大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blackpool O fro Dinefwr i Bwlldu
Tachwedd 2006
Trefnodd Hywel Jones o Gwmdu daith arbennig i griw o fro Dinefwr i Blackpool. Dyma ychydig o hanes y criw yng ngwesty'r cantorion o Gymru Tony ac Aloma.

Ar y penwythnos cyntaf ym mis Hydref trefnais daith i 38 o bobl mewn bws wedi ei logi gan Midway Motors Crymych, i'r Pwlldu (Blackpool) i sefyll yn ngwesty'r Gresham, sydd yn cael ei redeg gan Aloma a'i phriod Roy James a Tony ers 19 mlynedd.

Saif gwesty'r Gresham dafliad carreg o'r adeilad enwog "Winter Gardens" a thua 300 medr o'r t诺r enwog. Roedd wynebau'r teithwyr i gyd i weld yn hapus ar fore dydd Gwener, rhai ar eu taith cyntaf i'r Pwlldu i weld y goleuadau lliwgar enwog, rhai parau priod i ffwrdd am y tro cyntaf ers 35 mlynedd o fywyd priodasol.

Penderfynwyd cael cinio mewn bwyty yn y parc antur o'r enw Coed -y- Dinas tu allan i'r Trallwng. Safle hen fferm yw, a penderfynodd y perchennog arallgyfeirio ar 么l cael ei holl stoc anifeiliaid wedi eu difa pan gafodd ei fwrw gan y clefyd Traed a'r Genau n么l yn 2001. Hyfryd oedd gweld yr adeiladau wedi cael eu troi i wahanol bwrpas, fel t欧^ bwyta, siop fwyd a chanolfan garddio.

Cyraeddasom westy'r Gresham tua amser te, ac ar 么l swper reit flasus roedd Wyndham Rees yn barod i'n gyrru yn ei fws moethus i weld y goleuadau lliwgar sydd yn ymestyn tua 6 milltir a chymerodd hyn awr a hanner. N么l i'r gwesty ble roedd Tony a Roy ar yr allweddellau yn barod i'n diddanu. Aeth y canu ymlaen tan ganol nos, mewn awyrgylch hollol Gymreig.

Bore trannoeth ar 么l brecwast ymweld 芒 Marchnad Fleetwood, ble roedd popeth ar gael am bris rhesymol, yn y prynhawn ymweld 芒 "Ystafell Ddawnsio". Nid oedd yn bosib mynd i fyny i'r T诺r oherwydd gwynt cryf.

Ar 么l swper euthum 芒 thua hanner dwsin ar daith enwog ar y tram am tua pedair milltir i fyny i Bisham. Roedd hyn yn brofiad iddynt, oherwydd nid oeddent wedi teithio ar un o'r blaen. Mae rhan fwyaf o dramiau y Pwlldu yn dyddio n么l i ganol tridegau'r ganrif ddiwethaf. Cyrraedd yn 么l ac yn y gwesty roedd Caryl Parry Jones a'r Band yn barod i'n diddanu sef Christian Phillips (git芒r), Miriam Isaac (ei merch yn canu), a Steffan Rhys Williams, enillydd C芒n i Gymru 1999, (llais / peiriannydd sain). Cawsom wledd o ganu ganddynt. I gloi'r noswaith, fel syrpreis i ni, cawsom weld Tony ac Aloma ar y llwyfan yn canu dwy g芒n sef "Wedi colli rhywun sy'n annwyl" a "Cofion gorau". Yr oeddem i gyd yn ddiolchgar i Aloma am frwydro i ganu, oherwydd cyflwr ei hiechyd.

Ar 么l brecwast blasus fore Sul, rhaid oedd troi yn 么l am adre gan alw yn Chorley i ymweld 芒 siop enfawr "Bygone Times" yn cynnig pob math o hen bethau fel offer ffermio, hen gelfi, ambell feic ac arwyddion hynafol fel "Lyons Tea" a'i debyg. Heb ddatgelu unrhyw enw, roedd Wyndham yn fwy na pharod i gludo ym mol y bws pethau fel cadair siglo, bwrdd crwn, stondin cylchgronau a set procio t芒n.

Erbyn hyn maent mewn cartrefi clud "rywle ym Mro Dinefwr". Roedd pawb yn awyddus i gael cinio rhost Dydd Sul fel arfer, a threfnais ymlaen llaw i alw yn 么l yn Coed -y- Dinas, a chafodd pawb wledd. Cyrhaeddom yn 么l i Fro Dinefwr tua 7 o'r gloch.

Bwriedir mynd n么l i'r Gresham yn yr ail benwythnos ym mis Hydref 2007,gan fod y gwesty eisioes wedi llogi Iona ac Andy a'u Canu Gwlad i diddanu am y penwythnos. Mae Aloma, Roy, a Tony bob amser yn falch i weld rhai o Gymru yn dod i sefyll yn eu gwesty yn enwedig yn ystod tymor y goleuadau. Mae adloniant Cymreig wedi ei baratoi ganddynt o flaen llaw i'r gwestion.

Carwn ddiolch i bawb am fy nghefnogi, ac i Wyndham Rees gyrrwr a pherchennog Midway Motors Crymych am daith hwylus.

Hywel Jones


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 大象传媒 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy