大象传媒

Explore the 大象传媒
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

大象传媒 Homepage
大象传媒 Cymru
大象传媒 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

大象传媒 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Jill Evans ASE O'r Dwyrain Canol
Ionawr 2003
Mae Jill Evans ASE yn cynrychioli ardal Y Lloffwr yn y Senedd Ewropeaidd a llynedd bu hi ar daith i'r Dwyrain Canol. Roedd hi yno fel rhan o ddirprwyaeth o Senedd Ewrop i gyfarfod 芒 chynrychiolwyr o'r awdurdodau Israelaidd a Phalesteinaidd, gan gynnwys arweinydd y Palesteiniaid, Yasser Arafat...

Mae rhai profiadau yn llwyddo i newid eich bywyd ac roedd f'ymweliad diweddar 芒 Phalesteina ac Israel yn un ohonyn nhw. Fe fydd y golygfeydd o dlodi, trais, creulonder a difodiant yn aros gyda mi am byth. Fel ymgyrchydd dros heddwch ers amser hir a Chadeirydd CND Cymru, roeddwn yn meddwl fy mod i'n gwybod beth i'w ddisgwyl ar y Lan Orllewinol. Roeddwn yn anghywir. Ni allai dim fod wedi fy mharatoi ar gyfer y golygfeydd dirdynnol a'r dicter a'r teimladau a ddaeth drosof wrth weld yr anghyfiawnder a ddioddefodd pobl Palesteina.

Crynhowyd hyn orau imi gan Faer Bethlehem, y cwrddais ag ef drannoeth diwedd y gwarchae ar Eglwys y Preseb. Dywedodd fod yr Israeliaid wedi dod i Fethlehem i ddifa nid yn unig sefydliadau'r wladwriaeth Balesteinaidd ond hefyd fywydau'r dinasyddion mewn ymdrech i dorri'u calonnau a'u brawychu. Y niwed gwaetha, meddai, oedd y niwed anweledig: y chwerwder a'r llid sy'n troi plant diniwed yn forwyr hunanaberthol.

Ymweld 芒 Balatha
A dyma a welsom ni ym mhobman - fandaliaeth a chwalfa a fwriadwyd i dorri ysbryd y bobl. Yn Balatha. gwersyll mwya'r ffoaduriaid ar y Lan Orllewinol gyda 20,000 o breswylwyr, cafodd tai eu chwalu gan adael 250 o deuluoedd yn ddigartref, a chan ddifa'r is-adeiledd sylfaenol. Y gair a ddefnyddiwn yw gwersyll' ac er bod pebyll yma ac acw i'r sawl sydd wedi colli'u cartrefi, mewn gwirionedd maen nhw'n debycach i ganol dinasoedd. Mae poblogaeth Balatha'n tyfu'n gyflym ac fe ddywedir nad yw wedi gweld un dydd heddychlon yn ystod ei hanes. Dyma lle cychwynnodd ymosodiad diweddar yr Israeliaid a dodwyd gwarchae ar y preswylwyr am chwech wythnos ym mis Mawrth. Yma hefyd y clywsom gyntaf rieni yn mynegi eu gofidiau am y bobl ifanc oedd wedi colli pob ffydd yn y broses heddwch.

Yn y gwersyll sy bellach yn adnabyddus, Jenin, roedd ardal gymharol eang wedi'i chwalu i'r llawr. Defnyddiodd Mr Ahmed Qurie, Llefarydd Awdurdod Deddfwriaethol Palesteina, ymadrodd sy'n delweddu i'r dim i bawb ddeall - "ground zero". Yn llythrennol doedd dim byd ar 么l. Roedd plant yn chwarae yng nghanol y rwbel. Daeth gwraig ata i oedd am ddangos imi beth oedd ar 么l o'i chartref. Roedd yn adfail ac yn edrych mewn perygl o ddymchwel unrhyw funud, ond roedd hi'n dal i fyw yno gyda saith o blant, heb unman arall i fynd iddo. Roedd cerdded o gwmpas Jenin yn dorcalonnus. Yn 么l y bobol, roedd y milwyr wedi dewis y rhan honno o'r gwersyll am ei bod y fwyaf poblog.

Efallai i'r dystiolaeth gryfaf ddod oddi wrth gyfarwyddwr yr ysbyty lleol, Dr Muhammed I Abu-Ghali. Adroddodd hanesion brawychus am noson yr ymosodiad a'i ymdrechion i ymgeleddu'r clwyfedig. Lladdfa oedd hon yn ei farn ef. Doedd neb yn sicr faint gafodd eu lladd ond hyd yn oed heb gannoedd o gyrff, roedd y niwed a wnaed i'r gymuned hon yn gyflafan seicolegol.

Mae gweithred filwrol Israel yn ddiamheuaeth yn ymgais i ddifa'r sefydliadau a luniwyd gan y Palesteiniaid dros ddeng mlynedd. Mae'r holl weinyddiaethau llywodraethol wedi'u difa ac adeiladau'r llywodraeth leol hyd yn oed, fel yr un a welais ym Methlehem, wedi dioddef ymosodiadau a'u fandaleiddio'n helaeth. Roedd prif swyddfeydd cyrff gwirfoddol wedi cael triniaeth debyg a'u holl gyfrifiaduron a'u cofnodion wedi eu dwyn neu eu difa.

Yr un oedd y stori, wrth reswm, yn Ramallah a Phencadlys Yasser Arafat. I fynd yno roedd rhaid i ni fynd trwy nifer o siecbwyntiaur fyddin, oedd yn broses hir a diflas. Roedd y lleoliad ei hun, lle bu Arafat yn garcharor dros bum wythnos, o dan warchae difrifol. Roedd ceir a faniau wedi'u chwalu gan danciau ac roedd olion bwledi a ffrwydron tanciau'n gorchuddio'r muriau.

Neges Yasser Arafat
Fe gwrddon ni 芒 Yasser Arafat a siaradodd yn fanwl am ddifrifoldeb sefyllfa'r Palesteiniaid. y dyhead am heddwch a'i ofn fod trais yn ymchwyddo'n ddireolaeth. Gofynnodd inni ddod 芒'r neges n么l gyda ni, fod angen lluoedd rhyngwladol ar frys i gadw'r heddwch ac y dylid pwyso'n drwm ar yr Unol Daleithiau i roi'r gorau i gefnogi ymyrraeth anghyfreithlon Israel yn nhiroedd y Palesteiniaid.

Ar ddydd olaf f'ymweliad mi es i Fethlehem i gyfranogi o'r Offeren yn Eglwys y Preseb i ddathlu diwedd y gwarchae ac ymadawiad y milwyr o'r dref. Roedd yn emosiynol dros ben, yn enwedig pan ganodd clychau'r eglwys am y tro cynta ar 么l bod yn dawel ers chwech wythnos - y tro cynta erioed yn eu hanes. Roeddwn yn ddiolchgar fod y gwarchae drosodd ac y gallwn innau rannu'r foment hon gyda fy nghyfeillion Palesteinaidd.

Jill Evans ASE


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
大象传媒 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 大象传媒 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy