Dywedodd wrth osod y garreg sylfaen yn Mai 1906 "It is my earnest wish that this building with God's help will be a blessing to this neighbourhood and a means of still further spreading the principles of total abstinence that I have so deeply at heart."
Dros gan mlynedd mae'r neuadd wedi gwasanaethu'r ardal ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn ganolfan hamdden i'r milwyr Prydeinig a'r Americanwyr oedd yn Aberglasne.
Mae'r Neuadd yma'n adeilad arbennig, yn fodel o bensaeriaeth ac o ansawdd uchel. Mae'n edrych allan dros brydferthwch Dyffryn Tywi a Bryn y Grongar. Y tu allan mae gwaith pren neilltuol, dau d诺r gyda'r geiriau "Chwerw fydd diod gref i'r rhai a'i yfant" a "Watch and be Sober" ar y llall. Ar y to 'roedd cloc gyda dau wyneb disglair a'r gloch taro i'w chlywed dros bedair milltir. Tu fewn i'r neuadd mae paneli derw, ffenestri lliw, ac ar y pryd roedd goleuadau nwy prydferth iawn. Bu cost y cyfan yn rhodd oddi wrth Mrs Mayhew.
Agorwyd y neuadd ar 16 Ionawr,1908, pan ddaeth 600 o bobl ynghyd, er bod y tywydd yn wael! Yn ystod y seremoni canwyd dau emyn Cymraeg, wedyn te i bawb a gorffen dan ganu Hen Wlad fy Nhadau.
Adeg y Band of Hope a'r Temperance Movement oedd hi, ac roedd Col. a Mrs Mayhew yn flaenllaw iawn yn y mudiadau hyn. Un dydd Sadwrn yn Awst 1906 fe ddaeth 1500 o bobl ynghyd i Dderwen Fawr, a cherdded gyda baneri i Aberglasne dan ganu Marchog lesu o dan arweiniad Dafydd Davies, Pantybas. Yn arwain y dorf roedd ficer poblogaidd y plwyf, y Parchedig Alexander Williams. Yn y cyfnod hwn roedd cyfarfodydd lleol bron bob wythnos naill yn Ysgol Llangathen neu yn Yr Ystafell Ddarllen, Cwrt Henri. Yn y cyfarfodydd hyn roedd y plant a rhai mewn oed yn
cymryd llw a byddai'r dystysgrif yn cael ei arddangos gyda balchder yn y cartrefi.
'Roedd pawb yn bles gyda'r neuadd newydd gan gynnwys Pwyllgor y Plwyf - Dyma gyfle i godi mwy o dreth! Ond pan glywodd Mrs Mayhew am hyn, dywedodd y byddai'n cau'r neuadd a buodd dim s么n am godi trethi wedyn!
I ddathlu'r canmlwyddiant daeth nifer o bobl ynghyd ar Ddydd Sadwrn, 19 Ionawr i rannu eu hatgofion a chael te blasus. 'Roedd sawl un yn cofio dod i'r neuadd pan oeddent yn blant dros hanner canrif yn 么l. Diolch i Bwyllgor y Neuadd o dan gadeiryddiaeth Jack Thomas, T欧'r Eglwys, am drefnu'r wledd.
David Tom Rees
|