Mae'n benwythnos o gerddoriaeth a chymdeithasu, sydd wedi tyfu i fod yn ŵyl â rhywbeth at ddant pawb. Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r ŵyl wedi tyfu gyda mwy a bobl
o'r ardal a thu hwnt yn dod i glywed cerddoriaeth gan rai o artistiaid mwyaf adnabyddus Cymru, yn ogystal
â bandiau newydd.
Felly sut oedd Penwythnos Mawr 2008 yn cymharu â'r blynyddoedd llwyddiannus a fu? Er i'r glaw ymddangos sawl gwaith ar Fferm Glangwenlais, Cil-y-cwm yn ystod y penwythnos, wnaeth hyn ddim amharu ar yr awyrgylch gwych a fu drwy gydol yr ŵyl.
Un nodwedd sy'n gwneud y penwythnos mor arbennig yw bod gan fandiau newydd ac ifanc gyfle i berfformio a dangos eu doniau. Yn wir, roedd sawl band a ddisgleiriodd ac yn sicr maent yn ysbrydoliaeth i bobl ifanc yr ardal gydio mewn gitar neu ddrymiau a ffurfio band.
Uchafbwynt nos Wener i mi, a sawl un arall rwy'n siwr oedd
perfformiad gwefreiddiol Dafydd Iwan. Ers rhai blynyddoedd bellach mae e wedi bod yn dod i berfformio yn yr ŵyl, a bob blwyddyn mae ei berfformiad yr un mor gyffrous a ffres.
Canodd yr hen glasuron ac amrywiaeth a ganeuon eraill gan ddenu torf o bob oedran a llwyddo i ddiddanu pawb. Caneuon dwys a'r digri a digon a ddawnsio! Parhaodd y naws bywiog o fwynhad i mewn i oriau man y bore, yn enwedig i'r rhai a fu'n gwersylla.
Unwaith eto roedd nos Sadwrn yn noson wych gyda bandiau fel Celt a Radio Luxembourg yn perfformio. Cafwyd gwrthgyferbyniad llwyr gyda Huw Chiswell yn canu wrth biano yn hamddenol tra bod Radio Luxembourg yn egniol a gwyllt - rhywbeth i blesio pawb!
I fi'n bersonol, roedd y cyfuniad o Radio
Luxembourg a Celt yn llwyddiant llwyr am i'r ddau
annog y gynulleidfa i ddawnsio, canu a mwynhau
mas draw!
Er bod y penwythnos wedi bod yn wlyb, ni wnaeth
hyn ddim niwed i'r awyrgylch drydanol. Roedd yn
wych bod yno a gallu cymdeithasu â phobi ifanc yr
ardal a thu hwnt wrth wrando ar gerddoriaeth gan
sêr y presennol a'r dyfodol. Rwy'n edrych ymlaen at
ŵyl Menter Bro Dinefwr 2009 yn barod!
|