´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Llun cyffredinol o rasiwr ceir Raswr Rosebush!
Gorffennaf 2004
Mae ardal y Preselau yn fagwrfa i yrwyr ceir rasio, ac wedi cynhyrchu sawl pencampwr dros y blynyddoedd - gan gynnwys Alistair Dent o Rosebush.
Ef yw un o'r diweddaraf ar y rhestr honno, gan mai ef yw pencampwr presennol rasio ceir 500cc Prydain, a deilydd Tlws John Parker am y gyrrwr gorau yn ei ddosbarth.

Rasio ceir hanesyddol lan bryniau yw camp Alistair ac mae'n teithio ledled Prydain i rasio ei Hornet JAP gan hyd yn oed gystadlu yn erbyn ei dad!

Dechreuodd rasio ceir 500cc yn 1946, fel ffordd o geisio annog rasio ceir rhatach, drwy ddefnyddio injan beiciau modur 500cc yn lle peiriannau mwy pwerus. Yna, dechreuodd cystadlaethau rhyngwladol Fformiwla 3 yn 1950.

Mae llawer o enwogion y byd rasio wedi defnyddio ceir 500cc gan gynnwys Stirling Moss a Ken Tyrrell, a bellach mae Mudiad Perchnogion y 500 yn hyrwyddo rasio a dringo bryniau i geir hanesyddol a rhai modern.

Mae rasio ceir yng ngwaed Alistair, gan fod ei dad John hefyd yn yrrwr brwd. "R'on i'n cael fy llusgo i ble bynnag oedd e'n mynd!" meddai Alistair. "Cynigodd e i fi yrru ei gar sbâr ryw bymtheg mlynedd yn ôl, a ddechreues i gystadlu."

Wrth i ddiddordeb Alistair gynyddu, ac wrth iddo brofi llwyddiant wrth rasio fe brynodd ei gar ei hun, sef Hornet JAP a adeiladwyd yn 1948. Er iddo rasio mewn cystadlaethau 4x4 traws gwlad, y ceir 500cc oedd yn apelio fwyaf ato, ac mae ei ymroddiad i rasio a pharatoi ar gyfer rasus wedi talu ar ei ganfed.

"Roedd e'n deimlad da i ennill" Alistair. "Roedd e'n dymor lle casglodd y car bwyntiau'n rheolaidd, a hwnnw enillodd y bencampwriaeth i fi."

Erbynn hyn mae modd rasio lan bryniau yn Sir Benfro hefyd, gyda ras yn cael ei chynnal ym Mharc Gwledig Llysyfran. Enillodd Alistair y ras hon eleni, a gorffen gyda'r amser cyflymaf erioed am ddringo rhiw troellog Llysyfran, a hynny o dros ddwy eiliad!

"Roedd e'n deimlad arbennig i ennill y ras 'na" meddai Alistair, "yn enwedig gan ei bod hi'n cario pwyntiau ar gyfer y bencampwriaeth, a gan ei bod yn ras leol i fi."

Mae Alistair wedi cael cryn dipyn o lwyddiant dros y tymor diwetha' ond dyw pethau ddim yn fêl i gyd bob tro. Unwaith, fe deithiodd i Ddyfnaint ar gyfer penwythnos o rasio lan bryniau, a chael damwain ar y bore cyntaf.

"Wnes i fwrw mewn i'r bancyn ar y bore Sadwrn, a dyna ddiwedd rasio'r dydd i fi, " meddai. "Wnes i niwed i'r suspension blaen ond ffeindies i ddarnau sbâr yng Nghernyw felly wnes i yrru rhyw militir i gasglu'r darn a'i ffitio fel bod popeth yn barod i rasio erbyn y bore Sul! Des i'n ail hefyd!"

Gyda'r tymor newydd wedi dechrau a'r llwyddiant yn Llysyfran eisioes wedi'i sicrhau, mae Alistair yn gobeithio am fwy o lwyddiant eleni.

"Byddai mwy o'r un peth yn dda!" meddai Alistair gan chwerthin."Dw i'n gobeithio ennill y bencampwriaeth eto a chael llwyddiant yn y bencampwriaeth gwibio hefyd."

Pob lwc i Alistair dros y tymor sydd i ddod a gobeithio y daw mwy o gwpanau a llwyddiant i'r raswr o Rosebush!"


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý