bydd yn cystadlu am Ysgoloriaeth Bryn Terfel yng Nghaerdydd yn yr Hydref.
Tra bydd Gwydion yn paratoi at y gystadleuaeth honno ac yn parhau â'i astudiaethau trydedd flwyddyn yng Ngholeg y Drindod bydd Trystan yn gobeithio ychwanegu at y gwahoddiadau i ganu mewn cyngherddau, a hwyrach perfformio ym mhantomeim Cwmni Mega eleni eto. Mae'n bosib hefyd y bydd yn parhau i chwarae ambell i gêm rygbi fel bachwr dros Grymych neu Hendygwyn.
Fel pe na bai'r fath lwyddiant unigol yn ddigon i'r ddau yn Y Bala roedden nhw hefyd yn aelodau o Gôr Undebol Ar ôl Tri, a enillodd y gystadleuaeth i gorau meibion rhwng 20 a 45 o leisiau am y pumed tro o'r bron, - gyda chymorth eu brawd, Osian, eu tad, Eifion a'u hwncwl, Meredydd!
|