Pan oedd Eirlys yn bymtheg oed symudodd y teulu i Gastell Newydd Emlyn, gan i'w thad dderbyn galwad i weinidogaethu ym Methesda Ponthirwaun, Trewen a Bryngwyn.
Wedi treulio cyfnod yng Ngholeg Hyfforddi Abertawe daeth Eirlys yn athrawes gynradd i Grymych yn ystod cyfnod Mr W D. Williams. Yna symudodd i sefydlu Uned Arbennig yn Abergwaun ac wedi hynny yng Nghrymych. Creodd Ganolfan Arbennig yn Ysgol Eglwyswen ac yno gorffennodd ei gyrfa ddysgu yn 1985. Heb ei hymdrechion byddai Addysg Arbennig
y Sir wedi bod yn dlotach o lawer.
Tu allan i'w chyfrifoldebau gwaith, ymrwymodd Eirlys, fel ei thad o'i blaen i gefnogi nifer o fudiadau cenedlaethol. Roedd yn aelod brwdfrydig o Blaid Cymru ac roedd wedi'i dyrchafu i Urdd Derwydd yng Ngorsedd y Beirdd. Bu'n weithgar tu hwnt i fudiad Merched y Wawr yn y Sir. Hi oedd cadeirydd, presennol y Pwyllgor Rhanbarth. Bu hefyd yn Llywydd Cenedlaethol y Mudiad o 1984 i 86. Bu'n aelod o dîm Merched y Wawr ar Dalwrn y Beirdd ac nid rhyfedd wrth ddarllen detholiad o'i gwaith. Ymhlith y cerddi hynny mae dwy delyneg sensitif iawn yn tystio i'w cholled enbyd pan fu farw ei phriod Geraint ar drothwy'r Nadolig 1987 ar ôl bron i 34 blynedd o fywyd priodasol.
Ond nid gwraig i ymroi i hunan dosturi mohoni. Daliodd ati i frwydro dros hawliau teg i ddisgyblion ag anawsterau dysgu a chlymu hynny a'i gwaith gyda Mudiad Ysgolion Meithrin fel Cysylltydd Cynllun Cyfeirio. Nid brwydrau addysgol yn unigoedd y rhain i Eirlys and brwydrau personol hefyd. Roedd yn fam a oedd yn fawr ei gofal dros ei merched, yn arbennig Non. Roedd pob brwydr a enillai drosti hi'n sicrhau gwell cyfle i blentyn ac oedolyn ifanc arall mewn sefyllfa debyg. Bu'n fam-gu ac yn ffrind gariadus i'w hwyrion, Rhydian, Osian ac Eurgain Haf a oedd yn gannwyll ei llygaid.
Yn y blynyddoedd diwethaf hyn gweithiodd yn ddiflino mewn perthynas a Dolen Cymru Lesotho, gan deithio i'r wlad i weld yr angen drosti ei hun. Ymdrechodd i gynorthwyo drwy drefnu casgliadau, anfon peiriannau gwnio a defnyddiau yno ac agor drws ei chartref ar nifer o achlysuron i bobl a ddeuai o Lesotho i Gymru. Nid arbedodd ei hun wrth weithio dros yr achos hwn a thrwy hynny wneud gwyrthiau'n bosibl.
Roedd Eirlys yn gymeriad crwn a ffraeth, yn gwmniwraig ddifyr a deallus, yn ddarllenwraig eang, yn ifanc ei ffordd ac yn hoff o chwerthin iach. Daliodd ei brwdfrydedd dros hawliau dynol ledled daear a hefyd dros ei chymuned, ei Chymru a'r Gymraeg hyd y diwedd. Pa ryfedd taw Dafydd Iwan oedd ei hoff ganwr a hithau'n gallu uniaethu â geiriau cymaint o'i ganeuon? Boed i ni gael ein hysbrydoli gan ei llafur hi. Yng ngeiriau Dafydd Iwan:
"Cydiwn yn dy freuddwyd, a chofiwn dy neges di.
A chodwn y Gymru newydd ar ddaear ein Cymru ni."
Mae teyrnged i Eirlys Peris Davies gan Wyn Owens, bardd ac arlunydd o fro'r Preseli yn rhifyn Hydref 2007 o Clebran./p>
|