大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Clebran
Y criw oedd yn codi arian Bananas, beics a blisters!
Gorffennaf 2008
Bu criw o dros drideg yn codi arian drwy gymryd rhan mewn taith seiclo yn enw Clwb Rygbi Crymych.

Ddydd Sadwrn, 28ain o Fehefin, mentrodd un ar ddeg ar hugain o feicwyr dewr ar daith seiclo noddedig yn enw Adran Iau Clwb Rygbi Crymych. Bwriad y daith oedd codi arian at Ymatebydd Cyntaf Crymych ac Ambiwlans Awyr Cymru sydd wedi bod o gymorth mawr i chwaraewyr ifanc y clwb dros sawl blwyddyn bellach.

Trefnwyd y diwrnod gan Euros Edwards a Kevin Phillips gyda chymorth parod nifer o bentrefwyr a noddwyr Ileol ynghyd ag aelodau'r Clwb Rygbi. Shelley Reynolds fu'n gyfrifol am y gwaith papur - posteri, ffurflenni noddi ac ati a diolch iddi am ei chymorth. Noddwyd y crysau T gan Teiars Evans (Hermon), Tudur Lewis Saer Coed, Cwmni Ardion (Eifion Howells a Richard Williams) ac 'EPL designs'.

Yn ogystal bu Carwyn Teiars a Carwyn Cbs (J.K.) yn gymorth mawr ar hyd y daith. Roedd Carwyn Clos a'i fwndel o fananas yn olygfa cyfarwydd ar hyd yr hewl rhwng Tregaron a Chrymych. Diolch yn fawr iddo am el fananas, ei j么cs a'i gefnogaeth.

Cafodd y beics eu carto gan Kevin Coynant i'r man cychwyn yn Nhregaron - llwyth o feics yn lle llwyth o dda yn yr horsbocs. Diolch i Brian Garej am lenwi'r tanc. Dymuna'r bois ddiolch i Midway Motors hefyd am roi defnydd o fws yn rhad ac am ddim er mwyn cludo'r seiclwyr i Dregaron - a diolch i Tudur am ddreifio'r bws! Bu cymorth Elvis a Lyn hefyd yn werthfawr wrth gyfarwyddo'r seiclwyr ar hyd yr hewl, tynnu lluniau a rhoi gair o gefnogaeth i'r coesau blinedig.

Bu dynion t芒n gorsafoedd Tregaron, Llandysul a Chastell Newydd Emlyn yn ddigon parod i agor y drysau ar gyfer cynnig lle diogel i'r beicwyr orffwyso a stwffio rhagor o fananas Carwyn!!

Mae'n debyg mai rhiw Llechryd a brofodd i fod yr un mwyaf twff i'r beicwyr, gyda sawl un yn ildio ac yn disgyn oddi ar ei feic i gerdded. Cyrhaeddodd y seiclwyr n么l yn un carfan blinedig tua 4.30 o'r gloch ar sgw芒r Crymych i gymeradwyaeth ffrindiau a chefnogwyr.

Diolch i'r menywod a wnaeth baratoi bwffe yn y clwb i bawb a gymerodd ran - roedd hi'n braf cael rhywbeth teidi i'w fwyta ar 么l yr holl fananas! Llongyfarchiadau i'r holl feicwyr ar eu camp - o'r ifancaf i'r hynaf, o'r profiadol i'r rhai hollol dibrofiad a gobeithio bod y penolau'n well erbyn hyn!

Dymuna Kevin ac Euros ddiolch i bawb sydd wedi noddi'r seiclwyr a gobeithir derbyn yr hol arian i law erbyn Gorffennaf 10fed er mwyn trosglwyddo'r sieciau i'r Ymatebydd Cyntaf a'r Ambiwlans Awyr yn y dyfodol agos. (A gyda llaw, os ych chi eisie prynu bananas, sdim lot ar 么l yn J.K. wes e,Carwyn ?!!)


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy