大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Baner Canada Croeso Cymreig yn Vancouver
Chwefror 2008
Yn ystod mis Hydref cafodd parti o ryw naw ohonom y pleser o ymuno 芒 Chymdeithas Gymraeg Vancouver i ddathlu 100 mlynedd ers i'r Gymdeithas gael ei sefydlu.

Mae'r Gymdeithas yn ffodus iawn ei bod yn berchen neuadd hyfryd, sef "Neuadd Cambrian", 17th Ave. Main. Cafodd y neuadd ei hadeiladu gan wirfoddolwyr ac ariannwyd gan aelodau o Gymru a ymfudodd i Vancouver. Roedd Vancouver yn le poblogaidd iawn i ymfudwyr yn ystod dechrau yr ugeinfed ganrif. Agorwyd Neuadd Cambrian ar y cyntaf o Fedi 1929 gyda chyngerdd arbennig.

O hynny ymlaen aeth y Gymdeithas o nerth i nerth, gyda mwy a mwy o aelodau fel y profwyd i ni yn ystod ein ymweliad. Ceisiaf roi braslun i chi o'r gweithgareddau. Teimlaf fel rhannu ein profiadau gan ei bod wedi bod yn brofiad hyfryd i weld fod Cymry oddi cartref mor frwdfrydig dros yr iaith.

Ar y nos Iau, Tachwedd y cyntaf, cynhaliwyd Noson Lawen gyda'r rhan fwyaf o'r aelodau yn cymryd rhan, rhai yn darllen barddoniaeth, eraill yn canu, a gorfod i ni ffurfio parti bach yn ddirybudd!! Wrth gwrs, roedd y croeso mor dwymgalon fel nad oedd neb yn cael mynd heb rannu o'r "te bach". Hyfryd oedd cael noson hollol Gymreig mor bell o adref, gyda'r rhan fwyaf o'r aelodau yn rhugl yn y Gymraeg.

Mae'r Gymdeithas yn ffodus fod ganddynt ddau G么r Bechgyn yn aelodau, sef C么r Meibion Orpheus Vancouver a Ch么r Meibion Cymraeg Vancouver. Ar y nos Wener, gan fod cymaint o docynnau wedi'u gwerthu, bu raid iddynt logi Neuadd Michael J. Fox ac yr oedd yn orlawn. Cafwyd noson lewyrchus dros ben a phleser mawr i ni oedd cael clywed yr unawdydd, sef Eifion Thomas, arweinydd poblogaidd C么r Bechgyn Llanelli. Yr oedd Eifion wedi cael ei ddewis yn 诺r gwadd dros y dathliadau i gyd, ac yr oedd ei bersonoliaeth yn llanw y lle.

Noson arbennig iawn oedd nos Sadwrn pan fuom yn dathlu gyda "Banquet". Roedd y bwyd wedi ei drefnu ymlaen llaw, gan fod ganddynt ddwy ystafell yn y neuadd, sef llawr a llofft, yr oedd digon o le i bawb, sef tua cant a hanner ohonom, i fwyta gyda'n gilydd. Uchafbwynt y noson oedd torri y gacen dathlu gan aelod hynaf y Gymdeithas, sef Phyllis Owens, yn 93 oed. Hi oedd un o'r aelodau cyntaf.

Bore Sul cynhaliwyd gwasanaeth dwyieithog yn y Neuadd. Cynhelir gwasanaeth yno unwaith bob mis. Eto roedd y neuadd yn llawn, ac am fod y Gymanfa Ganu yn cael ei chynnal am 2.00 o'r gloch, roedd y gwragedd wedi paratoi cinio i bawb. Y Gymanfa Ganu oedd uchafbwynt y dathlu i mi. Gwnaethom gwrdd 芒 Chymry o bob rhan o Ganada. Yr oedd Cymry yno wedi teithio cymaint a chan milltir, ac yr oeddynt wrth eu bodd. Arweiniodd Eifion Thomas gyda llawer o hwyl, ac er nad oedd llawer o'r gynulleidfa yn deall popeth, cadwyd y cyhoeddi emynau yn Gymraeg.

Ni wnawn byth anghofio y croeso Cymreig a gawsom gan aelodau y gymdeithas, a dymunwn yn dda iddynt i'r dyfodol. Gyda brwdfrydedd fel a welsom, rhaid i'r Gymdeithas lewyrchu i'r dyfodol. Os oes diddordeb gan rywrai, dyma eu cyfeiriad ar y we: www.welshsociety.com.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy