大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Y diweddar Brian Williams Cofio Brian Dandderwen
Mawrth 2007
Syfrdanwyd cymdogaeth gyfan yn Llangolman a thu hwnt gan farwolaeth ddisyfyd y ffermwr ifanc, Richard Brian Williams, ac yntau yn 46 oed ym mlodau ei ddyddiau, ar Chwefror 7, 2007.

Nid ai'r un diwrnod heibio pan na fyddai wedi cyflawni diwrnod caled o waith ond, ar yr un pryd, heb fod yn rhy brysur i gadw llygad ar anghenion cymdogion. Gwyddai'n dda beth oedd defnyddio nerth b么n braich yn ddyddiol a hynny er mwyn cyflawni cymwynasau yn ogystal 芒 chyflawni ei ddyletswyddau ei hun. Tawelodd y tractor ar glos Dandderwen. Edrydd pawb eu straeon am gymwyn卢asgarwch a chyfeillgarwch y g诺r garw ei ffordd ond tyner ei galon.

Syfrdanwyd y frawdoliaeth rygbi yng Nghastell-nedd a thu hwnt gan farwolaeth annhymig y cyn-chwaraewr rhyngwladol na fu ei debyg o ran cadw'n heini. Roedd y dorf enfawr yn ei arwyl yng Nghapel Blaenconin ar Chwefror 14, a nifer llethol ohonyn nhw o Gwm-nedd, yn tystio i'r parch oedd iddo fel chwaraewr digymrodedd ar y cae ac fel cymeriad unigryw oddi arno.

Er i Gymru golli ar y pum achlysur y bu Brian yn cynrychioli ei wlad yn 1990-91 enillodd yntau lu o edmygwyr am ei ymrwymiad a'i allu i wrthsefyll y cryfaf o'i wrthwynebwyr. Yn hynny o beth roedd eisoes yn arwr ar y Gnoll.

Doedd ildio ddim yn rhan o eirfa Brian pa beth bynnag a wnai a phrin y byddai yfory'n gwneud y tro i gwblhau'r dasg os oedd cetyn o heddiw yn dal ar 么l. A byddai'n gawr yn yr hyn a wn芒i. Arwain yn hytrach na dilyn oedd ei arwyddair. Doedd dim angen ei gymell i gyflawni uchelgais. Doedd dim rhwystrau'n bod. Pa angen campfa ac offer drudfawr i gryfhau'r coesau air breichiau pan fedrai seiclo i Faenclochog a n么l heb sedd ar y beic a gwthio whilber yn llawn o frics heb wynt yn y teiar i Langolman a n么l?

Mae'r straeon am ei arwriaeth yn ystod y cyfnod o ddeuddeng mlynedd y bu'n chwarae dros y Duon yng Nghastell-nedd eisoes yn lleng. Pa chwaraewr arall fyddai'n cyrraedd ar gyfer ymarfer heb boeni bod gwynt y beudy wedi'i ddilyn? Doedd neb tebyg iddo am ddefnyddio'r breichiau cryfion yna i rwygo'r bel o ryc, a phetai o fewn ychydig lathenni i'r llinell gais, pwy feiddiai ei atal rhag ei daearu? A gwyddai'r cefnogwyr mai siarad plaen, gonest, di-flewyn ar dafod, a ddeuai o enau'r crest main mewn crys-t, waeth pa mor oer oedd yr hin, ar 么l y g锚m. Rhyfeddent at ei anallu i werthfawrogi diben cefnwyr ar y cae rygbi i'r un graddau ag y rhyfeddent at ei straeon am yr hyn a ddigwyddai ym myd dirgel y rheng flaen.

Tebyg y byddai Tomos Rees, Carnabwth, ac yntau wedi bod yn ddau enaid cytun. Perthynai cadernid a chonsyrn am ddyfodol y filltir sgw芒r i gyfansoddiad y ddau. Gwelodd Cymru chwaraewr rygbi rhyngwladol nad oedd fyth le i amau ei deyrngarwch na'i ymroddiad. Collodd Llangolman air cylch gymwynaswr parod, cyfaill da a chymydog triw.

Erys y w锚n ddireidus yna a ddeuai gyda phob cyfarchiad yn wynebau ei rocesi. Wrth gydymdeimlo 芒'i weddw, Gwen, ynghyd 芒 Mari a Betsan, air teulu cyfan, tra byddan nhw'n tafoli'r golled, dymunir nerth a rhwyddineb iddynt yn y dyfodol.

Hefin Wyn


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy