大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Des a Helen Davies Tlws i b芒r gweithgar
09 Mehefin 2003
Gwr a gwraig o Sir Benfro yw enillwyr gwobr yr Urdd am wasanaeth i ieuenctid eleni. Cyflwynwyd Tlws John a Ceridwen Hughes i Des a Helen Davies o Grymych ym Mhafiliwn yr Eisteddfod nos Lun.

Daeth y wobr ar yr union flwyddyn y mae Aelwyd yr Urdd y maen nhw'n ei harwain yn dathlu ei thrigain oed.

Ond prysurodd Helen a Des i ddweud nad gwobr iddyn nhw yn bersonol oedd hon ond i'r t卯m o weithwyr sydd wedi gwneud Aelwyd Crymych yn un mor arbennig dros y blynyddoedd. Mae'r tlws yn cael ei rhoi bob blwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru.

Noddir ef gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu rhieni gan mai ieuenctid a'u datblygiad oedd eu diddordeb mawr.

Wrthi drwy'r flwyddyn
Bu Des a Helen yn arian byw yn ardal Crymych ers blynyddoedd lawer gan ddod yn adnabyddus trwy Gymru, nid yn unig ymhlith dilynwyr Eisteddfod yr Urdd ond gweithgareddau eraill y mudiad fel p锚l-droed a chwaraeon. Drannoeth dyfarnu'r tlws yr oedd Des yn teithio gyda th卯m p锚l-droed yr aelwyd i chwarae mewn gornest fyd yn Llydaw.

Pwysleisiodd y ddau bwysigrwydd gynnig dewis eang o weithgareddau i bobl ifanc. "Mae Aelwyd Crymych yn aelwyd gydol y flwyddyn. Nid un sydd yn gweithio'n unig ar gyfer yr Eisteddfod ydi hi ond mae gennym ni weithgareddau drwy'r flwyddyn," meddai Des.

'Dewch yn 么l'
Un o Abercych ydi Des yn wreiddiol a Helen o Grymych. Wedi cyfnod o ddysgu yn y Trallwng ar 么l gadael coleg, dychwelodd y ddau i fyw i Sir Benfro. A'u hap锚l i ieuenctid yr ardal yn yr Eisteddfod oedd am iddynt hwythau ddychwelyd i'w bro i godi teulu.

"Ewch ar bob cyfrif i weld y byd a theithio ond dowch yn 么l i fagu teulu, meddai Helen. Bu'r ddau yn arweinyddion yr Aelwyd yng Nghrymych er 1972 ond Helen wedi bod yn aelod gweithgar a brwdfrydig o'r Aelwyd yn ystod y 1950au a'r 1960au hefyd. Mae'r ddau wedi bod ynghlwm ag ysgrifennu sgriptiau nosweithiau llawen a rhaglenni nodwedd yr Aelwyd ar gyfer Eisteddfodau'r Urdd ers blynyddoedd.

Mae Helen yn diddori'n fawr yn trefnu gwisgoedd a choluro, ac mae wedi treulio oriau yn chwilio, prynu a gwn茂o gwisgoedd ar gyfer dram芒u a nosweithiau llawen yr Aelwyd, yn wir hi yw Meistres gwisgoedd Aelwyd Crymych. Helen fu'n bennaf gyfrifol am wisgoedd sioeau ieuenctid Eisteddfod Bro'r Preseli 1995, a phasiant y plant yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002. Bu Helen yn mynd o gwmpas adrannau ac Aelwydydd yr Urdd yn rhannu ei dawn celf a chrefft a choluro.

Bu Des yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Bro Preseli yn 1995. Mae Des a Helen wedi trefnu nifer o deithiau cyfnewid i Lydaw gyda'r Aelwyd hefyd, ynghyd 芒 threfnu nifer o weithgareddau amrywiol i godi arian at achosion da. "Ni allaf feddwl am neb sy'n haeddu'r anrhydedd hwn yn fwy na Des a Helen," meddai Catrin Davies ar ran Aelwyd Crymych.

Stori o safle gwe Urdd03 ar 大象传媒 Cymru'r Byd, a phapur bro Clebran.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy