´óÏó´«Ã½

Explore the ´óÏó´«Ã½
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

´óÏó´«Ã½ Homepage
´óÏó´«Ã½ Cymru
´óÏó´«Ã½ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

´óÏó´«Ã½ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Clebran
Gŵyl roc Gŵyl roc y garreg las
Hydref 2005
Mae'r reddf i ddathlu mor hen â'r mynyddodd, ac yn wir y reddf i ailddarganfod ysbryd y dathliadau cymunedol, fel yr adeg dod mewn â'r gwair, a wnaeth roi'r syniad i fi am gynnal gŵyl fel yr ŵyl roc yma ar dir fferm Trefawr yn Llanfyrnach.

Ers blynyddoedd mae'r syniad wedi bod yn troi yng nghefn fy meddwl ac ar ôl gweld gwahanol fudiadau a grwpiau yn ceisio gwneud rhywbeth tebyg, felly dyma fi yn bwrw ati. Fe ddaeth cyfnod rhai blynyddoedd yn ôl ble yr oeddwn yn meddwl rhoi'r gorau i'r syniad o gael gŵyl o'r fath, ond dyma fy mam yn fy annog i gynnal y digwyddiad neu byddem yn siŵr o ddifaru am weddill fy mywyd.

Ac felly bwrw ati yn 2003 i gynnal y digwyddiad cyntaf. Yr oeddwn yn dipyn o nofydd ar y busnes a rhaid dweud, ar ôl trefnu'r un cyntaf dyma fi yn meddwl dyna ni, dim rhagor! Ond yn 2004 dyma ffactorau eraill yn dod i'r amlwg gyda nifer o bobl leol gyda phrofiad yn y maes trefniad gŵyl cymunedol yn cysylltu ac yn cynnig cymorth. Hefyd gyda'r ysgol gynradd yn Hermon yn ymgyrchu i gadw ar agor dyma gyfle hefyd i godi arian tuag at y costau cyfreithiol.

Felly bwrw ati a chael y pleser mwyaf o weld cymaint o bobl yn tynnu at ei gilydd i greu yr ŵyl yn 2004. Nifer fawr o stiwardiaid, bandiau a threfnwyr yn rhoi o'u hamser i greu gŵyl gymunedol go iawn wedi ei hadeiladu ar sail wirfoddol o'r gymdeithas leol.

Yn ystod yr un cyfnod fe wnaeth yr awdurdod lleol gynnal arolwg ymysg pobl ifanc y sir i weld beth yn gwmws a oedd pobl ifanc yn dymuno cael. Y casgliadau mwyaf oedd bod pobl ifanc yn dymuno cael rhywle i fynd i wrando ar fandiau yn chwarae yn fyw a hefyd bod bandiau ifanc yn dymuno cael rhywle i chwarae yn lleol o flaen gynulleidfa fyw. Felly rheswm eto am ddatblygu y syniad o'r fenter Roc y Garreg Las.

Erbyn heddiw mae'r fenter wedi ei chofrestru fel cwmni cyfyngedig drwv warrant a nawr yn cael ei chofrestru fel elusen.Felly i sôn am y datblygiadau pellach am lwyddiant yr Ŵyl am 2005. Fe welwyd dros 5,000 o bobl yn ymweld â'r ŵyl eleni, nifer fawr yn aros a gwersylla dros y nos Wener ar y 5ed o Awst. Bu cyfle i osod 4 llwyfan perfformio a dros 40 o fandiau yn perfformio eleni, y rhan fwyaf yn lleol gydag un neu ddau genedlaethol ac un band Gwyddeleg.

Rhaid cofio bod yr egwyddor gymunedol eto yn fyw a bod pawb wedi gwirfoddoli i ddod i chwarae yn yr ŵyl. Yn yr un modd roedd yna dros 80 o stiwardiaid, trefnwyr ac unigolion eraill yn rhoi cymorth gwirfoddol i'r ŵyl eleni eto, a hoffem ddiolch i bawb am eu parodrwydd i roi o'u hamser. Fel y llynedd roedd yna nifer o weithgareddau ar draws y 28 erw ble gynhaliwyd yr ŵyl: ardal gweithgareddau'r plant, bandiau Samba, Ceffyl Mecanyddol yn Taflu tân, ardal Eco, stondinau crefftau, arddangosfeydd, cerfluniaeth, gweithdai pypedau.

Yr oedd pawb a siarades gyda yn meddwl bod yr ŵyl wedi datblygu yn sylweddol a bod pob clod i'r trefnwyr a'r gweithwyr gwirfoddol am sicrhau proffesiynoldeb y digwyddiad cymunedol yma. Hyd yn oed yr awdurdodau heddlu ac adran trwyddedau adloniant cyhoeddus yn canmol dulliau hyfforddi'r stiwardiaid a chanllawiau diogelwch.

O ran ymrwymiad yr ŵyl tuag at werthoedd cymdeithasol ac amgylcheddol mae ein nod i annog pawb i rannu moduron wedi gweithio yn dda gyda'r anogaeth o gost parcio o £10 y modur fel yr unig gost o fynediad i'r ŵyl. Yna unrhyw un ar feic neu yn cerdded yn cael mynediad am ddim. Ein nod wrth gwrs yw cael pawb i feddwl am yr effaith mae ein moduron yn cael ar hinsawdd ein byd ac i arbed teithio yn unigol mewn modur. Rhaid i ni gyd i wneud ymdrech i ddiogelu dyfodol y blaned i'r cenedlaethau sydd i ddod.

Yn 2004 fe welodd mam, a oedd yn 81 oed, fy mreuddwyd yn cael ei gwireddu ac yn wir fe wnaeth hi fy helpu drwy fod yna yn fferm Dretawr i ateb y ffôn a derbyn yr holl barseli ac offer pan yr oeddwn i wrth fy ngwaith. Yr oeddwn yn siŵr bod hi yn gwybod mwy am yr ŵyl na finne.

Yn drist iawn fe wnaeth fy mam farw eleni ac ni gaeth cyfle i weld y datblygiadau pellach, ond yn sicr fydd y weledigaeth a'r ymrwymiad sydd wedi ac yn dal i fodoli yn Trefawrac ar draws yr ardal yn sicr o weld GwÅ·l Roc y Garreg Las yn datblygu i chwarae rhan bwysicach fyth wrth roi cyfle i bobl ifanc i wireddu eu breuddwydion hwy hefyd.

Bill Davies
Fferm Trefawr, Llanfyrnach


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r ´óÏó´«Ã½ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
´óÏó´«Ã½ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the ´óÏó´«Ã½ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý