大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Catrin Finch Catrin Finch yn Llandudoch
Ebrill 2006
Bydd Catrin Finch, un o delynorion gorau'r byd, yn perfformio mewn cyngerdd awyr agored yn Abaty Llandudoch ar Fai 7, 2006.

  • Cliciwch yma i weld lluniau o 糯yl Llandudoch 2006

    Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, datblygodd Catrin i fod yn artist blaenllaw ym myd cerddoriaeth. Teithiodd ar draws y byd, gan ryfeddu miloedd o bobl gyda'i dawn ryfeddol ar y delyn. Ar ei chyfaddefiad ei hunan, nid perfformio yw ei hunig fwriad. "Rwyf eisiau rhoi delwedd fodern, newydd i'r delyn," meddai, "a chwalu'r darlun ohoni fel offeryn hen ffasiwn."

    Bydd yn dod 芒 gr诺p offerynnol o ffrindiau gyda hi i'w chefnogi, a bydd y c么r adnabyddus Cytgan - sy'n nodedig am berfformio heb arweinydd - hefyd yn rhannu'r llwyfan gyda hi. Ffurfiwyd y c么r nodedig hwn gan gyn-aelodau C么r Ieuenctid Cymru.

    Bydd G诺yl Llandudoch yn digwydd eleni rhwng Mai 7 a Mai 21, ac mae'r rhaglen yn fwy uchelgeisiol nag o'r blaen. Yn ogystal 芒 Catrin Finch, bydd C么r Ysgol Gerdd Ceredigion hefyd yn cynnal cyngerdd yn yr abaty yn ystod yr 诺yl, ar Ddydd Sadwrn, Mai 13. Mae Islwyn Evans, Cyfarwyddwr Cerdd y c么r, yn hoff iawn o'r abaty fel safle i gyngerdd. Dyma g么r sydd wedi hen ennill ei blwyf yng Nghymru a thu hwnt, ac un sy'n llwyddo i wefreiddio cynulleidfa dro ar 么l tro. Yn ogystal 芒'r ddau gyngerdd awyr agored, bydd digwyddiadau eraill hefyd.

    Ar nos Fercher, Mai 10 bydd cyfle arall i weld y ddrama 'Linda, Gwraig Waldo' o waith Euros Lewis a enillodd cymaint o ganmoliaeth pan fu ar daith yng Ngheredigion a Phenfro rai wythnosau n么l. Nos Wener, Mai 12 noson o ganu anffurfiol yng nghwmni C么r Meibion Blaenporth ar y Netpwl, gerllaw'r Teifi Inn. Dylai hon fod yn noson hwyliog a cherddorol yng nghwmni un o'n corau lleol. Digwyddiad newydd i'r 糯yl eleni yw Gig yr 糯yl. Nos Sadwrn, Mai 13 bydd pedwar o grwpiau modern 芒 chysylltiadau 芒'r ardal yma yn perfformio mewn noson gyda'i gilydd Mattoidz, Ha Kome, Garej Dolwen a Pala. Arbrawf newydd i geisio rhoi'r ieuenctid yng nghanol y gweithgareddau.

    Caiff cystadlaethau llenyddol Eisteddfod Llandudoch eu beirniadu gan Mererid Hopwood mewn noson o Lenydda - cystadleuaeth Talwrn y Beirdd, fydd yn digwydd ar Nos Fercher, Mai 17. Bydd pedwar o d卯mau Talwrn yn ymgiprys eleni dan law ofalus ein meuryn, y Prifardd Dic Jones.

    Bydd yr eisteddfod ei hun yn digwydd ar Ddydd Sadwrn Mai 20. Mae cystadleuaeth C么r Llandudoch yn parhau eleni eto, gan gynnig 拢1000 i'r enillydd. Cynigir gwobrau da hefyd yng nghystadlaethau unigol yr eisteddfod. Dylai hon fod yn noson o gystadlu o safon uchel iawn gan berfformwyr profiadol.

    "Dyma'r 诺yl mwyaf uchelgeisiol hyd yma," meddai John Davies, cadeirydd Cymdeithas Llandudoch, "ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r torfeydd i Landudoch i fwynhau'r adloniant o'r radd flaenaf sydd wedi ei drefnu ar eu cyfer. Nid yn aml y cawn ni'r cyfle i groesawu artistiaid o safon Catrin Finch i'r rhan yma o'r wlad."

    Rhifau cyswllt:
    Terwyn Tomos : 01239 612928 (07815 552672)
    John Davies: 01239 614543
    Rosemary Davies: 01239 612030


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

    Sylw:




    Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy